Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y cynnydd o 1.6 y cant yn allforion Cymru. Fodd bynnag, mae’n peri pryder i mi, wrth edrych yn fanylach ar y ffigurau, fod masnach i Ogledd America wedi gostwng yn sylweddol o dros chwarter allforion Cymru yn 2012 i 15 y cant yn unig yn 2016. Yn yr un cyfnod, mae nifer yr allforion wedi gostwng 15 y cant. Ar ben hynny, dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o deithiau proffil uchel i’r Unol Daleithiau, gyda’r daith ddiweddaraf ym mis Medi. A ydynt wedi bod yn llwyddiant?