Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac awdurdodau lleol eraill yn y gogledd-ddwyrain ers peth amser i helpu i nodi a chefnogi rhwydwaith bysiau lleol cynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a gydag eraill, gan gynnwys Bus Users Cymru a Busnes Cymru, er mwyn helpu i greu amgylchiadau lle gellir cyflawni rhwydwaith bysiau cynaliadwy.