– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiadau 90 eiliad. David Melding.
Lywydd, 100 mlynedd yn ôl, daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog. Llwyddodd y Llywodraeth a ffurfiodd i arwain y cynghreiriaid i fuddugoliaeth a enillwyd drwy waith caled, ehangodd y bleidlais yn aruthrol, a sefydlodd iechyd a thai fel blaenoriaethau llywodraethol. Roedd hi’n ymddangos bod Cymru wedi dod o hyd i ffigur arwrol—yr Arthur chwedlonol. Lloyd George oedd y dyn cyntaf heb incwm preifat i fod yn Brif Weinidog, a dangosodd y gallai’r Cymry gyrraedd swyddi uchaf y wladwriaeth. Er bod y Tuduriaid yn ystyried eu hunain yn Gymry weithiau, neu o leiaf roedd Shakespeare yn credu hynny ar eu rhan, roedd Lloyd George yn Gymro i’r carn. Dyna oedd union ffynhonnell ei egni. Fel Canghellor y Trysorlys, roedd eisoes wedi ailffurfio’r wladwriaeth. Ar ôl cyhoeddi cyllideb y bobl ym 1909, prif amcan y wladwriaeth, yn hytrach na diogelu eiddo, oedd hyrwyddo lles y bobl—Lywydd, efallai y dylwn ddweud y ‘werin’. Arweiniodd at y frwydr anhygoel honno gyda Thŷ’r Arglwyddi ac un o’r sylwadau mwyaf doniol yn ein hanes gwleidyddol, pan ddywedodd am Dŷ’r Arglwyddi nid ci gwarchod y cyfansoddiad ydyw, ond pwdl Mr Balfour.
Wel, efallai ei fod yn fwy doniol yn ystod y cyfnod Edwardaidd. [Chwerthin.]
Mae Lloyd George ymhlith ein Prif Weinidogion gorau. O blith ei gyfoeswyr, Churchill ac Atlee yn unig a ragorodd arno—Churchill drwy sicrhau buddugoliaeth mewn brwydr a oedd hyd yn oed yn fwy erchyll; Atlee drwy ffurfio consensws adeg heddwch dros wladwriaeth les. Eto i gyd, yn ei gyfnod, nid oedd neb yn hafal iddo. Mewn cyfnodau o ryfel a heddwch, arddangosodd Lloyd George grefft lywodraethu ar ei gorau. Lywydd, rydym yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol a geowleidyddol eithriadol, ac mae’n briodol y dylem gael ein hysbrydoli gan lwyddiannau Lloyd George, a aeth i’r afael â heriau a oedd yn ddyfnach byth.
Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Mae’r frwydr am randir Standing Rock yn yr Unol Daleithiau wedi dal sylw’r byd: y bobl yn erbyn piblinell Dakota Access; cymuned hynafol a balch yn erbyn grym y corfforaethau. Mewn blwyddyn pan fo’r miliwnyddion a’r biliwnyddion i’w gweld yn ennill popeth, mae Standing Rock yn dangos y gall gwrthsafiad poblogaidd ddal i ennill. Mae’n dangos bod yna bobl na fydd yn gadael i’n hadnoddau naturiol gael eu difrodi gan y rhai sydd ond eisiau dryllio’r tir er mwyn gwneud elw. Drwy sefyll gyda’i gilydd, mae’r bobl wedi ennill buddugoliaeth gyntaf yn y frwydr, ond mae’n rhaid iddynt hwy a ninnau barhau i fod yn wyliadwrus. Diolch i rym cyfryngau cymdeithasol, mae’r Americanwyr brodorol wedi ysbrydoli pobl ar draws y byd. Maent wedi gofyn am ein hundod ac fe’i rhoesom fel rhan o’r actifiaeth newydd lle y mae brwydrau lleol wedi eu cysylltu’n fyd-eang. Rydym ni yng Nghymru yn gwybod yn rhy dda beth yw gwerth ein hadnoddau naturiol. Onid Tryweryn oedd ein fersiwn ni o Standing Rock? Wrth gofio ein hanes ni ein hunain yng Nghymru, gadewch i ni ddweud heddiw fod Cymru yn sefyll gyda Standing Rock.
Ann Jones.
Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod pedair o ddisgyblion ysbrydoledig blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Dinbych, Amy Martin, Jessica Briody-Hughes, Holly Roberts a Katie Rowlands, sef Tîm Tachyon. Maent yn bencampwyr y byd am yr ail dro yng nghystadleuaeth Her Ysgolion F1, ar ôl ennill y gwobrau i gyd, gan amddiffyn eu gwobr am y cyflwyniad gorau ar lafar a’r gwobrau nawdd a marchnata gorau roeddent wedi eu hennill yn rownd derfynol y byd yn Singapore y llynedd, ac y llwyddodd y tîm i’w hennill eto yn Texas eleni.
Mae ganddynt gabinet yn llawn o dlysau ac eleni maent wedi ennill gwobr yr FIA i Fenywod mewn Chwaraeon Moduro i ychwanegu at eu casgliad trawiadol. Maent wedi goresgyn yr holl heriau sy’n defnyddio pynciau STEM, ac yn ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer yn nes ymlaen yn eu bywydau. Mae Amy wedi cael cynnig lle yn academi tîm F1 Williams ac mae’n awyddus i gamu ymlaen i yrfa mewn peirianneg. Maent yn fenywod ifanc gwirioneddol ysbrydoledig sydd wedi wynebu heriau’r prosiect y tu allan i’w gwaith ysgol. Maent wedi dod yn fentoriaid i blant ysgolion cynradd sy’n ymgymryd â her F1 yn awr, ac maent wedi gwneud eu teuluoedd, eu hysgolion, eu cymunedau a minnau’n falch iawn ohonynt. Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn hefyd yn falch o’u cyflawniadau. Diolch.
Diolch i’r Aelodau.