Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Byddwn yn ategu sylwadau fy nghyfaill Gareth Bennett ar yr anawsterau a grëwyd i denantiaid gan ffioedd a thaliadau. Nid yw materion tenantiaeth a ffioedd asiantaethau gosod tai wedi eu cyfyngu i ffioedd ar gyfer gwirio credyd a geirda cyn neu ar ddechrau’r denantiaeth, er hynny. Yn aml, ceir atodlenni o gostau sefydlog y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer toriadau, atgyweiriadau ac yn y blaen, a thaliadau eraill a godir yn ystod y denantiaeth, sy’n rhoi cyfle i asiantaethau gosod tai diegwyddor—a landlordiaid o ran hynny—gamfanteisio a chodi gormod ar denantiaid.
Mae Tenantiaid Cymru, sefydliad sy’n gweithredu fel llais ar ran tenantiaid yng Nghymru, yn rhoi enghraifft o atodlen ffioedd a thaliadau asiant gosod tai ar eu gwefan. Mae’n cynnwys rhai taliadau diddorol, gawn ni ddweud, megis: newid cyfleustodau—£25; newid tenant—25 y cant o’r rhent misol; ac adnewyddu contract, fel y soniodd Gareth Bennett—£50. Mae beth yn union y mae’r taliadau hyn yn eu cynnwys mewn gwirionedd o ran y gwaith neu’r gwasanaethau a ddarperir gan yr asiant gosod tai neu sut y cânt eu cyfiawnhau gan yr asiantaeth ei hun yn amheus. Efallai mai’r enghraifft orau o’r ffioedd yn yr enghraifft a ddarperir gan Tenantiaid Cymru yw ffi o £25 am ddychwelyd rhent a ordalwyd. Felly, os yw tenant yn gordalu rhent, codir tâl o £25 arnynt am y fraint o gael eu harian wedi’i ddychwelyd iddynt. Mae’n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi. Yr atodlen enghreifftiol hon yw un o’r atodlenni gwaethaf o ffioedd a thaliadau a osodir gan asiantaethau gosod tai, neu rwy’n gobeithio hynny o leiaf, ac rwy’n siŵr fod llawer o asiantau nad ydynt mor awyddus i godi taliadau â’r hyn a geir yn yr atodlen honno.
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod asiantaethau yn gallu codi taliadau o’r fath heb gael eu cosbi yn dweud llawer am gyflwr y sector rhentu preifat a’r angen dybryd i fynd i’r afael â chostau ychwanegol i denantiaid sy’n llesteirio neu’n eu rhwystro rhag symud i lety mwy addas. Dadleuwyd, yn enwedig gan sefydliadau masnach sy’n cynrychioli asiantaethau gosod tai ac asiantaethau gosod tai eu hunain, y bydd rhenti’n codi os yw’r ffioedd gosod hyn yn cael eu gwahardd. Nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir yn ôl yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Cyfeiriaf yr Aelodau at adroddiad Shelter, ‘End Letting Fees’, yn 2013, a ddaeth i’r casgliad nad oedd landlordiaid yn yr Alban, ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym yno, yn fwy tebygol o gynyddu rhenti na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU.
Hyd yn oed os yw gwahardd y ffioedd hyn yn arwain at godi rhenti, byddwn yn awgrymu, yn gyntaf, o leiaf y bydd y tenant yn talu ffioedd mewn ffordd haws. Bydd y ffioedd yn cael eu rhannu dros fisoedd yn hytrach na gorfod talu cannoedd o bunnoedd ymlaen llaw yn ychwanegol at y bond a’r rhent. Yn ail, mae landlordiaid mewn sefyllfa well i drafod ffioedd a thaliadau synhwyrol gydag asiantaethau gosod tai nag y mae eu tenantiaid, a bydd hynny’n cadw cynnydd yn y rhenti i lawr yn y lle cyntaf.
Gellir gweld arwydd o ba mor broffidiol yw’r ffioedd a’r taliadau hyn i asiantaethau gosod yn y ffordd y disgynnodd prisiau cyfranddaliadau asiantaeth gosod tai Foxtons yn yr oriau’n dilyn cyhoeddi gwaharddiad ar ffioedd yn Lloegr. Mae’n awgrymu, ar wahân i’r ffaith fod costau dilys yn cael eu trosglwyddo i denantiaid, fod y ffioedd a’r taliadau hyn yn ffynhonnell elw i asiantaethau gosod tai. O edrych ar rai o’r ffioedd a’r taliadau yn yr atodlen ffioedd a thaliadau y cyfeiriais ati’n gynharach, mae canran dda o elw i’w gael o’r costau sefydlog hynny i asiantaeth gosod tai ddiegwyddor. Er enghraifft, byddai tâl sefydlog o £400 am beiriant golchi a fyddai ond wedi costio £250 i landlord neu asiantaeth gosod tai osod un arall yn ei le yn arwain at gryn dipyn o elw.
Mae Rhentu Doeth yn debygol o roi mwy o eiddo rhent preifat yn nwylo asiantaethau gosod tai, felly nid yw’r gyfran o denantiaid yng Nghymru yr effeithir arnynt gan y ffioedd a’r taliadau hyn yn mynd i leihau’n fuan iawn. Bydd angen archwiliad manwl o weithrediad asiantaethau gosod tai yng Nghymru felly. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i fentrau masnachol wneud cymaint o elw ag y dymunant gan bobl sydd â digon o rym bargeinio i ddiogelu eu hunain rhag talu gormod a chael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, nid dyna’r sefyllfa y mae’r mwyafrif o denantiaid ynddi. Dau opsiwn yn unig sydd gan y rhan fwyaf o denantiaid: talu’r taliadau a bod â gobaith o gael y cartref y maent ei eisiau, neu wrthod talu ac aros lle y maent—os oes lle i fyw ganddynt eisoes, hynny yw. Yn y Siambr hon y ceir yr unig gymorth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru, a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Diolch.