<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:40, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ydynt, maent wedi bod yn llwyddiant, gan fod data’n dangos bod yr enillion ar fuddsoddiad y teithiau masnach hynny oddeutu 40:1. Felly, llwyddiant mawr o ran yr enillion i’r trethdalwr. Rydym yn cynllunio dwy daith fasnach arall i’r Unol Daleithiau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, i San Francisco ac i Efrog Newydd. Credaf ei bod yn eithaf clir y bydd y £5 miliwn ychwanegol a sicrhawyd ar gyfer Croeso Cymru, o ganlyniad i’r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, hefyd yn gymorth i hyrwyddo Cymru ym marchnad allweddol yr Unol Daleithiau, ond byddwn yn dweud wrth yr Aelodau fod yr Unol Daleithiau yn wlad enfawr a bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau a’n gweithgaredd mewn ardaloedd allweddol. Felly, efallai’n wir y byddwn yn canolbwyntio ar ddinasoedd neu daleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau wrth i ni geisio manteisio ar gyfleoedd i gynyddu ein potensial allforio yno.