Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Er fy mod yn cydnabod hefyd fod yr UE yn farchnad bwysig i Gymru, dylid rhybuddio, wrth gwrs, yn erbyn gorddibyniaeth ar fasnachu gydag un ardal. Rhwng 2012 a 2016, mae cyfran yr UE o farchnad allforio Cymru wedi codi o 44 y cant i 67 y cant. Mae hynny’n ddwy ran o dair o allforion Cymru. Cyfartaledd y DU, mewn cyferbyniad, yw 49 y cant, sef oddeutu’r un faint ag yr oedd bedair blynedd yn ôl cyn i fasnach Gogledd America ddechrau dirywio. Mae’r darpar-Arlywydd wedi mynegi ei barodrwydd i fasnachu gyda’r DU. Pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â hyn ac a fyddwch yn derbyn y gwahoddiad hwnnw ac yn sicrhau bod Cymru ar flaen y ciw?