Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle gwych i ni yng Nghymru lunio polisi amaethyddol yn unol â’n hanghenion ein hunain? Bydd UKIP yn chwarae ei rhan lawn i helpu Llywodraeth Cymru ddatblygu polisi o'r fath, sy'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy annealladwy y dylai'r Llywodraeth fod yn dilyn y trywydd y mae’n ei ddilyn yn y Goruchaf Lys heddiw fod pwerau'r Cynulliad hwn yn mynd i gael eu lleihau rywsut. O ganlyniad i adael yr UE, byddwn yn cael mwy o rym yn y Cynulliad, nid llai. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn edrych ymlaen ato ac yn ei groesawu, nid yn ceisio ei rwystro a’i atal.