2. Cwestiwn Brys: RJ's o Wem

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:19, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am eich ateb. Nid wyf yn siŵr a yw’n dweud llawer mwy wrthym, yn arbennig am y gwasanaethau a fydd yn cael eu colli mewn wythnos neu ddwy. Yn dilyn y traed moch a waned o sefyllfa GHA Coaches dros yr haf, wrth gwrs, y peth olaf y mae ei angen arnom yw rhagor o ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau dros y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd. Nawr, rwy’n deall bod proses dendro newydd ar y gweill, ond, mae'n debyg, gyda dyddiad cychwyn newydd ar y contract, sef 1 Ebrill 2017. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ba un a yw hynny'n golygu na fydd unrhyw wasanaethau yn y cyfamser, a goblygiadau hyn ar deithwyr sydd angen y gwasanaethau i fynd i'r gwaith, i addysg, ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol?

Siawns, na fyddai dirymu’r trwyddedau hyn yn syndod o ystyried hanes GHA Coaches, felly beth ddigwyddodd i wiriadau diwydrwydd dyladwy a’r sefyllfa ariannol pan roddodd yr awdurdod lleol y contract i RJ o Wem? Siawns, y gellid bod wedi rhagweld hyn, ac onid yw hynny'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y cawsant y contract yn y lle cyntaf?