– Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.
Galwaf ar Simon Thomas i ofyn yr ail gwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar? EAQ(5)0075(ERA)
Diolch. Rwyf wedi datgan bod Cymru yn barth atal ffliw adar, mesur rhagofalus er mwyn helpu i atal pobl rhag dal heintiau gan adar gwyllt. Gan weithio’n agos â Lloegr a’r Alban, rydym yn monitro’r sefyllfa ac wedi cynyddu gwyliadwriaeth. Rwyf wedi annog ceidwaid i wella bioddiogelwch a bod yn effro i arwyddion o glefyd.
Hoffwn i ddiolch am y datganiad byr gan y Gweinidog. Roedd yna rywfaint o ddryswch y bore yma pan glywyd bod gwaharddiad ar gadw ieir a gwyddau ac ati yn yr awyr agored yn Lloegr a’r Alban ar y newyddion a dim sôn am Gymru. Mae’n glir bellach fod y rheol hefyd yn cael ei gweithredu yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog gwpl o gwestiynau rydw i’n meddwl sy’n berthnasol?
Yn gyntaf oll, a ydy hyn wedi cael ei gytuno ar y cyd? Mae yna gydweithio, fel y dywedodd y Gweinidog, ond a oes unrhyw beth wedi cael ei gytuno ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan—DEFRA, sy’n gyfrifol am Loegr—a’r Alban? Ac am faint, felly, mae’r gwaharddiad yma, neu’r rheolau yma, yn debygol o fod mewn lle? Gan ein bod ni’n nesáu at Nadolig ac efallai bod bywyd rhai o’r anifeiliaid yma ar y ddaear yma ddim yn hir iawn i fynd, ond, wedi dweud hynny, mae yna fusnesau pwysig yn sir Benfro yn magu twrcïod, fel Cuckoo Mill Farm, ac mae yna fusnes ieir buarth pwysig yn Aberteifi—Postance ac ati. Mae yna bob math o gwmnïau yn paratoi at y Nadolig ac ar gyfer gwerthu’r cynnyrch. A oes angen i’r Llywodraeth gymryd unrhyw gamau i sefydlu hyder y cyhoedd yn y gadwyn fwyd, achos bydd y Llywodraeth yn gwybod yn y gorffennol fod unrhyw berygl o ffliw adar wedi codi pryderon ynglŷn â bwyd a chig yn y siopau? Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu osgoi unrhyw beth o’r fath yna. Y cwestiwn olaf yw: a oes yna unrhyw gamau penodol mae’r Llywodraeth yn eu hargymell neu am eu hargymell i gynhyrchwyr bwyd o’r adar a fydd yn medru cael eu cymryd yn ystod yr wythnosau nesaf?
Diolch. Wel, anfonwyd y datganiad i’r wasg o fy swyddfa neithiwr, felly nid wyf yn hollol siŵr pam na chafodd y datganiad i’r wasg ei gyhoeddi. Yn amlwg, nid yw hynny’n rhywbeth y mae gennyf reolaeth drosto. Nid wnaed y penderfyniad ar y cyd â Llywodraeth y DU, gyda DEFRA, na’r Alban. Cefais sgyrsiau â’n prif swyddog milfeddygol ddoe. Mae hi wedi bod mewn cysylltiad agos iawn, yn amlwg, â phrif swyddogion milfeddygol yr Alban a Lloegr hefyd. Mae’r gorchymyn a arwyddais neithiwr yn para am 30 diwrnod, felly bydd yn para tan 6 Ionawr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwn yn parhau i fonitro’n agos iawn. Fel y dywedais, rydym wedi rhoi mesur rhagofalus ar waith. Rwy’n credu bod y mater a godwyd gennych ynglŷn ag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gadwyn fwyd yn bwysig iawn, felly mae’n dda iawn ein bod yn cael y cyfle yma. Gwn fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud, yn ôl y dystiolaeth neu’r cyngor gwyddonol cyfredol, nad yw ffliw adar yn peri risg i ddiogelwch bwyd defnyddwyr y DU. Mae wyau’n ddiogel, er enghraifft. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn i mi ddweud nad oes unrhyw achosion o ffliw adar wedi eu canfod yng Nghymru na’r DU, ond rydym yn monitro’r sefyllfa yn ofalus iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r feirws hwn yn broblem newydd, ac fel y gwyddoch, rwyf eisoes wedi cyflwyno cwestiynau ar y mater yr wythnos diwethaf, felly rwy’n croesawu’r cyfle i glywed mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Rwy’n falch eich bod wedi cyhoeddi heddiw y bydd parth atal 30 diwrnod ar waith ar draws Cymru. Nawr, mae’n hanfodol fod cyllid ac adnoddau digonol yn eu lle i sicrhau bod asiantaethau’n hyderus fod ganddynt yr hyn sydd ei angen i gyflawni mesurau rheoli clefydau yng Nghymru pe bai achosion o’r fath yn digwydd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gefnogaeth a chyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried pe bai bygythiad y clefyd yn gwaethygu? Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd hefyd i gyfleu unrhyw fesurau rhagofalus yn effeithiol o fewn y diwydiant dofednod a’r rhwydwaith lles anifeiliaid ehangach yng Nghymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa ganllawiau a chefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn i sicrhau eu bod yn deall y sefyllfa’n iawn a’r hyn sy’n ofynnol ganddynt? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi dweud yn glir fod eich adran yn monitro’r sefyllfa ledled Ewrop. Efallai y gallwch ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith penodol sydd eisoes wedi’i wneud yng Nghymru i nodi lefel bygythiad y clefyd. Gwn fod gwaith wedi cael ei wneud mewn mannau eraill yn y DU, ond mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu ei threfniadau monitro ei hun i sicrhau bod popeth sydd angen ei wneud yn cael ei wneud. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni mewn perthynas â’r gwaith y mae eich adran wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf?
Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dylwn ddweud bod lefel y perygl o ffliw adar yn lledaenu i’r DU ar y lefel ‘ganolig’ ar gyfer adar gwyllt—mae’r lefel honno wedi cael ei chodi o’r lefel ‘isel ond wedi dwysáu’—ac mae’r lefel ar’ isel ond wedi dwysáu’ ar gyfer dofednod domestig. Fel y dywedaf, rwyf am ddweud yn glir iawn mai neges ragofalus yw hon. Nid oes neb wedi gofyn i mi am unrhyw gyllid ychwanegol. Pan fydd penderfyniad fel hwn yn cael ei wneud, yn amlwg, unwaith eto, rwy’n credu bod yna fesurau rhagofalus ar waith gyda’n ceidwaid dofednod ac yn y blaen i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymateb yn gyflym iawn i’r penderfyniadau hyn.
Soniais fod y prif swyddogion milfeddygol yn gweithio’n agos iawn â’i gilydd. Pan oeddwn yn siarad â’n prif swyddog milfeddygol ddoe, roedd yn amlwg iawn ei bod wedi bod yn cael trafodaethau gyda’i thîm. Nid oes unrhyw achosion, fel y dywedaf, yng Nghymru nag yn y DU. Cyn belled ag y gwn, mae’r achos agosaf atom yn Calais yn Ffrainc, ac mae hwnnw wedi yno ers peth amser. Ceir 14 o wledydd ledled yr UE a Rwsia sydd ag achosion o ffliw adar, ac roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn i ni gyflwyno’r parth atal hwn. Gwn fod Lloegr a’r Alban wedi gwneud hynny. Fel rwy’n dweud, ni wnaethpwyd y penderfyniad ar y cyd yn hollol, ond roeddwn yn credu ei fod yn beth da cael penderfyniad drwy Brydain gyfan yn yr achos hwn. Rwyf am sicrhau’r Aelodau a’r cyhoedd y byddwn yn parhau i fonitro hyn yn ofalus iawn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.