1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0317(FM)
Gwnaf. Amcangyfrifwyd mai £734 miliwn fydd cost prosiect cam 2 y metro a bydd y gost derfynol yn cael ei phennu yn ystod trafodaethau caffael. Nid yw’r cyllid hwnnw’n cynnwys arian cyfatebol o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, yr ydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU ei anrhydeddu o ran darparu’r cyllid hwn.
Ie. Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at yr addewid gan Lywodraeth y DU i ddarparu arian cyfatebol. Dywedodd Paul Maynard, Gweinidog trafnidiaeth y DU, yn benodol wrth Lywodraeth Cymru i wneud cais am gyllid cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, felly a ydych chi’n cytuno nad yw'r bleidlais Brexit o reidrwydd yn unrhyw rwystr i fwrw ymlaen â phrosiect metro de Cymru?
Nid o ran bwrw ymlaen ag ef, ond o ran ei faint, bydd, bydd o bosibl yn lleihau ei faint. Os nad yw'r elfen cyllid Ewropeaidd o £125 miliwn yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU, yna mae'n amlwg na all y metro fynd yn ei flaen ar yr un cyflymder ac o ran yr un uchelgais ag y byddai wedi ei wneud fel arall. Felly, oes, mae bwlch o £125 miliwn y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ei lenwi, fel arall ni all prosiect y metro fod mor uchelgeisiol ag y byddem ni’n dymuno iddo fod, er, yn amlwg, gall symud ymlaen, ond nid yn union yn y ffordd y byddem ni wedi ei ddymuno.