Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Ie. Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at yr addewid gan Lywodraeth y DU i ddarparu arian cyfatebol. Dywedodd Paul Maynard, Gweinidog trafnidiaeth y DU, yn benodol wrth Lywodraeth Cymru i wneud cais am gyllid cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, felly a ydych chi’n cytuno nad yw'r bleidlais Brexit o reidrwydd yn unrhyw rwystr i fwrw ymlaen â phrosiect metro de Cymru?