Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, ond o lwyfan hollol wahanol, wrth gwrs, pan ofynaf i chi: beth oedd pwynt y datganiad hwn heddiw? A oedd unrhyw beth newydd ynddo o gwbl? A oedd unrhyw beth nad oedd wedi'i gyhoeddi o’r blaen? Mae'n ymddangos i mi yn enghraifft berffaith o'r hyn yr oedd Rhun ap Iorwerth yn cwyno amdano dim ond yr wythnos hon: amser yn cael ei dreulio yn y Cynulliad hwn ar gyfer datganiadau Llywodraeth diddiwedd, pan allem fod yn cael trafodaethau defnyddiol ar lawer o faterion eraill a chael pleidleisiau ar bethau sy'n wirioneddol bwysig. Felly, a oedd unrhyw beth newydd yn y datganiad hwn o gwbl?
Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gyson yma yn ceisio llenwi rhidyll? Oherwydd pa bynnag enillion y byddwn yn eu gwneud—os mai enillion fyddant—o ran lleihau allyriadau carbon deuocsid, mae’r rheini’n mynd i gael eu boddi a’u llethu’n gyfan gwbl gan y cynnydd mewn allyriadau carbon gan wledydd eraill mewn mannau eraill yn y byd. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau yn y fan yma: mae Tsieina yn cynhyrchu 30 y cant o allyriadau carbon y byd; mae’r UE gyfan yn cynhyrchu 10 y cant; mae India yn cynhyrchu 7 y cant ac mae’n debygol y bydd yn cynhyrchu mwy na’r UE o fewn tair blynedd; ac mae'r Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 1.16 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Felly, byddai unrhyw enillion y gallem eu sicrhau trwy gau economi gyfan Prydain dros nos yn cael eu boddi yn gyfan gwbl gan gynnydd mewn allyriadau carbon o leoedd fel Tsieina ac India mewn mater o wythnosau. Yn y broses, rydym yn gosod baich anghymesur ar bobl Prydain, a phobl Cymru yn arbennig, boed nhw’n ddefnyddwyr trydan neu’n weithwyr mewn diwydiannau sy'n defnyddio ynni mewn modd dwys iawn.
Mae wyth deg pedwar y cant o'r ynni a ddefnyddiwn yn y DU yn dod o danwyddau ffosil; caiff 70 y cant o drydan, ar gyfartaledd, ei gynhyrchu gan danwydd ffosil; a chaiff 100 y cant o'n trafnidiaeth, fwy neu lai, ei ddarparu gan danwydd ffosil.
Rwy'n edrych nawr, wrth i ni siarad, ar y grid cenedlaethol, ac rydym ni’n cynhyrchu 5.25 y cant o'n hynni o wynt ar hyn o bryd. Caiff pum deg un y cant o'n hynni ei gynhyrchu gan orsafoedd pŵer tyrbin nwy cylch cyfunol, sydd yno wrth gefn ar gyfer yr ynni adnewyddadwy pan nad yw'r gwynt yn chwythu neu’n chwythu’n rhy gryf. Felly, rydym yn ychwanegu’n fawr at gostau cyfalaf cynhyrchu ynni yn y wlad hon trwy’r gofyniad hwn am ddyblygu.
Mae Tsieina wedi cytuno yn ddiweddar i geisio cyflawni rhai targedau ar allyriadau, ond nid torri eu hallyriadau yw’r hyn y maent wedi cytuno i’w wneud, mewn gwirionedd, ond torri eu hallyriadau am bob uned o allbwn economaidd. Ond gan y rhagwelir y bydd economi Tseina yn tyfu’n sylweddol iawn yn y degawdau i ddod, mewn gwirionedd, rhagwelir y bydd cynnydd o 50 y cant yn eu hallyriadau carbon erbyn 2030. Yn y cyfamser, rydym ni’n treulio amser mewn cynulliad fel hwn, yn parablu am bethau nad ydynt yn bwysig yng nghyd-destun yr economi fyd-eang, hyd yn oed os ydych chi’n derbyn y damcaniaethau o ran bod dynol ryw yn achosi cynhesu byd-eang, a gwn fod hwn yn bwynt y mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau’n anghytuno arno. Hyd yn oed os ydych chi’n derbyn ei dadansoddiad o'r wyddoniaeth a'i heffaith ar y byd, nid yw’r mathau o gostau yr ydym yn eu gorfodi ar economi Prydain, am fudd sydd bron yn ddim, werth chweil o gwbl.
Rydym ni wedi bod yn siarad am gerbydau trydan ac mai dyna yw'r ffordd ymlaen, ond does dim pwynt cael cerbydau trydan os yw'r trydan sy’n eu pweru yn cael ei gynhyrchu gan drydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil i raddau helaeth. Rwy'n bendant iawn o blaid cynlluniau effeithlonrwydd ynni, ac rwy’n credu, fel y dywedodd Simon Thomas, y gallem fod yn gwella ein heffeithlonrwydd ynni yng Nghymru trwy system lawer well o roi grantiau inswleiddio a mathau eraill o ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Mae’r effaith a gaiff hynny ar fywydau pobl ar incwm isel yn bwysig iawn hefyd, oherwydd gadewch i ni gadw mewn cof mai’r bobl sy'n talu'r pris mwyaf am y polisïau hyn yw'r rhai ar waelod y raddfa incwm—y bobl yr oedd y Blaid Lafur i fod wedi ei chreu ar eu cyfer, ac sy’n honni ei bod yn amddiffyn eu buddiannau.
Mae’r pwynt olaf byddaf yn ei wneud yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â chyfrifoldebau eraill Ysgrifennydd y Cabinet—a chodais y pwynt hwn yn y cwestiynau y diwrnod o’r blaen—fel yr Ysgrifennydd dros faterion gwledig. Rwy'n bryderus iawn am y gwrthdaro buddiannau yn ei phortffolio rhwng y gofyniad iddi hyrwyddo buddiannau ynni adnewyddadwy drwy ffermydd gwynt ac, mewn lleoedd fel y canolbarth yn arbennig, rydym yn plannu toreth newydd o felinau gwynt ar hyd a lled ein bryniau a’n tirlun—. Mae hyn yn mynd yn groes i ofynion twristiaeth, yn ogystal â buddiannau esthetig, yr ardaloedd hyn, a hoffwn weld—os ydym ni’n mynd i gael y prosiectau adnewyddadwy hyn, yn anochel—ein bod yn llawer mwy sensitif o ran ble yr ydym yn mynd i'w lleoli nhw. Nid oes rhaid i ni gael fferm wynt ar bob bryn unigol yng Nghymru. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae hi'n mynd i geisio cysoni’r gwrthdaro hwn mewn ffordd sydd, efallai, yn rhoi mwy o bwyslais ar anghenion cymunedau gwledig, yn hytrach na'r math o ddamcaniaethau sydd i fod o fudd i’r byd yn gyffredinol. Mae gennyf i fwy o ddiddordeb yn fy myd bach i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.