Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, fel Aelod sydd yn dal i fod yn gymharol newydd i'r lle hwn, rwy’n gobeithio y byddaf yn cael maddeuant os nad wyf wedi deall confensiynau’r ddadl ar y gyllideb yn llwyr, er fy mod yn meddwl fy mod i wedi deall y patrwm dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf wedi bod yma fy hun i weld drosof fy hun y toriadau, toriadau, toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn; nid wyf wedi gweld drosof fy hun y tynhau gafael gan Lywodraeth y DU ar bibell wynt gyllidebol y Cynulliad hwn. Ac rydym yn cyrraedd sefyllfa lle, erbyn diwedd y degawd hwn, bydd gennym nid mwy, ond £1.5 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd hyn yn arwain at ostyngiad o 8 y cant mewn termau real yng nghyllideb Cymru ers 2010. A oes gennym 8 y cant yn llai o gleifion yn y GIG, 8 y cant yn llai o fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth, 8 y cant yn llai o bobl ifanc sy’n awyddus i gael prentisiaeth, 8 y cant yn llai o bobl sydd angen tai cymdeithasol neu ofal cymdeithasol? Nac oes. Yn erbyn cyllideb sy'n dirywio, nid ydym hyd yn oed yn sefyll yn llonydd. Y gwrthwyneb sy’n wir. Mae'r galw yn mynd i fyny. Mae angen cymdeithasol yn mynd i fyny. Mae angen cymdeithasol yn mynd i fyny yn union oherwydd yr agenda o gyni sydd wrth wraidd hyn. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn torri’r gyllideb, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y gost.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi disgrifio Cymru fel gwlad sy’n wynebu 11 mlynedd-11 mlynedd rhyfeddol-neu fwy o doriadau mewn gwariant gwasanaethau cyhoeddus. Rhyfeddol. Wel, mae yna bobl yn y Siambr hon sydd â geiriau eraill am hynny. Rydym yn siarad, onid ydym, am ddewisiadau anodd a phenderfyniadau anodd? Ac mae'r Llywodraeth yn gwneud hynny yma yng Nghymru. Ac er fy mod yn deall hynny, rydym i gyd yn gwybod bod y penderfyniadau gwirioneddol anodd yn cael eu gwneud o ddydd i ddydd gan y bobl hynny sy’n dwyn baich yr agenda hon o gynigan wneud y dewis anodd rhwng bwyta neu wresogi, gan wneud miloedd o ddewisiadau anodd na ddylai pobl orfod eu gwneud mewn gwlad fel ein gwlad ni.
Ac yn awr rydym yn wynebu £59 o biliwn ymhellach yn cael ei gymryd allan o'r economi—swm sy'n cyfateb i bedair gwaith yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario bob blwyddyn. Os ydych yn ystyried cost Brexit, yn awr mae gennych rif. Ac mae llawer o'r gost honno, credwch chi fi, yn mynd i gael ei thalu gan gymunedau yma yng Nghymru. Felly, rydym yn cael gwybod gan y Ceidwadwyr fod yn rhaid inni fod yn gynnil, yn cael gwybod bod angen i ni wneud mwy gyda llai. Felly, gadewch i ni droi at welliant y Ceidwadwyr.
'Dileu popeth, a’u disodli â', o, does dim byd yno. Dim dewis arall, dim syniadau, dim; dim ond twll lle dylai gweledigaeth gystadleuol fod. Felly, rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Cymru ar y gyllideb hon. Mwy o arian i iechyd a gofal, mwy o arian i addysg, y setliad llywodraeth leol gorau mewn blynyddoedd, arian i ofal plant, arian i brentisiaethau. Cyflawni ar ein hymrwymiadau. A fyddwn i wedi hoffi gweld mwy i rai meysydd a llai i eraill? Wrth gwrs y byddwn i. Mentraf ddweud y gall pob un ohonom ddweud hynny. Mae gennym i gyd ein set ein hun o flaenoriaethau. Ond, a yw'n gyllideb sydd, er gwaethaf ymdrechion parhaus y Ceidwadwyr, yn adlewyrchu ymrwymiad Llafur Cymru i gyfiawnder cymdeithasol, ac i godi a bodloni dyheadau ein cymunedau? Ydy.