Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Byddwn yn adeiladu ar y newidiadau a gyflwynwyd gennym yn 2014 i leihau ymhellach effaith datblygiadau newydd yng Nghymru ar yr hinsawdd. Rwy'n rhagweld y bydd y gwaith hwn yn dechrau tua chanol 2017. Rydym ni hefyd yn cynyddu buddsoddiadau mewn prosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl y byddwn wedi buddsoddi tua £35 miliwn mewn prosiectau lleihau costau. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol i ystyried sut y gallwn gyflawni ein nodau arbed ynni ar ystâd Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi diwydiannau ynni-ddwys, gan gynnwys dur, i fod yn fwy effeithlon o ran ynni drwy ein cynllun gwarchod yr amgylchedd. Mae ein cynllun yn lleddfu rhai o'r materion o ran costau ynni cyffredinol uchel. Fodd bynnag, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â phroblemau systemig o ran prisio ynni i’r diwydiannau hyn.
Yn ail, lleihau'r ddibyniaeth ar ynni o danwydd ffosil: nodir ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Bydd yn elfen allweddol o'r pedair strategaeth drawsbynciol sy’n llywio ein blaenoriaethau. Bydd newid i garbon isel yn effeithio ar sut yr ydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio trydan a gwres, ac yn newid y ffordd yr ydym yn bodloni ein hanghenion cludiant. Gan fod y sector hwn yn dibynnu’n helaeth ar danwydd ffosil, byddaf yn gweithio gyda fy nghydweithiwr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ar y goblygiadau ar y cyd i’n portffolios ni. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cerbydau carbon isel a newid moddol i deithwyr a nwyddau er mwyn lleihau allyriadau o drafnidiaeth. Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen cymysgedd o wahanol dechnolegau o wahanol feintiau, o raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Yn y tymor canolig, mae hyn yn golygu newid i gynhyrchu carbon isel, sy'n cynnwys niwclear. Byddwn yn gwneud y manteisio i’r eithaf ar swyddogaeth cynhyrchu adnewyddadwy. Bydd gan storio a thechnoleg glyfar swyddogaeth alluogi allweddol, a gallai dal carbon a datblygiadau arloesol eraill chwarae rhan hefyd. Byddwn yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth i nodi'r llwybrau ynni sy’n sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Bydd hyn yn ein galluogi i bennu targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni cymunedol.
Rydym wedi sefydlu fframweithiau deddfwriaethol sy'n torri tir newydd yn gysylltiedig â chynllunio, rheoli adnoddau naturiol a datgarboneiddio, a ategir gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn gweithredu’r fframweithiau strategol hyn i arwain y datblygiadau ynni cywir i'r mannau cywir i Gymru. Fy nod i yn awr yw rhoi dulliau ar waith i gyflawni system gliriach a symlach. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu ein fframwaith datblygu cenedlaethol, gan ymgynghori ar ein cynllun morol drafft, ymgynghori ar ein dull arloesol o gynllunio adnoddau naturiol, cynhyrchu datganiadau ardal i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac adlewyrchu’r potensial hwn mewn cynlluniau datblygu lleol, sefydlu’r cyllidebau carbon cyntaf a’r cynllun newid i garbon isel, a datblygu trefn ganiatâd effeithiol i Gymru wrth i ni dderbyn pwerau i roi caniatâd i ddatblygiadau hyd at 350 MW.
Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ddiweddar a'r grwpiau gorchwyl a gorffen ar ynni morol ac ynni gwledig. Byddwn yn awr yn canolbwyntio ar weithredu'r argymhellion ymarferol. Pan fo'n bosibl, byddwn yn symleiddio’r broses y mae’n rhaid i brosiectau ei dilyn er mwyn cael caniatâd, gan leihau nifer y ceisiadau y mae’n rhaid eu cyflwyno. Mae Bil Cymru yn datganoli rheolaeth dros weithgareddau olew a nwy ar y tir yng Nghymru. Mae gan nwy swyddogaeth yn y cyfnod o newid. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni reoli ei ddefnydd yn synhwyrol. Byddaf yn parhau â’n hymagwedd ragofalus at weithgarwch nwy anghonfensiynol, gan gynnwys gwrthwynebu ffracio. Mae glo wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad economaidd Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni symud at ffynonellau ynni mwy cynaliadwy.
Rwy’n cytuno â chynigion Llywodraeth y DU i roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio pŵer glo erbyn 2025. Byddaf yn ymgynghori cyn hir ar newidiadau i bolisi cynllunio i gyfyngu ar gynigion newydd i echdynnu glo. Byddaf yn rhoi llais cryf i Gymru yn y system ynni ehangach, gan rannu ein blaenoriaethau â Llywodraeth y DU, Ofgem, y Grid Cenedlaethol ac eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynhyrchu adnewyddadwy, gan gynnwys technolegau cost leiaf megis ynni haul a gwynt, gan barhau i gefnogi technolegau newydd megis ynni morol, a sicrhau bod rheoleiddio yn cefnogi datgarboneiddio a datganoli ynni, ac yn gwneud ein seilwaith grid yn addas at ei ddiben.
Fy nhrydedd blaenoriaeth yw llywio’r newid ynni i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Byddwn yn datblygu ein sylfaen sgiliau ac yn rhoi cymorth ymarferol ac ariannol i gyfleoedd ynni sy'n cyflymu'r newid i garbon isel. Mae gan Gymru gyfleoedd i gynnal prosiectau ynni mawr, a all gynnig manteision sylweddol i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys niwclear a morol yn Ynys Môn, a morlynnoedd llanw ac elfennau ynni arloesol yng nghais dinas-ranbarth Abertawe. Byddwn yn parhau i gefnogi cynhyrchu ar wahanol raddfeydd, o raddfa fferm i'r Wylfa Newydd, sef y prosiect seilwaith mwyaf y bydd Cymru yn ei weld mewn cenhedlaeth. Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniad adolygiad Hendry o’r morlynnoedd llanw.
Mae ein rhaglen Byw yn Glyfar yn dwyn ynghyd sefydliadau cyhoeddus, preifat ac academaidd mewn prosiectau arddangos ymarferol. Bydd yn creu modelau busnes newydd ar gyfer cerbydau carbon isel, storio a rheoli grid lleol. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda datblygwyr i ganfod a oes modd i adweithyddion modiwlaidd bach newydd ychwanegu gwerth at ein sylfaen sgiliau yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wrando, gan sicrhau bod ein cefnogaeth yn esblygu yn unol ag anghenion newidiol y sector cyhoeddus, busnesau a chymunedau. Rwy’n credu y bydd yr ymagwedd gydgysylltiedig a chydlynol hwn i ynni yn cyflawni Cymru carbon isel ffyniannus a diogel.