Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol, Brif Weinidog, bod problemau gweinyddu i ffermwyr sydd â thir sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr o ran y cynllun taliadau sylfaenol sydd, bob blwyddyn, yn arwain at oedi mewn gwneud taliadau. Mae rheolau Ewropeaidd ynghylch hawlwyr trawsffiniol yn ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth taliad sengl yng Nghymru a Lloegr fod ag asiantaeth ar wahân. A ydych chi’n teimlo, o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE, bod cyfle yma i gael system sy'n gallu datrys y broblem oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater arwyddocaol i lawer o ffermwyr yn Sir Drefaldwyn?