Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mewn datganiad ym mis Hydref, dywedasoch wrth y Cynulliad
‘rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol’, gan gynnwys GHA Coaches, sy'n darparu gwasanaethau ar lwybrau bysiau ysgol ar draws y gogledd-ddwyrain yn ogystal â Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, ysgrifennwyd atoch adeg eich penodi ym mis Mai—saith wythnos cyn cau GHA Coaches—gan amryw gwmnïau a sefydliadau yn datgan na fyddent yn gallu cynnal eu gwasanaethau pe bai grantiau yn parhau i gael eu derbyn yn hwyr, a’u bod mewn perygl o gau oherwydd y problemau llif arian yr oedd hyn yn eu hachosi—wrth gwrs, gan gyfeirio at y grant cynnal gwasanaethau bws, sydd hefyd yn ariannu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol. Mae’r broblem yn Sir y Fflint wedi ei chymhlethu gan gynnig unigryw y cyngor i drosglwyddo gwasanaethau bws i'r gymuned, er gwaethaf y darparwyr cludiant cymunedol rhagorol sydd ar gael yno, gan ddatgan nad ydynt yn gwmnïau bysiau ac nid oes diddordeb ganddynt mewn darparu gwaith bws cymunedol. Sut, felly, byddwch chi’n mynd i'r afael â'r materion hyn, nid yn unig oherwydd y problemau presennol neu sydd ar fin digwydd, ond hefyd y problemau mwy yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar ddefnyddwyr llwybr bysiau y gymuned a’r gymuned ehangach o ran parhad a thalu ymlaen llaw y grant cymorth gwasanaethau bysiau, gan nodi na allwn aros am adolygiad arall yn y flwyddyn newydd, mae angen yr arian hwn yn eu cyfrifon banc cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf?