<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn wir. Bydd allforion, fel rydym wedi’i ddweud ar sawl achlysur, yn nodwedd allweddol o’n gwaith yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad a gweithgarwch yn y maes hwn, nid yn lleiaf am fod cyfraddau cyfnewid arian yn rhoi mantais gystadleuol glir i ni mewn nifer o farchnadoedd ar hyn o bryd. Dylwn ddweud hefyd, o ran allforion, fod y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn dangos mai mewn pump yn unig o 12 gwlad a rhanbarth y DU y bu cynnydd mewn gwerthoedd allforio. Roedd Cymru’n un ohonynt. Bu gostyngiadau yn y cyfnod hwn yn y saith arall gyda’r Alban yn dioddef y gostyngiad canrannol mwyaf. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ei llwyddiant diweddar o ran allforion, ac rwy’n bwriadu gwneud hynny.