Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Helo—diolch i chi, Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn i yn fy myd bach fy hun, yn y fan yna, oeddwn wir. [Chwerthin.] Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n chwarae o gwmpas â’ch cyfrifiadur.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni dri datganiad os gwelwch yn dda? Mae’r un cyntaf yn ymwneud â thrafodaethau’r Llywodraeth â Chwmni Moduron Ford mewn cysylltiad â'r ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pan ymatebodd y Gweinidog i'r cwestiwn brys, fe gyfeiriodd at y ffaith y byddai'n mynd i Detroit i siarad â phencadlys rheoli Ford yn America a wnaeth y penderfyniad i leihau cynhyrchiant yn y ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mewn ymateb ysgrifenedig a gefais ganddo yr wythnos diwethaf, mae wedi nodi nad oes ganddo unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, hyd y gellir rhagweld, i fynychu unrhyw gyfarfodydd yn ymwneud â thîm rheoli rhyngwladol Ford. Rwy'n credu bod hyn yn bryder sy'n peri gofid, o ystyried yr honiad a nodwyd mewn ymateb i'r cwestiwn brys, ac erbyn hyn nid oes unrhyw gyfarfodydd wedi’u cynllunio. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu sut yn union y mae'n symud ymlaen â’i drafodaethau i roi sicrwydd ynglŷn â hyfywedd tymor hir y ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch ardrethi busnes? Y tymor hwn, mae hynny wedi bod yn destun cyfraniadau yn y Siambr hon ac yn rhywbeth sydd wedi llenwi sachau post llawer o Aelodau. Mae gennym un wythnos ar ôl cyn toriad y Nadolig. Mae’r Prif Weinidog, i fod yn deg, wedi crybwyll mewn ymatebion i'r Siambr hon y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd o ran yr arian trosiannol sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru a, phan rwy’n sôn am hyblygrwydd, rwy’n golygu cynyddu’r swm o ryddhad trosiannol a allai fod ar gael i fusnesau. Croesewir yn fawr iawn, iawn, pe byddai’r Llywodraeth, cyn i’r sefydliad hwn fynd ar doriad dros y Nadolig, yn cyflwyno datganiad naill ai’n cadarnhau ei bod am wneud cynnydd o ran y mater hwn, neu’n dweud, na, bydd yn rhaid i chi dderbyn yr hyn sydd gennych chi a’r hyn sydd i ddod ym mis Ebrill. Rwy’n credu bod busnesau mewn sefyllfa nawr ble maen nhw eisiau sicrwydd, ni waeth ba mor ddrwg y gallai’r sicrwydd hwnnw fod, neu, gobeithio, ba mor dda y gallai’r sicrwydd hwnnw fod, pe byddai'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd ynghylch y rhyddhad trosiannol.
Gofynnir am y trydydd datganiad, os yw’n bosibl, gan y Gweinidog dros iechyd ynglŷn ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Mae fy nghydweithiwr, Darren Millar, wedi amlygu ar sawl achlysur na chaiff galwadau 999 mewn cysylltiad â thrawiad ar y galon a strôc eu cynnwys yng nghategorïau brys y gwasanaeth ambiwlans. Mae honno'n sefyllfa sy’n peri llawer iawn iawn o ofid, os ydych chi’n meddwl, am bob munud a wastreffir wrth ymateb i alwadau ynghylch trawiadau ar y galon, y ceir gostyngiad o 10 y cant yng ngallu’r claf hwnnw i oroesi. Felly, byddwn yn ddiolchgar—ac rwy’n gallu gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn parablu yn y fan yna— byddwn yn ddiolchgar pe gallai fynd ati i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i ni er mwyn cadarnhau a yw'n wir nad ystyrir galwadau yn ymwneud â thrawiadau ar y galon a strôc mewn gwirionedd yn faterion brys. A gawn ni’r sicrwydd hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig cyn i ni fynd ar doriad dros y Nadolig?