Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Nid o ran bwrw ymlaen ag ef, ond o ran ei faint, bydd, bydd o bosibl yn lleihau ei faint. Os nad yw'r elfen cyllid Ewropeaidd o £125 miliwn yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU, yna mae'n amlwg na all y metro fynd yn ei flaen ar yr un cyflymder ac o ran yr un uchelgais ag y byddai wedi ei wneud fel arall. Felly, oes, mae bwlch o £125 miliwn y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ei lenwi, fel arall ni all prosiect y metro fod mor uchelgeisiol ag y byddem ni’n dymuno iddo fod, er, yn amlwg, gall symud ymlaen, ond nid yn union yn y ffordd y byddem ni wedi ei ddymuno.