<p>Defnydd Mwy Diogel o Feddyginiaethau Presgripsiwn</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:04, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ymateb hwnnw. A gaf fi dynnu sylw at waith sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ar hyn o bryd, sydd wedi bod yn cynnal ymgyrch i hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddefnydd effeithiol o feddyginiaethau presgripsiwn dros y 15 neu’r 16 mis diwethaf? Ers i’r bwrdd iechyd ddechrau ei ymgyrch, rhoddwyd cefnogaeth a chyngor i fwy na 7,000 o ddefnyddwyr meddyginiaeth rheolaidd ar waredu hen feddyginiaethau, gan nodi pa gleifion, os o gwbl, nad ydynt yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn; mynd â meddyginiaethau i’r ysbyty os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty; a chymryd meddyginiaeth ar wyliau. Un effaith y mae’r ymgyrch wedi’i chael yw’r ffaith y byddai’r meddyginiaethau diangen a ddychwelwyd yn llenwi tri bws deulawr.

Gall hyn hefyd amlygu problem gorbresgripsiynu, yn ogystal â chleifion nad ydynt yn cymryd eu meddyginiaeth, am ba resymau bynnag. Wrth gwrs, buasai angen mynd i’r afael â’r costau sy’n gysylltiedig â hynny hefyd. Ond a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i gymeradwyo’r ymgyrch ardderchog hon ar ran bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf ac annog byrddau iechyd eraill i ystyried mentrau tebyg?