Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Andrew R.T. Davies, am eich cwestiynau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cyfarfod ag uwch-reolwr Ford yn Ewrop, ac mae’n chwarae rhan lawn wrth sicrhau’r ffatrïoedd peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ynglŷn â’ch ail bwynt, fel y gwyddoch chi’n iawn, bu ymgynghoriad o ran yr ardrethi busnes a’r rhyddhad trosiannol. Wrth gwrs, rydym yn nodi eich sylwadau. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb, fel, yn wir, y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a bydd yn cymryd sylw o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mewn cysylltiad â’ch trydydd pwynt, mae hyn yn fater o bryder, yr hyn yr ydych chi wedi'i godi heddiw. Rwyf ond eisiau, eto, nodi’r pwynt, mewn ymateb i gwestiynau ar gyfer y Prif Weinidog, mai’r model ymateb clinigol newydd hwn sydd wedi golygu bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn arwain y ffordd, fel y cydnabuwyd yn genedlaethol, y tu allan i Gymru, o ran y cyfryngau, y wasg ac o ran diddordeb, wrth gwrs, yn y ffordd yr ydym ni’n dangos pa mor gyflym yr ydym ni’n ymateb i gleifion sy'n ddifrifol wael, a fyddai, wrth gwrs, yn cynnwys cleifion yr honnir eu bod wedi dioddef strôc a thrawiad ar y galon—gan gyrraedd y targed cenedlaethol bob mis ym mlwyddyn gyntaf y cynllun peilot, felly. Mae’n ymwneud â newidiadau a lywir yn glinigol, gan alluogi cleifion i dderbyn yr ymateb cywir, yn seiliedig ar eu hangen clinigol, ac mae'n galonogol. Rwy’n gobeithio y byddech chi’n ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod rhannau eraill o'r DU yn cymryd sylw o'n cynnydd, a bod Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban wedi cyhoeddi y byddant yn gweithredu system debyg iawn cyn bo hir.