6. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Iechyd y Cyhoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:38, 7 Rhagfyr 2016

Diolch i bawb sydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma’r prynhawn yma. Rwy’n falch iawn o fod yn un o gydgynigwyr y cynnig yma.

Nid yw’n ormod i ddweud bod gordewdra yn un o heriau iechyd mwyaf ein hoes ni. Mae’r ystadegau dros y 15 mlynedd diwethaf wedi dangos cynnydd clir iawn yn nifer yr oedolion a phlant sydd dros bwysau neu sy’n ordew. Mae hynny ym mhob grŵp oedran, fel rwy’n dweud, sy’n golygu nid yw’r llanw yn ymddangos ar hyn o bryd fel ei fod o’n troi yn yr un ffordd ag y mae yna dystiolaeth ei fod o wedi troi mewn perthynas ag ysmygu ac yfed alcohol, lle mae pobl iau yn llai tebygol o fod yn mabwysiadu ffyrdd o fyw sy’n niweidiol i’w iechyd nhw o’i gymharu â phobl ifanc cenedlaethau blaenorol.

Beth sydd yn ofnadwy o bryderus, rwy’n meddwl, yw bod gordewdra plant i’w weld yn waeth rŵan nag oedd o hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, rwy’n drist iawn i ddweud bod gan fy etholaeth i, Ynys Môn, yr ystadegau gwaethaf ar gyfer gordewdra plant yng Nghymru, efo ychydig o dan draean o blant pump oed yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu yn ordew. Efallai bod dweud bod hyn yn mynd i achosi problemau yn y dyfodol, yn storio problemau at y dyfodol yn ystrydebol, ond mae hynny, wrth gwrs, yn hollol wir. Felly, mae’n amlwg i mi fod yr angen i fynd i’r afael â’r broblem yma yn gofyn inni gael o leiaf yr un lefel o ymdrech, a’r un lefel o adnoddau ac ymrwymiad, ac y mae mynd i’r afael ag ysmygu wedi’i gael yn fyd-eang dros gyfnod o ddegawdau.

Mewn rhai ffyrdd, mae’r paralelau efo ysmygu yn glir iawn. Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i ysmygu wedi bod yn glir ers degawdau, er gwaethaf beth mae un cyn-arweinydd UKIP yn ei feddwl. Ond, wrth gwrs, dim ond yn 2007 y daeth y gwaharddiad mewn mannau cyhoeddus i rym. Mi oedd gan dybaco mawr gymaint o bŵer i gyfyngu, yn gyntaf, ar y ddealltwriaeth o’r wyddoniaeth ac yna wedyn i atal camau i leihau defnydd o gynhyrchion niweidiol. Dim ond drwy drethu yn drwm, gosod gwaharddiadau ar hysbysebu’n gyhoeddus a negeseuon cyson rydym wedi llwyddo i gael cyfraddau ysmygu i lawr. Hyd yn oed wedyn, wrth gwrs, mae’r rhifau yn rhy uchel.

Ond, mewn rhai ffyrdd, mae mynd i’r afael â gordewdra yn mynd i wneud datrys problemau ysmygu neu fynd i’r afael â phroblemau ysmygu i edrych yn hawdd iawn. Er bod pobl yn deall yn glir iawn beth ydy’r peryglon iechyd efo ysmygu, efo gordewdra mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth a mwy amwys mewn llawer o ffyrdd. Mae adnabod un math o fwyd i fynd i’r afael â fo, yn y ffordd y cafodd sigaréts eu targedu, yn fwy o broblem. Nid leiaf oherwydd bod cwmnïau a sefydliadau y tu ôl i ambell i gynnyrch wastad yn mynd i ddadlau a’n ‘bombard-io’ ni efo negeseuon, ‘Peidiwch â phigo arnom ni, pigwch arnyn nhw yn y fan yna.’ Ar ben hynny, y gwahaniaeth mawr arall ydy nad ydych yn gallu ymysgu sigaréts yn gymedrol heb iddynt wneud niwed i chi, ond mi fedrwch chi efo llawer o fathau o fwyd. Mae’r mathau hynny o fwyd ddim ond yn dod yn niweidiol pan fydd rhywun yn cael gormodedd ohonynt.

Mae’r NHS hefyd yn ymateb yn wahanol i bobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, o’i gymharu â’r rhai sydd am golli pwysau. Mi all pobl, wrth gwrs, gael eu hannog i drio defnyddio ‘willpower’ ar gyfer atal ysmygu, ond mae’r ystadegau’n awgrymu nad yw hynny’n mynd i fod yn llwyddiannus iawn. I rywun sydd eisiau mynd gam ymhellach, mae yna help, wrth gwrs—cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogi, ac yn y blaen. Ond, pan mae’n dod at rywun sy’n ordew ac yn awyddus i golli pwysau, nid yw’r un lefel o gymorth ar gael. Y ffordd arferol, i weld, ydy darparu rhywfaint o gyngor dietegol a gobeithio y bydd grym ewyllys, sef ‘willpower’, yn ddigon, er gwaethaf y ffaith bod temtasiynau o fwyd afiach ym mhob man o’n cwmpas ni. Dim ond pan fydd y problemau’n parhau y bydd claf yn cael ei gyfeirio, o bosibl, at driniaethau mwy dwys.

Tra bo Llywodraethau wedi cymryd camau i wneud y dewis i beidio ag ysmygu yn haws ac wedi atal rhai ffactorau amgylcheddol, pan mae’n dod i ordewdra, mae rhywun yn cael y teimlad weithiau bod Llywodraethau yn dal i wneud penderfyniadau sy’n annog rhywun i beidio â bod yn iach—yn dal i gynllunio dinasoedd o gwmpas y car yn hytrach na theithio llesol, ac yn y blaen. Weithiau, nid yw hyd yn oed yn hawdd cael gafael ar wybodaeth am ddeietau iach.

Felly, mae’n glir i fi, i gloi, y bydd yr ymdrechion i fynd i’r afael â gordewdra angen ymateb llywodraethol o bosibl hyd yn oed yn fwy na’r hyn a ddigwyddodd efo tybaco. Mae angen i holl adrannau’r Llywodraeth fod yn barod i ymrwymo i hyn yn y tymor hir a rhoi egni go iawn i mewn i gael Cymru mewn i siâp a chael cenedl sy’n ffit ac yn iach, achos rwy’n ofni nad ydym ni’n ffit ac yn iach ar hyn o bryd.