Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Rwy'n credu bod y feirniadaeth o Gyngor Sir y Fflint yn benodol yn sgil cymhelliant gwleidyddol, os caf ddweud hynny, oherwydd bod awdurdodau lleol eraill yn defnyddio gwasanaethau GHA. Y ffaith amdani yw bod Cyngor Sir y Fflint—mewn gwirionedd, yn wahanol i awdurdodau lleol eraill—wedi cadw grant cynnal gwasanaeth o fwy nag £1 miliwn. O ganlyniad i hyn, maent wedi gallu adfer gwasanaethau mewn sawl rhan o Sir y Fflint. A dweud hynny, ar hyn o bryd rwy'n ystyried adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol y gogledd-ddwyrain allu goresgyn yr hyn yr wyf yn gobeithio eu bod yn anawsterau tymor byr, a gallu casglu’r pwerau sydd eu hangen arnom dros wasanaethau bws, ac i newid ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy’n cydnabod bod yr Aelod wedi adlewyrchu pryderon gweithredwyr bysiau a fynegwyd yn gynharach yn yr haf, ond, mewn gwirionedd, bu’r pryderon hynny yn bodoli ers dadreoleiddio, a fu, a dweud yn blaen, yn drychinebus.
O ran y cymorth yr ydym yn ei gynnig i awdurdodau lleol, er gwaethaf y toriadau ariannol enfawr i'n cyllideb, rydym ni wedi cynnal, ar £25 miliwn, lefel y gefnogaeth i awdurdodau lleol am sawl blwyddyn bellach. Fel yr wyf wedi’i ddweud ar sawl achlysur, byddem yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol yn dangos lefel debyg o ymrwymiad i wasanaethau bysiau drwy gynnal y math o gymorth y mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda Bus Users Cymru, a gyda sefydliadau eraill, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd a’r uwchgynhadledd fysiau yr wyf wedi penderfynu ei chynnal ar 23 Ionawr yn Wrecsam.