Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Heddiw yw dyddiad cyhoeddi canlyniadau PISA 2015. Gadewch imi fynd yn syth at y pwynt: byddai pob un ohonom wedi hoffi gweld mwy o gynnydd. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn cytuno yn y Siambr hon nad ydym lle yr hoffem fod. Roedd y profion hyn, a gynhaliwyd y llynedd, yn cynnwys hanner miliwn o blant 15 oed mewn 72 o wledydd. Yma yng Nghymru, mae ein hadroddiad cenedlaethol yn dweud bod ein canlyniadau darllen wedi sefydlogi. Roedd ein sgôr mathemateg yn dangos y cynnydd mwyaf yn y DU. O'r gwledydd hynny a wnaeth yn well ac a sgoriodd dros 450 o bwyntiau, dim ond pedair gwlad o'r 71 a gymerodd ran yn PISA a welodd gynnydd mwy mewn mathemateg. Ond, o ran gwyddoniaeth, pwyslais y cylch asesu hwn, mae'r canlyniadau, a dweud y gwir, yn siomedig iawn, iawn. Ac er bod y sgôr gwyddoniaeth cyfartalog wedi gostwng ar draws yr OECD, ni ddylai hyn fod yn unrhyw gysur i ni. Byddaf yn dweud mwy am wyddoniaeth yn y man. Rwyf wedi ei gwneud yn glir mai tystiolaeth ryngwladol, a dysgu gan y gorau, fydd yn llywio ein diwygiadau. Byddwn yn dal at hynny. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau hyn a'r data cyfoethog y maen nhw’n eu rhoi inni, ynghyd â'r adroddiad OECD sydd ar ddod, i gefnogi a herio fy mlaenoriaethau a fy rhaglen. Pan wahoddais yr OECD y mis diwethaf i edrych ar sut yr oeddem yn gwneud yng Nghymru, roedd eu cyngor imi’n ddiamwys: daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn.
Ac rwy’n gweld yr ymrwymiad i ddal at ein diwygiadau ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi ymweld â llawer o ysgolion ledled y wlad yn fy nghyfnod byr ers dechrau yn y swydd hon. Mae awydd i fod yn rhan o'n taith addysg. Nid ydym wedi blino ar ddiwygio mwyach, sef asesiad yr OECD o Gymru yn ôl yn 2014. Mae gan Gymru bellach gyfeiriad teithio clir. Mae gennym gynlluniau ar waith i ddatblygu gweithlu proffesiynol rhagorol. Rydym yn gwybod beth yr hoffem i'n cwricwlwm newydd ei gyflawni. Rydym yn cyflwyno cymwysterau cadarn a fydd yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith wedi’i ddechrau, ond mae llawer, llawer mwy i'w wneud.
Dywedodd adroddiad 2014 yr OECD ar system addysg Cymru wrthym hefyd y dylem, ac rwyf yn dyfynnu,
'Trin datblygu arweinyddiaeth systemau fel un o brif sbardunau diwygio addysg'.
Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i hyrwyddo a chefnogi arweinyddiaeth fod yn ganolog i'n diwygiadau. Fodd bynnag, os wyf yn onest, nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwn. Dyna pam, y mis diwethaf, y cyhoeddais gynlluniau ar gyfer academi genedlaethol newydd o arweinyddiaeth addysgol. Bydd yn datblygu talent arweinyddiaeth presennol Cymru a thalent y dyfodol ac yn sicrhau bod pob ysgol—pob ysgol—yn gallu cyflawni ein cwricwlwm newydd. Nawr yn fwy nag erioed, mae ar Gymru angen arweinyddion cryf sy'n barod am yr her.
Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â gwyddoniaeth sy'n cyd-daro â’n dealltwriaeth ni o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd. Y mis Medi hwn ddiwethaf, cyflwynwyd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd i’w haddysgu am y tro cyntaf. Rwy’n falch bod ysgolion eisoes yn symud oddi wrth addysgu cymysgedd o BTEC a TGAU, a oedd yn methu ag arfogi ein pobl ifanc yn briodol. Lywydd, mae'n ofid imi ddweud bod cyfuniad o sinigiaeth, gorsymleiddio ac uchelgeisiau is wedi golygu bod nifer sylweddol o ysgolion yn yr arfer o gofrestru nifer uchel o ddisgyblion ar gyfer BTEC gwyddoniaeth yn unig yn hytrach nag ar gyfer TGAU. Rwy'n falch o ddweud, dros yr haf, ein bod wedi gweld cynnydd o dros 5,500 yn fwy o gofrestriadau TGAU ar draws yr holl wyddorau. Er bod hynny'n addawol, dim ond y dechrau yw hynny. Dros y misoedd nesaf byddaf yn cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol newydd i fynd i'r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu i astudio gwyddoniaeth ar lefel uchel.
Rwy’n gwybod bod PISA yn hollti barn. Rwy'n clywed hynny gan rai pobl yn y proffesiwn. Mae’n rhaid i hynny newid, oherwydd, peidied neb â chamgymryd, dyna’r meincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer sgiliau o hyd. Mae gwledydd ledled y byd yn ei ddefnyddio fel arwydd i entrepreneuriaid, cyflogwyr a buddsoddwyr. Yr un mor bwysig, mae'n cael ei ddefnyddio i helpu i wella hyder y cyhoedd yn y system ysgolion. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach dangos i ni ein hunain ac i'r byd y gall ein pobl ifanc gystadlu gyda'r gorau. Mae hen warantau ar eu ffordd allan. Mae cenhedloedd bychain eraill wedi achub y blaen arnom ar eu teithiau diwygio. Ond os gall Iwerddon ac Estonia lwyddo i wneud hyn, gallwn ninnau hefyd.
Mae’n rhaid i'n hymdeimlad o genhadaeth genedlaethol gydnabod y gwirionedd hwn. PISA yw, a PISA fydd, ffenestr y siop ar gyfer llwyddiant ein diwygiadau. Rwy'n ffyddiog y bydd fy mhwyslais i, a’n pwyslais ni, ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth dysgu, tegwch a lles i ddysgwyr, a chyfrifoldeb ar y cyd, yn ein galluogi i gyrraedd y safonau uchaf. Mae PISA yn ein galluogi i farnu ein hunain yn erbyn y byd, ac mae'n rhaid i bawb yn ein system ddeall hyn. Mae'n archwiliad ac yn adolygiad yn erbyn ein datblygiad a bydd yn parhau felly.
Os ydych chi o’r farn bod profion PISA yr OECD o bwysigrwydd mawr, rwy’n gobeithio y gwnewch hefyd wrando ar eu prognosis a ragnodwyd ar gyfer Cymru, y mae ein diwygiadau’n seiliedig arno. Mae'r diwygiadau hyn wedi’u gwreiddio yn yr hyn sy'n gweithio. Y peth hawdd ei wneud nawr fyddai rhwygo’r cynllun yn ddarnau a dechrau o'r dechrau eto, ac rwy'n siŵr y bydd rhai yn dadlau’r achos hwnnw, ond mae gennym ddyletswydd i'n disgyblion, i’n rhieni ac i'r proffesiwn i wneud yr hyn sy'n iawn. Mae'r OECD wedi nodi Portiwgal fel gwlad sydd wedi gwella’n helaeth. Mae wedi cymryd 14 mlynedd iddynt, drwy ddilyn diwygiadau sy'n gweithio a dal at y llwybr. Gwnaethant y penderfyniadau anodd, mawr eu hangen, ac maent yn elwa ar hynny erbyn hyn. Mae’n rhaid i Gymru nawr fod yn ddigon dewr i wneud yr un peth i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg.