1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ne Cymru? OAQ(5)0311(FM)
Mae perfformiad ambiwlansys ledled Cymru wedi bod yn hynod gadarnhaol ers cyflwyno'r cynllun arbrofol model ymateb clinigol, gan ragori ar y targed ym mhob mis yn y flwyddyn gyntaf—y targed cenedlaethol, hynny yw—ym mhob mis yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun arbrofol.
Rwy’n croesawu’r newyddion hynny, ac mae'n hynod gadarnhaol. Mae'n hanfodol bwysig i’m hetholwyr i gan fod yr amser ymateb i’r problemau hynny sy’n bygwth bywyd yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn amlwg, i'w bywydau, ond hefyd i'w teuluoedd, o wybod bod y sicrwydd ganddyn nhw y bydd ambiwlans, ar alwad goch, yno mewn da bryd.
Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod gennym ni’r broblem barhaus hon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran gwastraffu amser ambiwlansys mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Nid yw’n unigryw i Gymru ac mae wedi bod yn hir a pharhaus. Rwy'n credu bod yr un cais rhyddid gwybodaeth wedi awgrymu bod dros 500,000 o oriau wedi eu gwastraffu yn y DU. Wrth gwrs, mae'r rhain yn ambiwlansys a allai fod allan yn gwneud y gwaith da y mae angen iddyn nhw ei wneud yn hynod effeithlon. Tybed beth allwch chi ei ddweud o ran sut yr ydym ni’n rhoi sylw i'r mater hwn, nid yn unig nawr wrth i ni wynebu pwysau’r gaeaf hefyd, ond yn y blynyddoedd i ddod hefyd. Gwnaed cynnydd aruthrol o ran yr amser ymateb galwad coch, ond sut ydym ni’n ymdrin â’r oriau gwastraff hynny sy’n eistedd yno y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys? Nid mater i Gymru’n unig yw hwn. Sut ydym ni am wneud hyn yn iawn ar draws yr holl wahanol wledydd hefyd?
Mae sawl ffordd o’i wneud. Un yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu hasesu'n briodol pan fyddant yn cyrraedd o ran ble maen nhw’n mynd i gael triniaeth, gan sicrhau y gall ambiwlansys adael cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu canolbwyntio adrannau damweiniau ac achosion brys mewn canolfannau penodol ledled Cymru. Rydym ni’n gallu cynnig rhywfaint o arbenigedd—mae hynny wedi bod yn anodd—ond er hynny rydym ni’n gwybod ei fod yn rhoi canlyniad gwell i bobl. Byddwn yn dweud ein bod ni’n gweld gwelliant o ran amseroedd aros ambiwlansys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys drwy'r amserau ymateb i'r galwadau lle y ceir y bygythiad mwyaf uniongyrchol i fywyd. Mae'r ffaith bod mwy a mwy o'r galwadau hyn yn cael eu cyrraedd o fewn yr amser a neilltuwyd yn arwydd bod ambiwlansys yn gadael adrannau damweiniau ac achosion brys yn gyflymach fel arfer. Bydd, mi fydd rhai pwysau o bryd i’w gilydd ar rai dyddiadau, pan fo nifer fawr o bobl yn cyrraedd yn annisgwyl. Ond mae e'n iawn, os edrychwch chi ar y galwadau lle y ceir y bygythiad mwyaf uniongyrchol i fywyd, mae’r amser ymateb yng Ngogledd Iwerddon yn 51.2 y cant; oddeutu 65 y cant yn Lloegr; 66.4 y cant yn yr Alban; a 79.5 y cant yng Nghymru. Mae hynny’n glod i’r parafeddygon sydd gennym ni yng Nghymru ac yn wir Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,.