Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Ie, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Llywydd am ohirio’r cwestiwn brys hwn nes yn awr. Mae hon yn foment enfawr i ddur yng Nghymru a Phrydain. Rwy’n croesawu, fel cam arwyddocaol iawn, y cyhoeddiad yn gynharach y prynhawn yma fod yr undebau dur wedi cael ymrwymiad gan Tata Steel i ddiogelu cyflogaeth a chynhyrchiant ym Mhort Talbot a’i safleoedd dur eraill ledled y DU.