Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mae’n bwysig i ni sôn am ddau faes lle mae Plaid Cymru wedi cael dylanwad ar y gyllideb yma: y Gymraeg i ddechrau, a chyllid ychwanegol i Gymraeg i oedolion, ac arian i sefydlu asiantaeth iaith genedlaethol. Fe sicrhawyd £5 miliwn ychwanegol ar gyfer 2017-18. Mae Plaid Cymru yn credu bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo felly i sicrhau bod gan bawb y cyfle i ddysgu’r iaith petai nhw’n dymuno gwneud hynny. Mi fydd yr arian ychwanegol ar gyfer Cymraeg i oedolion yn helpu i alluogi’r rhaglen yma i ddarparu mwy o hyfforddiant iaith i athrawon a gweithwyr cyhoeddus, ac yn rhoi mwy o gefnogaeth i rieni sydd eisiau defnyddio mwy o’r iaith yn y cartref. Fe neilltuwyd arian hefyd ar gyfer sefydlu asiantaeth iaith, hyd braich, i’r Gymraeg, a fydd yn gyfle rŵan i osod sylfaen newydd a chadarn i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywio’r iaith a chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog, gan gynnwys y nod o greu 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
A’n gweledigaeth ni ydy asiantaeth a fydd yn arwain polisi, yn gyfrifol am arolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymhlith adrannau Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor y celfyddydau, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo’r Gweinidog i gyrraedd y nod hwnnw. Yn y cyfamser, mi fyddaf i’n dal i gadw golwg ar y cynlluniau strategol addysg Gymraeg gan yr awdurdodau lleol. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn rhai cadarn, effeithiol ac uchelgeisiol, gyda cherrig milltir a thargedau clir. Felly, mi fyddwn yn eich dal chi at eich gair efo hynny.
Jest gair am gyllid sydd wedi ei neilltuo yn y gyllideb i gynllun peilot i leihau taliadau parcio yng nghanol trefi. Rŵan, swm bychan o arian, cyfanswm o £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot yn 2017-18, ond cynllun sydd wedi ennyn dipyn o drafodaeth yn y Siambr yma a thu draw. Wrth gwrs, mae’n rhaid cofio beth yw pwrpas y pot yma o bres. Ei bwrpas yw helpu busnesau bach ar y stryd fawr.
Mae’r blaid wedi ymrwymo i helpu busnesau bach ledled Cymru sydd wedi wynebu amodau heriol dros y blynyddoedd diwethaf. Mi fydd yr arian ar gyfer cynllun peilot yn helpu i ddenu mwy o bobl i ganol ein trefi. Mae manylion terfynol ymarferol y cynllun peilot eto i’w penderfynu, ond rydw i wedi bod yn glir bod angen pot o arian penodol wedi’i glustnodi, fel y gall cynghorau wneud cais am gyllid i gefnogi gostwng taliadau parcio yng nghanol trefi. Yn fy marn i, nid yw ei rannu fo drwy’r RSG ddim yn mynd i weithio ac nid yw’n dderbyniol. Mae angen pot o arian neilltuol. Mi fyddai’r cynlluniau wedyn yn rhoi hwb hanfodol i fusnesau bach yng Nghymru ac yn rhoi maes chwarae gwastad i ganol trefi sydd wedi gorfod cystadlu gyda datblygiadau mwy ar gyrion trefi. Mae sut yn union fydd y cynllun yma yn gweithio yn bwnc trafod brwd ymhlith cynghorwyr hefyd, a gorau po gyntaf y caiff y manylion eu cytuno a’u cyhoeddi. Mae Plaid Cymru yn hapus iawn i gyfrannu i’r drafodaeth honno.
Wrth symud ymlaen i’r cyfnod nesaf, mi fydd cael cyllideb tair blynedd yn sicr yn rhywbeth bendithiol ar gyfer y cynghorau sir, ar gyfer cynllunio ymlaen, ac mi fyddan nhw’n sicr o fod yn croesawu hynny. Ynglŷn â’r gyllideb a’r diffyg tryloywder, rwy’n cytuno’n llwyr bod yn rhaid inni symud tuag at sefyllfa lle mae gennym gyllideb gwbl dryloyw lle mae modd craffu llinell wrth linell. Dyna y mae rhywun sydd o gefndir llywodraeth leol wedi arfer ei wneud, ac a bod yn hollol onest, ni fedraf gredu bod y ffasiwn sefyllfa yn bodoli yn y lle yma—bod yna ddim modd inni fedru gweld y manylder rydym angen ei weld er mwyn creu gwell gyllideb yn y pen draw, cyllideb fydd yn delifro gwelliannau i bobl Cymru. Diolch.