Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Cytunaf fod taflu ysbwriel yn hollol annerbyniol, ond ni ddylid ymateb i broblem o’r fath drwy glirio ysbwriel yn unig, dylid perswadio pobl i newid eu hagweddau, eu hymddygiad a’u diwylliant. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o atal problemau o’r fath rhag codi yn y dyfodol. Felly nid yw hyn yn ymwneud â chlirio’r cefnffyrdd yn unig; rydym yn ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i’r adnoddau i wneud hynny, yn union fel y mae awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd, o ystyried y cyfnod parhaus hwn o galedi. Ond yn y tymor hwy, mae angen i bobl newid eu hymddygiad er mwyn i ni gadw ein tirweddau’n daclusach ac yn fwy deniadol, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr ond ar gyfer y bobl sy’n byw yno.