<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:45, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond y rheswm dros fy nghwestiwn yw bod cyflwr cyffredinol y lleiniau ar ymylon ffyrdd o’r fath, a bod yn onest, yn ofnadwy. Soniodd Nick Ramsay am fater yr A449 wrth eich rhagflaenydd, a chliriwyd y ffordd dros dro. Fodd bynnag, yn fuan wedyn, dychwelodd i’w chyflwr echrydus arferol. Nawr, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl ymrwymedig i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, felly o ystyried bod llawer o’r cefnffyrdd hyn naill ai’n croesi neu’n arwain at ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno na ellir goddef y sefyllfa, yn enwedig gan fod yr holl ysbwriel nid yn unig yn annerbyniol yn amgylcheddol, ond hefyd yn hynod o beryglus?