Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mae Neil Hamilton mor negyddol. Mae gwir angen i chi gydnabod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda datgarboneiddio. Mae'n ymwneud â diogelwch y cymysgedd ynni, ac rwy’n ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn gyfrifol am hynny hefyd. Mae'n ymwneud â chost a fforddiadwyedd ac mae'n ymwneud â datgarboneiddio. Rydych chi’n son yn ddibaid am Tsieina ac India ac ati; rwyf i’n canolbwyntio ar Gymru, ac nid yw hyn yn ymwneud â thorri allyriadau carbon yn unig, mae'n ymwneud â’r manteision economaidd i Gymru, ac mae'n ymwneud â’r hyn y gall y technolegau newydd hyn yn ei wneud i bobl Cymru. Rydych chi’n sôn am effeithlonrwydd ynni; dyna'n union beth y mae Arbed a Nyth wedi ei wneud. Soniais yn fy natganiad am 39,000 o gartrefi. Rydych chi'n hollol gywir am inswleiddio. Mae'n bwysig iawn bod cartrefi pobl yn cael eu hinswleiddio’n gywir, ac rydym wedi cynorthwyo â hynny. Soniasoch am y Grid Cenedlaethol, ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Grid Cenedlaethol. Rydym ni’n cydnabod bod yn rhaid i ni ehangu. Soniasoch am yr adegau pan nad yw tyrbinau gwynt yn troi, ac mae'n bwysig iawn ein bod gennym y gallu i storio pan fydd hynny'n digwydd, ac mae hynny’n rhan bwysig o hyn.
Fel yr ydych yn dweud, codwyd ffermydd gwynt a thwristiaeth gennych, er enghraifft, yn ystod y cwestiynau i mi, ac rwyf wedi edrych ar yr effaith weledol a'r ymchwil sydd wedi ei wneud ynglŷn â hynny, nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd yn yr Alban. Mae'n dangos yn gyson bod y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi datblygiad gwynt, neu nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad o gwbl, ac nid oes unrhyw effaith cyson, er enghraifft, ar brisiau tai. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ar hyn sy’n dangos nad oes unrhyw effaith o gwbl o ddatblygiadau gwynt.
Fel y dywedais, rwy'n frwdfrydig o blaid ffermydd gwynt yn y man cywir. Nid ydych chi eisiau iddynt fod i gyd gyda'i gilydd—wel, dyna pam y mae gennym yr ardaloedd chwilio strategol. Rydym yn rhoi y rhai mawr gyda’i gilydd i'w harbed rhag bod ar ben bob mynydd, fel y dywedasoch. Nid wyf yn ei ystyried yn wrthdaro buddiannau. Rwy’n gwybod bod materion gyda Chyngor Sir Powys. Rwy’n gwybod eu bod wedi ymgynghori'n ddiweddar ar gynigion i nodi meysydd ar gyfer datblygiadau gwynt a haul yn eu cynllun datblygu lleol. Rwy'n awyddus iawn na chanfyddir bod eu cynllun datblygu lleol yn gadarn, felly rwyf wedi gwneud yn siwr eu bod wedi cael cefnogaeth gan swyddogion y Llywodraeth drwy gyfarfodydd rheolaidd, a bydd mathau eraill o gymorth wrth symud ymlaen. Yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, pob awdurdod cynllunio lleol, pan fyddant yn edrych ar dyrbinau gwynt neu ffermydd gwynt, er enghraifft, mae’n rhaid iddyn nhw ystyried eu gweledigaeth a’u strategaeth gyffredinol ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yn eu hardal i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at eu rhwymedigaethau statudol rhyngwladol a chenedlaethol i ddiogelu ardaloedd neu rywogaethau neu gynefinoedd dynodedig.