– Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddirymu trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus RJ's o Wem, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? EAQ(5)0096(EI)[W]
Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac awdurdodau lleol eraill yn y gogledd-ddwyrain ers peth amser i helpu i nodi a chefnogi rhwydwaith bysiau lleol cynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a gydag eraill, gan gynnwys Bus Users Cymru a Busnes Cymru, er mwyn helpu i greu amgylchiadau lle gellir cyflawni rhwydwaith bysiau cynaliadwy.
Wel, diolch i chi am eich ateb. Nid wyf yn siŵr a yw’n dweud llawer mwy wrthym, yn arbennig am y gwasanaethau a fydd yn cael eu colli mewn wythnos neu ddwy. Yn dilyn y traed moch a waned o sefyllfa GHA Coaches dros yr haf, wrth gwrs, y peth olaf y mae ei angen arnom yw rhagor o ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau dros y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd. Nawr, rwy’n deall bod proses dendro newydd ar y gweill, ond, mae'n debyg, gyda dyddiad cychwyn newydd ar y contract, sef 1 Ebrill 2017. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ba un a yw hynny'n golygu na fydd unrhyw wasanaethau yn y cyfamser, a goblygiadau hyn ar deithwyr sydd angen y gwasanaethau i fynd i'r gwaith, i addysg, ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol?
Siawns, na fyddai dirymu’r trwyddedau hyn yn syndod o ystyried hanes GHA Coaches, felly beth ddigwyddodd i wiriadau diwydrwydd dyladwy a’r sefyllfa ariannol pan roddodd yr awdurdod lleol y contract i RJ o Wem? Siawns, y gellid bod wedi rhagweld hyn, ac onid yw hynny'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y cawsant y contract yn y lle cyntaf?
Bydd, bydd yr Aelod yn ymwybodol o ddadlau lleol yn sgil cyhoeddi contract RJ o Wem â’r cyngor. Lluniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gontract ag RJ gan wybod bod y cyfarwyddwyr gynt yn goruchwylio GHA Coaches. Nawr, mae colli'r drwydded weithredu yn golygu y bydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am asesu amgylchiadau a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys unrhyw wasanaeth y gellir ei ddarparu i'r trigolion hynny nad oes gwasanaeth ar gael iddynt, o bosibl, am gyfnod ar ôl 19 Rhagfyr, pan fydd y drwydded yn cael ei dirymu. Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw fy mod i ar hyn o bryd yn ystyried cynnig cymorth ariannol i awdurdodau lleol yn y gogledd, a byddaf yn penderfynu yn ystod y dyddiau nesaf i helpu gyda'r pwysau sydd nid yn unig yn wynebu Wrecsam, ond hefyd Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Rwyf hefyd wedi penderfynu darparu arian ar gyfer adnodd bws pwrpasol yn yr awdurdodau lleol i sicrhau y gellir gwarantu cynaliadwyedd y rhwydwaith bysus.
Mewn datganiad ym mis Hydref, dywedasoch wrth y Cynulliad
‘rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol’, gan gynnwys GHA Coaches, sy'n darparu gwasanaethau ar lwybrau bysiau ysgol ar draws y gogledd-ddwyrain yn ogystal â Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, ysgrifennwyd atoch adeg eich penodi ym mis Mai—saith wythnos cyn cau GHA Coaches—gan amryw gwmnïau a sefydliadau yn datgan na fyddent yn gallu cynnal eu gwasanaethau pe bai grantiau yn parhau i gael eu derbyn yn hwyr, a’u bod mewn perygl o gau oherwydd y problemau llif arian yr oedd hyn yn eu hachosi—wrth gwrs, gan gyfeirio at y grant cynnal gwasanaethau bws, sydd hefyd yn ariannu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol. Mae’r broblem yn Sir y Fflint wedi ei chymhlethu gan gynnig unigryw y cyngor i drosglwyddo gwasanaethau bws i'r gymuned, er gwaethaf y darparwyr cludiant cymunedol rhagorol sydd ar gael yno, gan ddatgan nad ydynt yn gwmnïau bysiau ac nid oes diddordeb ganddynt mewn darparu gwaith bws cymunedol. Sut, felly, byddwch chi’n mynd i'r afael â'r materion hyn, nid yn unig oherwydd y problemau presennol neu sydd ar fin digwydd, ond hefyd y problemau mwy yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar ddefnyddwyr llwybr bysiau y gymuned a’r gymuned ehangach o ran parhad a thalu ymlaen llaw y grant cymorth gwasanaethau bysiau, gan nodi na allwn aros am adolygiad arall yn y flwyddyn newydd, mae angen yr arian hwn yn eu cyfrifon banc cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf?
Rwy'n credu bod y feirniadaeth o Gyngor Sir y Fflint yn benodol yn sgil cymhelliant gwleidyddol, os caf ddweud hynny, oherwydd bod awdurdodau lleol eraill yn defnyddio gwasanaethau GHA. Y ffaith amdani yw bod Cyngor Sir y Fflint—mewn gwirionedd, yn wahanol i awdurdodau lleol eraill—wedi cadw grant cynnal gwasanaeth o fwy nag £1 miliwn. O ganlyniad i hyn, maent wedi gallu adfer gwasanaethau mewn sawl rhan o Sir y Fflint. A dweud hynny, ar hyn o bryd rwy'n ystyried adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol y gogledd-ddwyrain allu goresgyn yr hyn yr wyf yn gobeithio eu bod yn anawsterau tymor byr, a gallu casglu’r pwerau sydd eu hangen arnom dros wasanaethau bws, ac i newid ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy’n cydnabod bod yr Aelod wedi adlewyrchu pryderon gweithredwyr bysiau a fynegwyd yn gynharach yn yr haf, ond, mewn gwirionedd, bu’r pryderon hynny yn bodoli ers dadreoleiddio, a fu, a dweud yn blaen, yn drychinebus.
O ran y cymorth yr ydym yn ei gynnig i awdurdodau lleol, er gwaethaf y toriadau ariannol enfawr i'n cyllideb, rydym ni wedi cynnal, ar £25 miliwn, lefel y gefnogaeth i awdurdodau lleol am sawl blwyddyn bellach. Fel yr wyf wedi’i ddweud ar sawl achlysur, byddem yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol yn dangos lefel debyg o ymrwymiad i wasanaethau bysiau drwy gynnal y math o gymorth y mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda Bus Users Cymru, a gyda sefydliadau eraill, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd a’r uwchgynhadledd fysiau yr wyf wedi penderfynu ei chynnal ar 23 Ionawr yn Wrecsam.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.