Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad, a hefyd am y copi ymlaen llaw o’r datganiad y mae hi newydd ei wneud. Mae’n eithaf eang—rwy’n credu, os gallwn i fod yn feirniadol, ei fod braidd yn wanllyd: mae angen ychydig mwy o wmff yn hyn, y maes mwyaf allweddol o bolisi'r Llywodraeth, yn ôl pob tebyg.
A gaf i ddechrau gyntaf holl—? Ac mae llawer o feysydd lle'r ydym ni’n cytuno â dull y Llywodraeth; mae'n sicr yn fater o ofalu ei fod yn cael ei weithredu'n effeithiol. Gadewch i ni ddechrau gydag effeithlonrwydd ynni. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n meddwl bod rhai pethau allweddol, yn awr, lle y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddwyn eraill i gyfrif i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewidion. Er enghraifft, mae angen cyflymu’r broses o gyflwyno mesuryddion clyfar yn sydyn iawn. Mae'n ymddangos i mi fod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau, a’u bod wrthi’n gwneud Lloegr gyfan, ychydig fel y dull a oedd gennym o drydaneiddio'r rheilffyrdd, sy’n fater sydd wedi ei godi yn y Siambr hon o'r blaen, rwy’n meddwl. Rwy’n bryderus iawn bod gennym ffordd bell iawn i fynd ar hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod y cwmnïau ynni bellach yn gwneud pob math o addewidion ynghylch pa mor gyflym y maent yn mynd i wneud hynny, ond diar, mae angen iddynt ddal i fyny. Mae mesuryddion clyfar yn cynnig cyfle gwych, o ran effeithlonrwydd ynni a chael llawer o bobl allan o dlodi tanwydd, fel y gallant gadw eu cartrefi'n gynnes am y gost isaf bosibl.
Rydych chi'n iawn i ystyried y cyfleoedd sydd gennym i greu adeiladau sy'n cynhyrchu ynni, yn hytrach na dim ond ei ddefnyddio. Credaf fod angen i’r uchelgais fod mor fawr â phosibl. Felly gadewch i ni gynhyrchu'r rheoliadau adeiladu, gadewch i ni arwain y DU yn y maes hwn, gadewch i ni hyfforddi ein gweithlu i allu gwneud y gwaith hwn, ac yna efallai y byddwn yn denu busnes o bob cwr o'r DU drwy gynnig gweithlu hynod soffistigedig. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig iawn. Mae hefyd yn faes gwych o ran ysgogi’r economi leol. Mae'n gynhyrchiol iawn, iawn.
Rwy'n meddwl bod angen i’r sector preifat, o ran effeithlonrwydd ynni, chwarae ei ran hefyd. Deallaf o arolwg gan Barclays fod 50 y cant o gynhyrchwyr Cymru yn bryderus am eu cydnerthedd o ran ynni—ac maent yn iawn i wneud hynny, yn ôl pob tebyg—ac am y posibilrwydd y byddant yn dioddef prinder a achosir gan gost neu ddiffyg cyflenwad yn y dyfodol. Wel, un o'r pethau y gallant ei wneud mewn gwirionedd yw defnyddio ynni yn fwy effeithlon. Ac rwy’n meddwl mai’r syniad o ddefnyddio ynni yn effeithlon wedyn yw lleihau cyfanswm y swm sydd ei angen arnoch, yn hytrach na bod yn afradlon mewn ardaloedd eraill. Mae’n rhaid, mewn gwirionedd, i hyn arwain at ddefnydd mwy effeithiol a llai o ddefnydd yn gyffredinol.
A gaf i droi at danwydd ffosil? Gadewch i ni ddatgan yr amlwg: bydd cyllidebau carbon yn helpu, ond pam y mae'n rhaid i ni aros tan ddiwedd 2018 cyn inni weld yr un cyntaf gan Lywodraeth Cymru? Bydd hynny hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn. Mae'r cyllidebau carbon hynny i fod i helpu i wneud penderfyniadau a'r ddeddfwriaeth i graffu arnynt. Rwyf wir yn meddwl bod arafwch yn y maes hwn yn fethiant o ran arweinyddiaeth a dweud y gwir. Rwy’n croesawu yn arbennig ddatganiad yr hydref y Canghellor o ran yr hyn a ddywedodd am gerbydau trydan a chludiant glanach yn gyffredinol, gan gynnwys cludiant cyhoeddus, a hefyd y buddsoddiad seilwaith a fydd ar gael ar gyfer creu pwyntiau ailwefru a seilwaith arall, rhai ohonynt y gwnaethoch chi sôn amdanynt. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o fanylion gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y bôn. A ydych chi’n mynd i ddefnyddio peth o'r arian sydd yn mynd i ddod i Gymru i sicrhau ein bod yn dal i fyny? Oherwydd rydym ni’n sylweddol y tu ôl ar bwyntiau ailwefru trydanol, er enghraifft. Hoffwn hefyd i chi gymryd yr awenau gyda'r awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill—gallwn ni wneud llawer i'w symud i ffwrdd o’r defnydd dwys o ddiesel, yn aml, ac ystyried dewisiadau eraill, oherwydd mae’n bwysig ein bod yn cymryd mantais o’r symudiad mawr yr ydym wedi ei gael i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn y 10 neu 20 mlynedd diwethaf; mae hynny'n bwysig iawn, ond gallem fod yn gwneud yn llawer gwell i ddarparu cludiant cyhoeddus glanach. Bydd hynny’n ennill dwbl, os byddwn yn gwneud hynny. Gallai hefyd ymestyn i'r fflydoedd tacsi, gyda llaw, pe bydden nhw’n defnyddio hybrid a symud i ffwrdd o ddiesel, neu hyd yn oed yn symud yn llwyr i drydan. Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn teimlo'n ddigon hyderus i roi mwy o arweiniad i ni yn y maes hwnnw hefyd.
A gaf i, wrth fynd heibio, sôn am yr angen, rwy’n meddwl, i ailddychmygu ein mannau trefol? Cefais fy annog yn fawr gan yr hyn y mae rhai o'r dinasoedd mwyaf blaenllaw yn Ewrop newydd ei ddweud, â Pharis ar y blaen, rwy’n meddwl, sef bod gwir angen inni ystyried y gofod trefol a meddwl beth sydd yno y gellir ei ddefnyddio’n wahanol. Rwy'n gwybod eu bod yn gosod targedau uchelgeisiol iawn i'w gwneud yn ardaloedd di-ddiesel. Ond, wyddoch chi, mae gennym ni ddinasoedd sy’n llawn ffyrdd a phalmentydd, ac rydym yn aml yn sôn bod angen mwy o seilwaith ar gyfer lonydd beicio a lonydd i gerddwyr. Wel, gallem ni ail-ddynodi cryn dipyn o'r hyn sydd gennym yn barod, diolch yn fawr iawn, a byddai hynny'n newid agweddau pobl yn eithaf cyflym ac yn ein galluogi ni i fyw bywydau llai dwys o ran carbon. Rwy'n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig yn nhermau’r cyfeiriad teithio.
O ran ynni adnewyddadwy, o ganlyniad i Fil Cymru, byddwn mewn sefyllfa well i symud ymlaen yn gyflymach. Rwy’n cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael cymaint o ysgogiadau yma ag y byddai wedi dymuno, ac rwy'n falch y bydd gennym fwy. Bydd hynny yn ein galluogi i bennu targedau llawer mwy uchelgeisiol. Os edrychwn ar yr Alban—ac nid yw hyn yn gymhariaeth er mwyn condemnio Llywodraeth Cymru, oherwydd mae rhesymau ehangach pam mae hyn wedi digwydd, ond, beth bynnag—mae’r Alban yn bwriadu cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i’w holl anghenion ynni trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn y 2020au cynnar. Felly, rwy’n credu bod angen targed arnom. Ni all fod erbyn y 2020au cynnar, ond ni ddylem ohirio’r targed hwnnw am yn hir iawn, ac mae angen i ni fod mor uchelgeisiol â phosibl o ran pryd y gallwn gyrraedd yno.
Gan droi at yr economi carbon isel, eich gweledigaeth chi yw bod hwn yn gyfle gwych, a dyna fy ngobaith i hefyd. Mae gan yr hyn a oedd unwaith yn un o'r economïau carbon mwyaf dwys yn y byd gyfle erbyn hyn i fod yn rhan o ffordd newydd o wneud pethau, a ffordd newydd o gynnal ein bywydau economaidd. Mae llawer o hyn yn aflonyddgar; mae llawer o'r hyn sy'n digwydd yn economi’r byd yn aflonyddgar, ond mewn gwirionedd, mae yn dod â'r rhwystrau i fasnachu i lawr llawer hefyd, ac mae gan economïau rhanbarthol cymharol dlotach fel Cymru gyfle yma. Ond i wneud hynny—ac nid yw hyn yn y sector ynni yn unig, mae hyn yn mynd ar draws y sectorau—mae angen inni fuddsoddi yn sgiliau ein gweithlu a chanolbwyntio ar sgiliau o safbwynt ynni. Cyfeiriais at hynny ychydig yn gynharach.
Rwyf hefyd yn credu bod y manteision—