– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ganlyniadau PISA. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch, Lywydd. Heddiw yw dyddiad cyhoeddi canlyniadau PISA 2015. Gadewch imi fynd yn syth at y pwynt: byddai pob un ohonom wedi hoffi gweld mwy o gynnydd. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn cytuno yn y Siambr hon nad ydym lle yr hoffem fod. Roedd y profion hyn, a gynhaliwyd y llynedd, yn cynnwys hanner miliwn o blant 15 oed mewn 72 o wledydd. Yma yng Nghymru, mae ein hadroddiad cenedlaethol yn dweud bod ein canlyniadau darllen wedi sefydlogi. Roedd ein sgôr mathemateg yn dangos y cynnydd mwyaf yn y DU. O'r gwledydd hynny a wnaeth yn well ac a sgoriodd dros 450 o bwyntiau, dim ond pedair gwlad o'r 71 a gymerodd ran yn PISA a welodd gynnydd mwy mewn mathemateg. Ond, o ran gwyddoniaeth, pwyslais y cylch asesu hwn, mae'r canlyniadau, a dweud y gwir, yn siomedig iawn, iawn. Ac er bod y sgôr gwyddoniaeth cyfartalog wedi gostwng ar draws yr OECD, ni ddylai hyn fod yn unrhyw gysur i ni. Byddaf yn dweud mwy am wyddoniaeth yn y man. Rwyf wedi ei gwneud yn glir mai tystiolaeth ryngwladol, a dysgu gan y gorau, fydd yn llywio ein diwygiadau. Byddwn yn dal at hynny. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau hyn a'r data cyfoethog y maen nhw’n eu rhoi inni, ynghyd â'r adroddiad OECD sydd ar ddod, i gefnogi a herio fy mlaenoriaethau a fy rhaglen. Pan wahoddais yr OECD y mis diwethaf i edrych ar sut yr oeddem yn gwneud yng Nghymru, roedd eu cyngor imi’n ddiamwys: daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn.
Ac rwy’n gweld yr ymrwymiad i ddal at ein diwygiadau ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi ymweld â llawer o ysgolion ledled y wlad yn fy nghyfnod byr ers dechrau yn y swydd hon. Mae awydd i fod yn rhan o'n taith addysg. Nid ydym wedi blino ar ddiwygio mwyach, sef asesiad yr OECD o Gymru yn ôl yn 2014. Mae gan Gymru bellach gyfeiriad teithio clir. Mae gennym gynlluniau ar waith i ddatblygu gweithlu proffesiynol rhagorol. Rydym yn gwybod beth yr hoffem i'n cwricwlwm newydd ei gyflawni. Rydym yn cyflwyno cymwysterau cadarn a fydd yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith wedi’i ddechrau, ond mae llawer, llawer mwy i'w wneud.
Dywedodd adroddiad 2014 yr OECD ar system addysg Cymru wrthym hefyd y dylem, ac rwyf yn dyfynnu,
'Trin datblygu arweinyddiaeth systemau fel un o brif sbardunau diwygio addysg'.
Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i hyrwyddo a chefnogi arweinyddiaeth fod yn ganolog i'n diwygiadau. Fodd bynnag, os wyf yn onest, nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwn. Dyna pam, y mis diwethaf, y cyhoeddais gynlluniau ar gyfer academi genedlaethol newydd o arweinyddiaeth addysgol. Bydd yn datblygu talent arweinyddiaeth presennol Cymru a thalent y dyfodol ac yn sicrhau bod pob ysgol—pob ysgol—yn gallu cyflawni ein cwricwlwm newydd. Nawr yn fwy nag erioed, mae ar Gymru angen arweinyddion cryf sy'n barod am yr her.
Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â gwyddoniaeth sy'n cyd-daro â’n dealltwriaeth ni o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd. Y mis Medi hwn ddiwethaf, cyflwynwyd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd i’w haddysgu am y tro cyntaf. Rwy’n falch bod ysgolion eisoes yn symud oddi wrth addysgu cymysgedd o BTEC a TGAU, a oedd yn methu ag arfogi ein pobl ifanc yn briodol. Lywydd, mae'n ofid imi ddweud bod cyfuniad o sinigiaeth, gorsymleiddio ac uchelgeisiau is wedi golygu bod nifer sylweddol o ysgolion yn yr arfer o gofrestru nifer uchel o ddisgyblion ar gyfer BTEC gwyddoniaeth yn unig yn hytrach nag ar gyfer TGAU. Rwy'n falch o ddweud, dros yr haf, ein bod wedi gweld cynnydd o dros 5,500 yn fwy o gofrestriadau TGAU ar draws yr holl wyddorau. Er bod hynny'n addawol, dim ond y dechrau yw hynny. Dros y misoedd nesaf byddaf yn cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol newydd i fynd i'r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu i astudio gwyddoniaeth ar lefel uchel.
Rwy’n gwybod bod PISA yn hollti barn. Rwy'n clywed hynny gan rai pobl yn y proffesiwn. Mae’n rhaid i hynny newid, oherwydd, peidied neb â chamgymryd, dyna’r meincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer sgiliau o hyd. Mae gwledydd ledled y byd yn ei ddefnyddio fel arwydd i entrepreneuriaid, cyflogwyr a buddsoddwyr. Yr un mor bwysig, mae'n cael ei ddefnyddio i helpu i wella hyder y cyhoedd yn y system ysgolion. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach dangos i ni ein hunain ac i'r byd y gall ein pobl ifanc gystadlu gyda'r gorau. Mae hen warantau ar eu ffordd allan. Mae cenhedloedd bychain eraill wedi achub y blaen arnom ar eu teithiau diwygio. Ond os gall Iwerddon ac Estonia lwyddo i wneud hyn, gallwn ninnau hefyd.
Mae’n rhaid i'n hymdeimlad o genhadaeth genedlaethol gydnabod y gwirionedd hwn. PISA yw, a PISA fydd, ffenestr y siop ar gyfer llwyddiant ein diwygiadau. Rwy'n ffyddiog y bydd fy mhwyslais i, a’n pwyslais ni, ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth dysgu, tegwch a lles i ddysgwyr, a chyfrifoldeb ar y cyd, yn ein galluogi i gyrraedd y safonau uchaf. Mae PISA yn ein galluogi i farnu ein hunain yn erbyn y byd, ac mae'n rhaid i bawb yn ein system ddeall hyn. Mae'n archwiliad ac yn adolygiad yn erbyn ein datblygiad a bydd yn parhau felly.
Os ydych chi o’r farn bod profion PISA yr OECD o bwysigrwydd mawr, rwy’n gobeithio y gwnewch hefyd wrando ar eu prognosis a ragnodwyd ar gyfer Cymru, y mae ein diwygiadau’n seiliedig arno. Mae'r diwygiadau hyn wedi’u gwreiddio yn yr hyn sy'n gweithio. Y peth hawdd ei wneud nawr fyddai rhwygo’r cynllun yn ddarnau a dechrau o'r dechrau eto, ac rwy'n siŵr y bydd rhai yn dadlau’r achos hwnnw, ond mae gennym ddyletswydd i'n disgyblion, i’n rhieni ac i'r proffesiwn i wneud yr hyn sy'n iawn. Mae'r OECD wedi nodi Portiwgal fel gwlad sydd wedi gwella’n helaeth. Mae wedi cymryd 14 mlynedd iddynt, drwy ddilyn diwygiadau sy'n gweithio a dal at y llwybr. Gwnaethant y penderfyniadau anodd, mawr eu hangen, ac maent yn elwa ar hynny erbyn hyn. Mae’n rhaid i Gymru nawr fod yn ddigon dewr i wneud yr un peth i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg.
Wel, wel, wel, Ysgrifennydd y Cabinet, dyma lanast mawr arall y mae Carwyn wedi eich rhoi chi ynddo. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n gwerthfawrogi eich datganiad a'r briff a ddarparwyd gan eich swyddogion y bore yma, ac, wrth gwrs, rydych wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn bychanu yn daer y disgwyliadau ynglŷn â chanlyniadau heddiw, a gallwn, wrth gwrs, i gyd weld nawr pam yr oeddech yn gwneud hynny.
Mae plant Cymru yn haeddu system addysg sydd o’r radd flaenaf yn fyd-eang, ond y gwir yw bod Llywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru wedi methu â chyflawni hynny. Er gwaethaf yr holl siarad llym, yr holl addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol, mae ffigurau heddiw’n ein gadael unwaith eto yn ymlusgo yn hanner isaf tabl y gynghrair addysg fyd-eang, ac maen nhw’n cadarnhau ein statws gwarthus fel y system ysgolion sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffaith bod ein canlyniadau yn 2015 mewn gwirionedd yn waeth nag yn ôl yn 2006 yn dynodi degawd o dangyflawni a sgandal aruthrol. Ac nid dyna ei hanner hi: bu dirywiad parhaus mewn sgiliau gwyddoniaeth ers 2006, yn enwedig ymhlith y disgyblion sy'n cyflawni orau.
Ystyriwyd bod traean o ddisgyblion Cymru yn gyflawnwyr isel mewn un neu fwy o bynciau—y perfformiad gwaethaf yn y DU. Roedd sgorau darllen Cymru yn gyfartal â Hwngari a Lithwania. Mae disgyblion yn Lloegr deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gyflawnwyr uwch mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg nag yma yng Nghymru. Ac er bod y bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng pobl o'r cefndiroedd cyfoethocaf a'r tlotaf yma yng Nghymru, mae PISA yn awgrymu bod hyn yn bennaf oherwydd nad yw’r disgyblion mwyaf breintiedig yng Nghymru yn perfformio cystal ag y dylent fod yn ei wneud. Mae disgyblion Cymru yn gwneud mwy o ddysgu y tu allan i'r ysgol na'u cymheiriaid yn Lloegr, ac eto maent yn perfformio’n waeth. Mae'r canlyniadau hyn yn rhestr o fethiant—methiant gan Lywodraethau Cymru olynol i wneud yn well.
Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich datganiad yn awgrymu bod angen i ni roi mwy o amser i’r diwygiadau sy’n digwydd a mwy o amser iddynt ymsefydlu, ond mae Llywodraeth Cymru—ac rwy’n gwerthfawrogi mai dim ond newydd ymuno â Llywodraeth Cymru yr ydych chi—. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cael degawd, ers 2006, ac eto maent yn dal i fod wedi methu â chyflawni gwelliannau. Nawr, dywedwch wrthym: sut mae gwledydd fel Gwlad Pwyl wedi gallu gwrthdroi eu systemau addysg mewn llai na degawd, ond nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud hynny? Mae Gwlad Pwyl yn llwyddo i gynnal y gwelliant hwnnw, hefyd.
Nawr, nid wyf yn dadlau na ddylid parhau i ail-lunio'r cwricwlwm nac y dylid cefnu ar y fframweithiau llythrennedd a rhifedd, a ddatblygwyd gan rai o'ch rhagflaenwyr. Nid ydym yn dymuno eich bod, ac rwy’n eich dyfynnu, 'rwygo’r cynllun yn ddarnau', fel y dywedasoch yn eich datganiad, ond nid yw’r pethau hyn ar eu pennau eu hunain yn mynd i gyflawni'r newid enfawr yn y safleoedd PISA y mae angen i chi ei gyflawni. Ac mae’n rhaid inni gydnabod bod diwygiadau tebyg i gwricwlwm yn yr Alban, sydd wedi eu rhoi ar waith ac sydd ymhellach i lawr y lein ac wedi ymsefydlu, wedi methu â chyflawni gwelliant yno. Mewn gwirionedd, mae eu perfformiad nhw yng nghanlyniadau PISA heddiw mewn darllen a gwyddoniaeth wedi dirywio hefyd. Yn hytrach, yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw strategaeth glir sy’n cynnwys targedau mesuradwy a fydd yn eistedd ochr yn ochr â darnau eraill o waith i wrthdroi’r perfformiad hwn. Ac nid dim ond mewn gwyddoniaeth, ond mewn mathemateg a darllen, hefyd. Nid yw ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu dim llai. Felly, dywedwch wrthym: a wnewch chi ddatblygu strategaeth o'r fath, ac, os felly, pryd y caiff ei chyhoeddi? A wnewch chi osod targedau ac amserlenni a glynu atynt, yn wahanol i'ch rhagflaenwyr a osododd dargedau cyn cefnu arnynt wrth weld amser yn llithro drwy eu bysedd, neu eu cicio i lawr y lein?
A wnewch chi ryddhau ysgolion da a llwyddiannus yng Nghymru o’r hualau sydd ar hyn o bryd yn eu hatal rhag ehangu? A wnewch chi wneud mwy i gefnogi dysgwyr abl a thalentog i ganiatáu iddynt hedfan a gwireddu eu potensial? A wnewch chi ymddiried mwy mewn addysgwyr proffesiynol fel y gallant arloesi, datblygu eu sgiliau a dysgu oddi wrth arfer da ei gilydd, ac a wnewch chi roi'r gorau i gau ysgolion da mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru a buddsoddi ynddyn nhw yn hytrach? A wnewch chi hefyd gyflwyno profion tebyg i PISA yn ein hystafelloedd dosbarth yn rheolaidd fel y gall ein plant ifanc ymgyfarwyddo â'r math o her a allai ddod ar ffurf prawf PISA yn y dyfodol? Oherwydd dyma’r mathau o newidiadau y byddem ni’n eu cyflwyno pe byddem ni yn y Llywodraeth.
A wnewch chi hefyd ddysgu, oherwydd rydych chi wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn fel Llywodraeth—ac fel y dywedais, rwy’n cydnabod mai dim ond yn ddiweddar yr ydych chi wedi ymuno â'r tylwyth—o enghreifftiau rhyngwladol fel Gwlad Pwyl a rhai o'r lleill, a gwnaethoch sôn am rai o'r lleill, sydd wedi llwyddo i wella eu perfformiad a’i gynnal? Gadewch inni beidio ag anghofio, roedd gan Wlad Pwyl sgorau tebyg iawn i'r rhai a gyhoeddwyd heddiw yn ôl yn 2000, ac roedden nhw wedi llwyddo i wrthdroi pethau erbyn 2009 ac maen nhw erbyn hyn yn uchel yn yr 20 uchaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r safleoedd PISA hyn yn bwysig. Maen nhw’n darparu meincnod rhyngwladol ar gyfer perfformiad ein system addysg, a all effeithio ar fuddsoddiad a chyflogaeth yng nghenedlaethau'r dyfodol. Os na chaiff y pethau hyn eu hunioni, os bydd y perfformiad gwael hwn yn parhau heb gael sylw, bydd hynny’n drychinebus i Gymru. Nid dal at ein llwybr yn unig yw'r ateb i'n problemau; mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol, mae'n rhaid inni fod yn fwy beiddgar. Mae cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu arnoch, ac rydym eisiau gwybod pa gamau yr ydych am eu cymryd.
Diolch yn fawr iawn, Darren. Nid wyf yn gweld hyn fel cael fy rhoi mewn llanast. Rwy’n gweld hyn fel cyfle gwych i wneud yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn gyson ers 2011, ac wedi’i ddadlau'n gyson yn y Siambr hon, o'r safle hwnnw draw yn y fan yna, sef bod angen inni ganolbwyntio’n ddiflino ar safonau ysgolion, arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol parhaus a diwygio HAGA, a dyna’r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud.
Nawr, Darren, all dim byd a ddywedwch yma yn y Siambr hon heddiw wneud imi deimlo’n ddim gwaeth yn bersonol am y canlyniadau hyn. Rwyf eisiau gwell i fy nghenedl, rwyf eisiau gwell i’n plant, ac rwy'n benderfynol o wneud y penderfyniadau a chymryd y camau a fydd yn cyflawni hynny. Dywedasoch, 'A fydd strategaeth newydd?' Bydd, a chaiff ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Rydych chi eisiau i ni addysgu ar gyfer y prawf, ond nid dyna’r ffordd at lwyddiant. Diwygio’r system gyfan yw’r ffordd at lwyddiant. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir, bydd ein cymwysterau newydd ar lefel TGAU mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth yn mynnu gwell cyfochri â dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau meddwl beirniadol a fydd yn galluogi ein plant i ffynnu mewn profion PISA. Nawr, mae angen inni gefnogi'r proffesiwn i wneud yn union hynny. Dyna pam y byddwch yn gwybod fy mod, dim ond mis yn ôl, wedi cyhoeddi y byddem yn datblygu rhwydwaith rhagoriaeth mathemateg cenedlaethol, a gefnogir gan £800,000 o gyllid i ddatblygu ac ymestyn cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion, adnoddau newydd a gwell datblygiad i’n hathrawon mathemateg. Rwy’n bwriadu gwneud yn union yr un peth ar gyfer gwyddoniaeth, gan weithio ar y cyd â’n sefydliadau addysg uwch fel y gallwn wella safonau ym mhob maes.
Byddwn yn glynu at yr amserlen. Dim ond yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau, roedd Aelodau yn y Siambr hon yn fy annog i arafu ein diwygiadau o'r cwricwlwm. Mae angen inni wthio ymlaen. Bydd y cwricwlwm hwnnw’n barod i’w addysgu erbyn 2021. Caiff ein cyrsiau HAGA newydd eu marchnata yn ystod haf 2018. Bydd safonau addysgu proffesiynol newydd ar gael gennym yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Byddaf yn diwygio trefniadau llywodraethu ein hysgolion pan fydd yr ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd wedi’i gau. A byddaf yn troi pob carreg yn fy ngwaith gyda'r gweithwyr proffesiynol, gydag AALlau a gyda'r consortia i sicrhau ein bod yn gwneud yn well fel cenedl. Byddaf yn wir yn edrych ar arfer da. Mae'n bwysig nodi bod gan y wlad hon ddulliau diwygio gwahanol iawn i’r Alban. Rwyf yn edrych ar draws gweddill y byd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn. Profais hynny drwy ofyn i'r OECD ddod yn ôl y mis diwethaf. Byddant yn ôl ymhen dwy flynedd gan fy mod wedi gofyn iddynt ddod yn ôl ymhen dwy flynedd, oherwydd byddaf yn fy herio fy hun a'r Llywodraeth hon yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn.
Yn amlwg, mae'r canlyniadau hyn yn dweud stori erchyll iawn wrthym. Cymru yw’r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU eto, mae sgorau Cymru’n waeth nawr nag yr oeddent ddegawd yn ôl ac rydym bellach y tu ôl, wrth gwrs, i gyfartaledd y DU nag yr oeddem yn 2006. Felly, oni fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hwn yn amlygiad damniol o berfformiad Llafur a bod y system addysg sydd gennym wedi siomi Cymru dro ar ôl tro?
Yn 2009, dywedodd y Gweinidog ar y pryd na fyddai unrhyw alibïau nac unrhyw esgusodion. Yn 2012, dywedodd y Gweinidog ar y pryd wrthym y byddai angen i bob un ohonom edrych yn fanwl iawn yn y drych. Heddiw, nid wyf yn hollol siŵr beth ddywedodd y Prif Weinidog wrthym, i fod yn onest, neu o leiaf beth yr ydym wedi’i ddysgu. Yn sicr ni wnaeth gymryd cyfrifoldeb. Rydych chi yn eich datganiad yn dweud wrthym nad ydym yn y lle yr hoffem fod ynddo, felly efallai y gallech ddweud wrthym ble yr hoffech inni fod. Rydym yn gwybod ein bod wedi gollwng, neu bod y Llywodraeth wedi gollwng, y targed o gyflawni safle yn yr 20 uchaf erbyn 2016, ac wedi cyflwyno targed neu uchelgais o gyflawni 500 o bwyntiau ar draws y gwahanol feysydd erbyn 2021. A ydych chi’n cadw at hynny? Nid oedd y Prif Weinidog yn fodlon i ymrwymo’n benodol i hynny yn ei ateb i arweinydd Plaid Cymru yn gynharach, er ei fod wedi dweud rhywbeth am fod yn ffyddiog y byddwn yn gweld gwelliant. Felly, a ydych chi’n ymrwymo i’r un targed hwnnw ac os nad ydych, beth yw eich uchelgais a'ch targed?
Rydych yn dweud wrthym eich bod yn dal at y llwybr, ac rwy’n dweud mai dyna’r peth cywir i’w wneud. Mae'r diwygiadau’n mynd â ni i'r cyfeiriad cywir, ond nid yw hynny'n golygu nad oes gennyf bryderon o hyd yr wyf eisoes wedi'u codi gyda chi, ac y gwnaethoch ryw fath o gyfeirio atynt yn gynharach. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen saib yn y broses hon i fyfyrio. Ac a wnewch chi—rwy’n gofyn ichi eto—ystyried cymryd toriad yn y broses hon fel y gallwn ystyried pethau, fel y gallwn ymdrin â'r nifer o faterion sy'n dod i'r amlwg yn ymwneud â’r system dwy haen rhwng ysgolion arloesol, ysgolion nad ydynt yn arloesol a'r pryderon eraill sydd wedi eu mynegi gan y sector, a chael cyfle hefyd i fyfyrio ar y canlyniadau PISA hyn a ble maent yn ein gadael yng nghyd-destun y diwygiadau arfaethedig, fel y gallwn atgyfnerthu'r diwygiadau hynny a symud ymlaen yn fwy hyderus ac yn fwy cydlynol fel sector? Y peth pwysig yw ein bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn ac nad ydym yn gwthio newid yn ei flaen yn rhy gyflym. Gwneud hyn yn iawn yw’r peth pwysig.
Rydym wedi clywed bod y diwygiadau yng Nghymru wedi'u seilio ar brofiadau y maent wedi eu cael yn yr Alban. Mewn gwirionedd, gofynnwyd i’r Athro Donaldson gymryd rhan oherwydd ei brofiad o ran y newid yn yr Alban. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, bod canlyniadau’r Alban wedi gostwng y tro hwn, felly efallai y gallech ddweud wrthym beth mae hynny efallai’n ei ddweud wrthym am y diwygiadau yma yng Nghymru, os unrhyw beth, ac a ydych chi’n credu bod unrhyw wersi y gallwn eu dysgu o hynny yng Nghymru.
Rydych yn haeru yn eich datganiad nad yw Cymru wedi blino ar ddiwygio erbyn hyn. Wel, efallai y byddai rhai yn y proffesiwn yn anghytuno â hynny. Yna rydych yn mynd ymlaen i ddweud y byddwch yn cyhoeddi cynlluniau newydd ac uchelgeisiol, a gallwn glywed ebychiad sydyn o’r sector hefyd. Ond mae capasiti, wrth gwrs, yn fater sydd wedi cael sylw o dan y diwygiadau presennol, a gwnaethoch gydnabod hynny yn eich atebion imi yr wythnos diwethaf. Felly, dyma’r hyn yr hoffwn ei wybod: sut y byddwch yn taro cydbwysedd rhwng cyflwyno eich cynlluniau newydd heb ychwanegu at faich athrawon, a gwneud hynny mewn ffordd, wrth gwrs, sy’n ategu’r diwygiadau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd heb dorri ar eu traws? Ac a ydych chi’n ffyddiog, Ysgrifennydd y Cabinet, bod athrawon yn credu o ddifrif yn PISA? Rydych chi’n credu ynddo, yn amlwg, ac mae'r Llywodraeth, ond a ydych chi a'r sector yn gytûn, oherwydd nid wyf yn teimlo bod y sector yn ei gyfanrwydd yn credu yn PISA? Ceir cwestiynau am nifer yr ysgolion uwchradd a gafodd gyfle i edrych ar brofion arddull PISA, a fanteisiodd ar y cyfle hwnnw; rwy'n credu mai 89 allan o 213 ydoedd. Nid dyna, efallai, yw’r math o gymeradwyaeth i PISA y byddai’r Llywodraeth, rwy'n siŵr, yn chwilio amdani.
Yn 2012, pan gyhoeddwyd y canlyniadau diwethaf, dywedasoch eich bod yn drist ac yn ddig bod polisi Llafur wedi ein harwain at 14 mlynedd o ganlyniadau PISA gwael. Wel, mae bellach yn 17 mlynedd o ganlyniadau PISA gwael. Rwy’n cymryd, felly, eich bod hyd yn oed yn dristach a hyd yn oed yn ddicach. Ac fe wnaethoch ofyn i'r Prif Weinidog yn ôl yn 2012 onid oedd ganddo gywilydd o’r canlyniadau. Nawr, mae'r canlyniadau hyn yn waeth, felly rwy’n cymryd y byddwch chi hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog a oes ganddo fwy o gywilydd fyth o’i hanes.
Diolch, Lywydd, a diolch i Llyr. Llyr, rwyf wedi eistedd yn eich lle chi ac wedi gofyn y cwestiynau hynny, ond gallaf eich sicrhau nad gwasgu dwylo na chwyno am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol yw’r ffordd i symud ymlaen. Fy ngwaith i yw sicrhau ein bod yn symud ymlaen oherwydd dyna'r unig ffordd y gwelwn y gwelliannau sydd eu hangen arnom. Nawr, rydych chi’n gywir, mae pryderon wedi eu mynegi ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng y rhwydweithiau arloesol a’r rhai nad ydynt yn arloesol ac rydym yn rhoi sylw i’r pryderon hynny, fel yr amlinellais ichi yn ystod cwestiynau’r wythnos diwethaf. Ond yn bendant, fy mwriad yw sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu ar amser. Gofynasoch a fyddwn yn oedi i ddysgu gwersi'r gyfres hon o ganlyniadau PISA—mae llawer iawn o bethau yn y gyfres hon o ganlyniadau PISA y mae angen inni fyfyrio arnynt a sicrhau bod ein hagenda ddiwygio yn rhoi sylw iddynt.
Felly, yn benodol ar fater gwyddoniaeth, rydym yn gwybod, ledled Lloegr—mae'n ddrwg gennyf, Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mai’r rhesymau pam yr ydym wedi gwneud yn wael mewn gwyddoniaeth yw oherwydd y cwymp ym mherfformiad ein perfformwyr uchaf. Rwy’n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a phenderfyniadau i beidio â bod yn uchelgeisiol ar gyfer ein plant mewn gwyddorau yn ein hysgolion, ac y bu gennym rai ysgolion sydd bron yn llwyr wedi cofrestru eu plant ar gyfer gwyddoniaeth BTEC yn unig; rydym yn cydnabod erbyn hyn nad yw hynny wedi rhoi iddynt y sgiliau rhesymu gwyddonol sydd eu hangen arnynt i lwyddo ar lefel uwch. Rydym wedi ei gwneud yn ddigon clir—o’n disgwyliadau a drwy ddiwygio ein papurau TGAU gwyddoniaeth sydd yn cael eu haddysgu o fis Medi eleni ymlaen—bod yn rhaid i hynny newid.
Ond nid mewn gwyddoniaeth yn unig y mae ein plant mwy abl a thalentog wedi perfformio’n waeth nag y byddem wedi disgwyl iddynt wneud. Dros flynyddoedd lawer—yn ddigon teg—bu pwyslais mawr ar ddangosyddion lefel 2 plws fel mesurau perfformiad ar gyfer ysgolion, oherwydd roedd angen inni gynyddu nifer y plant yng Nghymru a oedd yn gadael yr ysgol â phum pwnc TGAU da gan gynnwys eu Saesneg, mathemateg neu Gymraeg iaith gyntaf. Ond rwy’n cydnabod, wrth wneud hynny, efallai nad ydym wedi manteisio ar y cyfle, ar yr un pryd, i wthio ein dysgwyr mwyaf abl. Dyna pam y byddwn bellach yn cynnwys sgorau pwyntiau wedi'u capio yn rhan o'r mesurau atebolrwydd ar gyfer ein hysgolion uwchradd. Ni all fod y tu hwnt i’n gallu i sicrhau ein bod yn troi graddau D yn C ond hefyd i allu troi graddau B yn A a graddau A yn A*. Dylai ein system allu gwneud y gorau o dalentau a chyfleoedd pob plentyn, ac adlewyrchir hynny yn ein mesurau atebolrwydd i sicrhau bod ein plant mwy abl yn cael eu hymestyn. Dyna pam mae ein disgwyliadau ar gyfer plant sy'n gadael yr ysgol gynradd—roedd yn arfer bod yn lefel 4, ond rydym nawr yn disgwyl i blant fod yn gadael yr ysgol gynradd ar lefel 5. Felly, mae ein disgwyliadau cyffredinol yn ymwneud â chodi safonau a gofyn llawer mwy gan ein system addysg, fel na chaiff ein plant mwyaf disglair eu gadael ar lefel 4—oherwydd mai dyna’r oll y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni ei wneud—ond bod ein plant mwyaf disglair yn cael eu gwthio i'r lefel nesaf, i lefel 5.
O ran targedau, unwaith eto rwyf wedi ystyried hynny. Nid wyf erioed mewn gwirionedd wedi gofyn am gael gosod targedau PISA yn yr holl gwestiynau yr wyf wedi’u gofyn i'r Prif Weinidog oherwydd gallwch daro’r targed a methu’r holl bwynt. Rydym wedi gweld—rydym wedi gweld bod rhai o'r targedau hynny yn y gorffennol, o bosibl, wedi bod yn wallus. Rwy'n gwbl glir bod angen inni wella ein sgorau, nid o fewn y lwfans gwallau, ond mae angen gwelliannau ystadegol gadarn yn ein hysgolion, a dyna fy nisgwyliad.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Rwy’n gwerthfawrogi ei harfarniad gonest o'r sefyllfa ac, fel hithau, rwyf innau’n credu nad ydym yn ble yr hoffem fod yno eto ac mae'n bwysig cydnabod hynny. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod yr holl wledydd sydd wedi gwella eu safle PISA wedi cymryd rhai blynyddoedd i wneud hynny, ac nid wyf yn credu y byddem yn gwneud unrhyw ffafr â’n plant drwy newid trywydd yn awr, o ystyried y cyngor y mae’r OECD wedi’i roi, sef bod angen inni gadw ein hyder a dilyn y diwygiadau sydd ar y gweill.
Roedd eich datganiad yn cyfeirio at bwysigrwydd arweinyddiaeth ysgolion. A gaf i ofyn beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud, wrth symud ymlaen, i roi cymorth ychwanegol i benaethiaid presennol a darpar benaethiaid yng Nghymru?
Diolch, Lynne, am hynna. Hoffwn fyfyrio ar rywbeth, a rhoi gwybod i’r Siambr, oherwydd efallai na fydd y Siambr yn gwybod, beth ddywedodd Andreas Schleicher—ni allaf hyd yn oed ddweud ei enw’n iawn—sy’n gyfrifol am adran addysg yr OECD, y cyfarwyddwr addysg, am ein canlyniadau heddiw. Mae'n dweud:
Mae'n wir bod yna fwlch perfformiad mawr ond mae arwyddion o welliant, os edrychwch chi ar y canlyniadau mathemateg diweddaraf—maen nhw’n mynd i'r cyfeiriad cywir'.
Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud nid oes unrhyw reswm pam mae Cymru mor bell ar ei hôl hi, ond rwy’n gweld llawer o bethau sydd wedi’u sefydlu erbyn hyn sy’n ei rhoi ar drywydd mwy addawol.
Dywedodd ein bod yn adeiladu cwricwlwm newydd, a’n bod yn symud o fod wedi blino ar ddiwygio i sefyllfa lle mae pobl yn cymryd perchnogaeth o newid, a oedd yn gynhwysyn pwysig ar gyfer llwyddiant mwy hirdymor. Ac mae'n rhaid inni ddal i brofi ein hunain yn erbyn y cyngor hwnnw. Felly, rwy’n hyderus ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir.
O ran arweinyddiaeth, fodd bynnag, yn adroddiad 2014 gan yr OECD, nodwyd bod arweinyddiaeth yn elfen hanfodol, ac os ydym yn bod yn onest—ac mae angen inni fod yn onest heddiw—nid oes llawer wedi newid rhwng 2014 a nawr o ran arweinyddiaeth. Efallai fod hynny oherwydd bod agweddau eraill ar yr agenda ddiwygio yn cael eu datblygu ac yn cael eu hystyried fel bod yn fwy sensitif i amser ac yn bwysicach. Ond cyhoeddais, y mis diwethaf, fy mwriad i sefydlu’r academi newydd ar gyfer arweinyddiaeth. Bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar benaethiaid a darpar benaethiaid. Mae angen i ni fod yn llawer mwy rhagweithiol o ran y ffordd yr ydym yn rheoli gyrfaoedd pobl sy'n dymuno bod yn arweinyddion ysgol ac o ran cefnogi eu datblygiad. Mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd drwy gydol eu gyrfaoedd i ddatblygu'r sgiliau hanfodol a fydd yn gwneud arweinyddiaeth ysgolion yn llwyddiant iddynt. Rydym wedi ailwampio ein cymhwyster pennaeth i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'w ddiben a sicrhau bod y bobl hynny sy'n cael y cymhwyster yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa fel pennaeth.
Ni all yr academi arweinyddiaeth ddod i ben yn y fan yna. Ar ôl i ni ymgorffori materion yn ymwneud ag arwain ysgolion ar lefel y pennaeth a'r uwch dîm rheoli, mae angen inni edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gefnogi llywodraethwyr—rhan hanfodol o'r gyfundrefn atebolrwydd. Mae gormod o'n llywodraethwyr, os ydych yn darllen adroddiadau Estyn, nad oes ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i ddwyn penaethiaid i gyfrif, ac mae angen inni edrych ar arweinyddiaeth ar draws y system addysg, mewn awdurdodau addysg lleol, mewn consortia, yn wir, byddwn yn dweud, ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd, fel bod gennym y bobl orau un yn arwain ein system addysg ar bob lefel.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod canlyniadau PISA heddiw yn siomedig—i'r Llywodraeth, i rieni, ac, yn bwysicaf oll, i blant Cymru. Dangosodd canlyniadau 2006 fod Cymru’n is na'r cyfartaledd mewn mathemateg a darllen; datgelodd 2009 ein bod wedi perfformio'n waeth ym mhob maes o’i gymharu â 2006; dangosodd canlyniadau 2012 ein bod wedi disgyn ymhellach mewn mathemateg a gwyddoniaeth, ac er bod y sgôr darllen wedi cynyddu, roedd yn dal i fod yn is na'r ffigurau ar gyfer 2006. Nawr, mae canlyniadau 2015 gennym, ac er gwaethaf rhywfaint o welliant mewn mathemateg, mae Cymru y tu ôl i Ogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn y tri maes. Mae'n arbennig o siomedig bod Cymru wedi disgyn ymhellach fyth mewn darllen a gwyddoniaeth. Ac, unwaith eto, mae'n ddrwg gennyf ychwanegu, mae Cymru y tu ôl i’w hanes ei hun yn 2006. Hefyd, mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn uwch na chyfartaledd yr OECD yn y tri maes, ond mae Cymru'n is na'r cyfartaledd ym mhob un categori. Efallai y daw rhai i'r casgliad bod Llywodraethau Cymru olynol wedi methu ac, yn fwy o bryder, bod y Llywodraeth hon yn parhau i wneud hynny.
Mae gwledydd eraill yn gwella, felly pam na all Cymru? Mae'n fy nharo i, nid yn unig y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl pethau, neu o leiaf feddwl am y peth ac ystyried y dyfodol ar gyfer plant yng Nghymru, ond wrth wneud hyn, y dylent agor eu meddyliau i syniadau newydd ac agwedd newydd. Mae'r Blaid Lafur gyferbyn mor ddisymud o’u dogma addysgol o’r 1970au fel na allant weld pa mor ddinistriol yw eu polisïau i blant y genedl hon, ac nad oes ganddynt unrhyw syniadau newydd. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth wyro oddi ar ei llwybr presennol o gyffredinedd ac ofni cystadleuaeth. Dim ond yr wythnos diwethaf, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i fy nghydweithiwr Mark Reckless, gan ddweud ei fod wedi—ac rwy’n dyfynnu—
'dod ar draws o system a oedd yn credu mewn cystadleuaeth. Mae'r system addysg yng Nghymru yn seiliedig ar system o gydweithio a chydweithredu.'
Ond cystadleuaeth yw’r union beth sydd ei angen ar Gymru. Dylai'r system addysg fod yn seiliedig ar ethos—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod gael ei chlywed. [Torri ar draws.]
[Yn parhau.]—pob cenhedlaeth ar ei gwella ei hun, boed hynny mewn ystafell ddosbarth neu ar y maes chwarae. [Torri ar draws.]
Dywedais, 'Gadewch i'r Aelod gael ei chlywed.'
Rydym yn bodoli mewn cyfnod lle ceir cystadleuaeth am leoedd mewn addysg uwch, yn y gweithle ac yn gyffredinol ym mhob elfen ar fywyd. Felly, beth am addysgu ein plant i fod cystal ag y gallant? Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn dangos bod yn rhaid i’r Llywodraeth hon flaenoriaethu pynciau craidd yn y dosbarth. Dylai fyfyrio ar y meysydd eraill yn y cwricwlwm lle byddai’n well treulio amser ar fathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth. Gadewch inni symud at system sydd wir yn addysgu ein plant.
Dylem ganiatáu i ysgolion presennol wneud cais i fod yn ysgolion gramadeg, a dewis yn ôl gallu ac agwedd. [Torri ar draws.]
Edrychwch, efallai nad ydych yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond mae gan yr Aelod hawl i’w ddweud. Gadewch i'r Aelod gael ei chlywed, unwaith yn rhagor.
Bydd hyn yn caniatáu i bob ysgol, yn ddetholiadol ac annetholiadol, lunio addysg sy'n addas i’w disgyblion, gan annog pob un plentyn i ragori yn ei alluoedd. Yn amlwg, nid ymagwedd sy’n honni bod yr un peth yn addas i bawb yw'r ateb. Rydym yn gofyn i'n plant gael gweledigaeth a dyheu. Rwyf nawr yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn union hynny. Peidiwch â bychanu cenedlaethau'r dyfodol; sefydlwch system sy'n rhoi targedau iddynt, sy’n caniatáu tablau cynghrair, sy’n caniatáu iddynt gystadlu, ac yn y bôn yn rhoi cyfle iddynt i fynd i mewn i fyd sy'n gynyddol gystadleuol gyda’r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Diolch.
Edrychwch; gadewch i'r Aelod gael ei chlywed. Mae'r Aelod nawr wedi gorffen. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad. Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn dawel iawn nawr. [Chwerthin.]
Michelle, roeddwn i wedi gobeithio fy mod wedi ei gwneud yn glir iawn yn fy natganiad agoriadol ac yn fy atebion dilynol i gydweithwyr ar draws y Siambr nad yw'r canlyniadau hyn yn ddigon da. Does dim amheuaeth am hynny. Dylid nodi hefyd bod yr OECD, heddiw, wedi cyhoeddi rhybudd llym i wledydd beidio â throi at fathau o systemau addysg mwy detholiadol. Gyda phob parch i’ch cyfraniad, byddaf yn dilyn cyngor yr OECD.
Gadewch inni fod yn gwbl glir: mae awgrymu nad ydym yn gwahaniaethu ein haddysgu yn yr ysgol i addasu i wahanol anghenion plant yn dangos nad ydych yn deall yr hyn sy'n digwydd yn ein hystafelloedd dosbarth gorau. Mae athrawon da yn gwybod bod angen iddynt wahaniaethu eu gwersi. Maen nhw’n cynllunio yn y ffordd honno, maen nhw’n darparu eu gwersi yn y ffordd honno, ac maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn perfformio hyd eithaf ei allu absoliwt. Nawr, mae hynny’n digwydd yn ein hysgolion gorau; ond os ydym yn onest, nid yw'n digwydd yn gyson ym mhob un o'n hysgolion, a dyna beth mae angen inni ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno safonau addysgu newydd ar gyfer y proffesiwn yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Rydych yn dweud nad ydym ni eisiau cyffredinedd, ac rwyf yn cytuno’n llwyr â chi. Nid wyf yn fodlon â chyffredinedd yn ein system. Nid wyf yn credu, fel y mae rhai’n ei ddweud, bod digonol yn ddigon da. Nid yw. Ac nid oes gennyf amser i bobl sy'n meddwl eu bod wedi meistroli eu gwaith. Mae pob athro—pob athro da—yn gwybod y bydd yn well athro yfory nag yr oedd heddiw, oherwydd dylai mai’r disgybl mwyaf yn yr ystafell ddosbarth yw’r athro ei hun, yn myfyrio’n barhaus ar ei arferion, yn edrych ar yr arfer gorau rhyngwladol, yn dysgu technegau newydd a sgiliau newydd, ac yn ymgorffori hynny yn ei waith. Dyna’r addysgu gorau, a dyna beth fydd ein safonau addysgu yn ei ddisgwyl gan y proffesiwn.
Rydych yn dweud bod angen cystadleuaeth arnom. Rwy'n awgrymu bod angen cystadleuaeth arnom fel y mae arnaf i angen twll yn fy mhen. Er, ar ôl heddiw—. [Chwerthin.] Gadewch imi fod yn gwbl glir: rydym yn gwybod bod systemau addysg gorau’r byd yn dibynnu ar system o hunan wella a chydweithio a chydweithredu ar draws y proffesiwn. Nid yw ein hysgolion gorau a’n hathrawon gorau yn cadw’r arfer hwnnw iddynt hwy eu hunain oherwydd eu bod yn ofni y bydd rhywun yn gwella ac yn eu goddiweddyd mewn tabl cynghrair; maent yn rhannu'r arfer gorau hwnw. Maen nhw’n rhannu’r syniadau da hynny, ac maent yn gwneud hynny gan wybod y gallant fod yn hael â’u sgiliau ac yn hael â’u hamser, ac nad oes rhaid iddynt boeni am gael eu goddiweddyd gan neb. Mae angen i'n hysgolion gydweithredu, nid cystadlu, oherwydd bydd gwneud hynny’n gwella’r safonau i bawb.
Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghanol y siom, gallwn o leiaf gael ein calonogi gan y perfformiad mewn mathemateg, lle gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf yn y DU ac, fel y soniasoch, o'r 71 o wledydd a gymerodd ran yn PISA, dim ond pedwar a berfformiodd yn well na ni o ran gwella perfformiad mathemateg. Felly, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r gwelliannau mewn mathemateg y gellir eu cymhwyso i’r pynciau eraill?
Fel y mae’r OECD eu hun wedi’i ddweud, mae'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn mathemateg yn galonogol. Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hynny yw bod y fframwaith rhifedd wedi’i roi ar waith yn llwyddiannus; wrth gwrs, dim ond ers blwyddyn neu ddwy y mae hwnnw wedi ei asesu’n ffurfiol. Rydym wedi diwygio'r cymwysterau TGAU ac rydym wedi darparu adnoddau sylweddol i sicrhau bod ysgolion yn barod ar gyfer y niferoedd a fydd yn astudio’r TGAU newydd hynny. Felly, mae swm sylweddol o arian eisoes wedi mynd i gefnogi datblygiad mathemateg. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydweithiau allanol i geisio ehangu sgiliau mathemateg o fewn y proffesiwn. Rwy'n credu y gallwn ddysgu o hynny ar gyfer meysydd eraill. Rydym yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw mewn mathemateg, fel y dywedais yn gynharach, drwy’r rhwydwaith arbenigol newydd a gyhoeddais ym mis Tachwedd. Bydd £800,000 yn mynd i mewn i hynny.
Rwy’n bwriadu gwneud yn union yr un peth mewn gwyddoniaeth, ac rydym yn edrych, fel y cyhoeddais ar ôl y canlyniadau TGAU yn yr haf, ar raglen gydweithredol newydd ar gyfer addysgu Saesneg hefyd, oherwydd mae angen inni wneud gwelliannau yn Saesneg—nid dim ond ar gyfer y prawf darllen, ond mae angen gwelliannau i ganlyniadau TGAU Saesneg a safon A Saesneg. Felly, rwy’n credu bod y rhwydwaith hwnnw o ddod â gweithwyr proffesiynol ynghyd ag ymarferwyr arweiniol dynodedig sy'n gallu datblygu arferion pobl eraill yn rhywbeth y gallwn ddysgu gwersi ohono, ond mae angen inni ddod o hyd i'r adnoddau i wneud hynny. Mewn trafodaethau gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y gyllideb, rwy'n hyderus y bydd gennym yr adnoddau i ddatblygu ein rhwydwaith gwyddoniaeth newydd ac i gefnogi’r gwaith mewn Saesneg, hefyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwygiadau addysgol eang a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd sy’n cynnwys y cwricwlwm, cymwysterau a datblygiad proffesiynol athrawon wedi eu croesawu gan athrawon a’u cefnogi'n llawn gan yr OECD. Rwy’n croesawu eich sicrwydd pendant y byddwn yn dal at yr agenda hon yn gadarn, yn hytrach na gwyro oddi wrth y llwybr yr ydym wedi’i osod i ni ein hunain ac yn rhoi’r cyfle sydd ei angen ar y diwygiadau i ymsefydlu. Efallai mai PISA yw’r meincnod rhyngwladol, ond mae'n cael ei ystyried yn eang fel mesur addysgol bras, nad oes ganddo, mewn sawl ffordd, fawr o gysylltiad â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer TGAU. Yn ddigon teg, TGAU yw pwyslais athrawon a disgyblion 15 oed, a’r rhain yw’r mesurau sydd, mewn gwirionedd, yn arwain at y cymwysterau sy'n cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol ein myfyrwyr. Felly, er bod PISA yn cipio’r penawdau heddiw, canlyniadau TGAU sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a mesuradwy. Fy nghwestiwn yw: sut y gallwn uno'r ddau farciwr cynnydd hyn, sy’n aml yn cystadlu â’i gilydd, i barhau i wella ein myfyrwyr a darparu'r gorau iddynt?
Diolch am hynna, Vikki. Dylwn fod wedi—. Ymddiheuriadau i Llŷr am beidio ag ateb y cwestiwn am fy ymrwymiad parhaus i PISA a pha mor bwysig ydyw. Rwyf yn credu bod PISA yn bwysig. Rwy’n gwbl benderfynol o barhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth PISA. Mae angen inni ei weld fel prawf pwysig, nid prawf o ysgolion unigol a disgyblion unigol, fel TGAU, ond adlewyrchiad o iechyd ein system yn ei chyfanrwydd. Maent yn mesur gwahanol bethau, rwy’n credu. Ond rydych yn iawn, bu diffyg cysylltiad yn y gorffennol rhwng y mathau o sgiliau sy'n cael eu profi orau yn PISA, ac sy’n caniatáu i ddisgyblion wneud yn dda yn PISA, a natur ein TGAU.
Nid yw ein TGAU yn newid i'n galluogi i wneud yn well yn PISA. Mae ein TGAU yn newid i sicrhau eu bod yn addas i'w diben, yn fodern, yn heriol, yn ymestynnol, ond hefyd yn sicrhau bod gan y plant y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i astudio ymhellach neu i fyd gwaith; ond byddan nhw’n cael eu haddysgu a'u harholi mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn well â'r math o wybodaeth a sgiliau sydd hefyd eu hangen ar blant i gymryd rhan yn PISA a gwneud yn dda. Mae ein cymwysterau mathemateg newydd yn enghraifft dda iawn o hynny, gan gynnwys yr hyn y byddwn i'n ei ystyried yn fathemateg bur a chyfrifiadau a mathemateg gymhwysol o ran rhifedd—y gallu i ddefnyddio techneg fathemategol i ddatrys problem bywyd go iawn—a dyna pam yr ydym wedi mynd i lawr y llwybr hwnnw.
O ran ein Saesneg, er enghraifft, rydym yn dal i ystyried bod y gallu i gyflwyno ar lafar yn rhan bwysig o sut yr ydym yn graddio Saesneg TGAU—rhywbeth sydd wedi mynd allan drwy'r ffenestr yn Lloegr. Ond mae eu gallu i ddarllen yn gymwys a siarad yn gymwys, sydd yn dal i fod yn rhan o'n TGAU Saesneg, yn rhywbeth sy'n cael ei brofi yn PISA. Felly, rwy’n credu bod mwy o gyfochri ar gyfer y dyfodol, ond nid ydym yn gwneud hynny dim ond er mwyn gwneud yn well yn PISA, rydym yn gwneud hynny oherwydd y bydd ein TGAU yn paratoi ein plant yn well ar gyfer yr heriau y byddan nhw’n eu hwynebu pan fyddan nhw’n gadael yr ysgol neu’n mynd ymlaen i astudio ar lefel uwch.
Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd llawer ohonom ein synnu pan wnaethoch chi ymuno â Llywodraeth Cymru a derbyn y portffolio addysg. Mae canlyniadau PISA heddiw yn siom fawr i bob un ohonom yma yng Nghymru, yn enwedig i rieni sydd â phlant yn y system addysg ar hyn o bryd. Yr unig newyddion da i chi, am wn i, yw ei bod hi’n deg ichi feio eich rhagflaenwyr am ganlyniadau heddiw. Ond ymhen tair blynedd, bydd y cyfan yn gorwedd yn gadarn ar eich ysgwyddau chi.
Sylwais eich bod wedi dweud wrth ein cydweithiwr Michelle Brown y byddai'n well gennych wrando ar yr OECD a gwrando ar eu cyngor nhw yn hytrach na chyngor y bobl yma yn y Siambr hon. Wel, a gaf i dynnu eich sylw at—? Wel, rwy’n credu y gwnaf un datganiad am yr OECD: maent yn cael pethau'n iawn bob amser, onid ydyn nhw? Hoffwn eich atgoffa am eu rhagolygon Brexit a’r gofid a’r gwae a roddon nhw inni, a'r ffaith y bydd Prydain, wrth inni ddod at ddiwedd y flwyddyn, mewn gwirionedd yn un o'r rhai sy'n perfformio orau o'r G7.
Mae gen i gwestiwn i chi. [Torri ar draws.]
Gadewch i ni glywed y cwestiwn.
Os ydych yn gwrando ar y bobl fwyaf llwyddiannus yn ein cenedl, byddant i gyd yn dweud un peth wrthych am osod nodau, sef os caiff nod ei osod arnom gan rywun arall, nid oes gennym berchnogaeth dros y nod hwnnw ac mae'n fwy anodd i ni ei gyflawni. A gaf i ofyn i chi, a ydych chi wedi ymgysylltu â phenaethiaid ein hysgolion i ofyn iddynt pa dargedau a nodau sydd ganddynt o ran PISA? Os mai nhw eu hunain sy’n gosod y nodau, nhw fydd yn berchen ar y nodau hynny a byddan nhw’n fwy tebygol o’u cyflawni.
Hefyd, sut yr ydych chi’n bwriadu i’n plant gael budd o Gymru sy’n edrych tuag allan ar ôl Brexit? Mae Brexit yn mynd i roi cyfleoedd gwych i'n pobl ifanc, ond oni bai eu bod yn cael yr offer cywir, ni fyddant yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn euog o lawer o bethau, ond mae'n rhaid mai ei methiant i baratoi ein plant ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sy’n fwyfwy cystadleuol, yw eu hanallu mwyaf.
Diolch, Nathan. Mae'n braf eich gweld chi. [Chwerthin.] A gaf i ddweud na fydd bai yn gwella unrhyw sgôr PISA? Mae'n hawdd ei wneud, gallai ddarparu adloniant i’r rhai ohonom sydd yma yn y Siambr, gallai olygu y byddwch chi ar y teledu heno, gallai ddarparu deunydd ar gyfer ffrwd Twitter, ond ni wnaiff, mewn unrhyw ffordd, siâp na ffurf, wella addysg ein plant. Felly, yn hytrach na threulio a gwastraffu fy amser yn beio pobl, rwyf yma i fwrw ymlaen â'r hyn sydd angen iddo ddigwydd i ddiwygio ein system addysg.
Nawr, rydych yn gofyn beth yr ydym ni’n ei wneud i greu gwlad sy'n edrych tuag allan. Rwy'n cymryd yn ganiataol—ond, yn y byd hwn, ni ddylech byth gymryd dim byd yn ganiataol—eich bod wedi darllen adroddiad Donaldson, ac y byddwch yn gwybod mai un o ganlyniadau disgwyliedig ein cwricwlwm newydd yw sicrhau bod ein dinasyddion yn foesegol ac yn wybodus. Dyna un o amcanion datganedig diwygio'r cwricwlwm, a byddwn yn datblygu meysydd dysgu a phrofiad i sicrhau bod ein holl blant sy'n gadael ein hysgolion yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.
Gwnaethoch ofyn a wyf i wedi bod yn ymgysylltu â'r sector. Wel, gallaf ddweud wrthych, yn yr wythnosau diwethaf, fy mod wedi cyfarfod ag undebau’r penaethiaid, undebau’r arweinwyr ysgolion a cholegau, a’u hannerch. Rydym wedi cael dwy gynhadledd addysg genedlaethol—un yn y de ac un yn y gogledd—pryd y gwnes i annerch dros 50 y cant o'r penaethiaid ysgol. Bydd gennym gynhadledd arall i benaethiaid ysgolion uwchradd yn nhymor y gwanwyn. Felly, rwy’n treulio llawer iawn o fy amser yn siarad â'r sector ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy’n canfod parodrwydd pendant, yn wir, angerdd, i gael hyn yn iawn yn ein hysgolion. Ac mae'r ysgolion hynny yn arwain o'r tu blaen, ac rwy’n croesawu’r ymgysylltiad â'r sector yn y modd hwnnw.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Heddiw, yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion yr athrawon a'r llywodraethwyr, a’r bobl ifanc yn fy ysgol leol; cyflawnodd rai ohonynt y canlyniadau TGAU gorau erioed yn gynharach eleni. Ac rwy’n dweud hynny oherwydd bod PISA yn bwysig, ond mae cymryd arnom mai dyma'r unig ddangosydd o lwyddiant yn gwbl anghywir. Nawr, rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am gydnabod yn onest yr heriau parhaus i addysg yng Nghymru a nodir yn yr adroddiad PISA, ond hefyd am dderbyn barn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod yn rhaid i ni barhau’n ddiysgog â'r diwygiadau yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnom, ac mae angen inni fod yn uchelgeisiol ar gyfer ein pobl ifanc.
Mae canologrwydd rhagoriaeth mewn addysgu wedi ei nodi gan awduron yr adroddiad PISA o’r OECD, ynghyd â'r gydberthynas rhwng y canlyniadau gorau a chyrhaeddiad gwyddoniaeth i mewn i wersi. A gaf i, felly, gymeradwyo i’r Ysgrifennydd Cabinet waith gan bobl fel Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, sy’n ymgysylltu rhwng ysgolion a cholegau a phartneriaid diwydiannol, gan ddarparu profiad gwaith cymhwysol i ddisgyblion ysgol, a, thrwy eu rhaglen mewnwelediad, yn darparu cyfleoedd i athrawon ddysgu mwy am fyd go iawn peirianneg mewn gwahanol sectorau, a ddangoswyd mewn digwyddiad heddiw a gynhaliwyd gan Hefin David, fy nghydweithiwr, a chynnal digwyddiadau i ysbrydoli disgyblion mewn peirianneg fel yr un yr oeddwn yn falch o gael siarad ynddo dim ond yn ddiweddar yn Techniquest, ar yr ochr arall i’r bae? Dim ond un o'r sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yw hwn, gan agor llygaid pobl ifanc i’r byd o yrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw a rhoi hwb i'w cyrhaeddiad academaidd ar yr un pryd.
Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet annog ysgolion yng Nghymru i ymgysylltu â phartneriaid fel y rhain, fel Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac eraill, fel y gallwn roi hwb i gyrhaeddiad addysgol ein pobl ifanc, eu helpu i gael mynediad at yrfaoedd cyffrous posibl, a chyfrannu tuag at godi perfformiad ysgolion hefyd?
Diolch, Huw. Byddwch yn ymwybodol o fy nghytundeb â'r Prif Weinidog sy’n tynnu sylw at y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhannu i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng y byd addysg a byd gwaith a diwydiant. Ac, i adeiladu ar y cysylltiadau hynny, mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, fel yr ydych wedi’i nodi, yn un o lawer o sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Roeddwn yn Sony yn eich etholaeth chi yn eithaf diweddar i weld y gwaith rhagorol y mae Sony yn ei wneud gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal ym maes cymhwysedd digidol.
Mae angen inni ddangos i blant pam mae astudio gwyddoniaeth yn bwysig, a'r cyfleoedd a fydd yn agor iddynt. Ac mae hynny’n anodd ei wneud os nad oes gennych brofiad o hynny yn eich teulu neu yn eich ardal benodol. Felly, mae angen i ni greu’r cyfleoedd hynny i blant. Oherwydd, os nad ydynt yn ei weld, ni fyddant fyth yn dyheu am ei gyrraedd. Ac mae angen gwneud hynny, yn enwedig, yn achos merched, pan ddaw i astudio pynciau gwyddonol. Ond mae angen inni allu gwneud yn siŵr bod ein plant wedi’u paratoi i ddilyn y gyrfaoedd gwyddonol hynny, a dyna pam yr ydym wedi diwygio ein pynciau TGAU gwyddoniaeth, a addysgwyd am y tro cyntaf y mis Medi hwn, a fydd yn rhoi iddynt y lefel a’r dyfnder o ddealltwriaeth a gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddynt fynd ymlaen i astudio Safon Uwch neu gymwysterau eraill mewn gwyddoniaeth ar lefel uwch.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.