Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghanol y siom, gallwn o leiaf gael ein calonogi gan y perfformiad mewn mathemateg, lle gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf yn y DU ac, fel y soniasoch, o'r 71 o wledydd a gymerodd ran yn PISA, dim ond pedwar a berfformiodd yn well na ni o ran gwella perfformiad mathemateg. Felly, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r gwelliannau mewn mathemateg y gellir eu cymhwyso i’r pynciau eraill?