1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? OAQ(5)0328(FM)
Mae pob landlord cymdeithasol, gan gynnwys cyngor Abertawe, ar y trywydd iawn i fodloni’r safon erbyn 2020. Mae'r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos bod 79 y cant o gartrefi cymdeithasol presennol yn bodloni’r safon ym mis Mawrth eleni—cynnydd o 8 pwynt yn ystod y flwyddyn—ac mae bron i 18,000 o aelwydydd yn byw mewn cartrefi o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn flaenorol erbyn hyn.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y llwyddiant o fodloni safon ansawdd tai Cymru, ac a gaf i ddweud hefyd ei fod yn enghraifft o darged uchelgeisiol sydd wedi cael ei gefnogi'n ariannol ac sydd wedi gwella bywydau llawer iawn o bobl, gan gynnwys llawer o’m hetholwyr i? Ond a ellir dyrannu’r arian a neilltuir ar hyn o bryd i uwchraddio tai cyngor, pan fo pob un ohonynt wedi bodloni safon ansawdd tai Cymru, ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd?
Ie, rydym ni’n awyddus iawn i sicrhau y gall mwy o gynghorau adeiladu tai cyngor, ac mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, mewn ystyried pob ffordd arloesol o gynyddu'r cyflenwad tai. Mae'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys awdurdodau lleol yn benthyg ymlaen i gymdeithasau tai er mwyn eu galluogi i ddatblygu. Mantais hynny, wrth gwrs, yw y gall yr awdurdod lleol fenthyg gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfradd is na fyddai ar gael gan fenthycwyr traddodiadol. Ceir enghreifftiau o bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd. Rydym ni wedi symud ymhell iawn oddi wrth y dyddiau pan na châi awdurdodau lleol adeiladu tai cyngor. Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gallu darparu ar gyfer eu poblogaethau ac, yn bwysig, bod y llety a ddarperir o’r ansawdd gorau posibl.
Nid oes neb yn tanseilio’r ffaith bod safon ansawdd tai Cymru yn un uchelgeisiol, ac fe fyddwn i’n gefnogol o hynny. Ond, rydym ni fel Aelodau Cynulliad yn parhau i gael nifer fawr o gwynion am wasanaethau tai cymdeithasol, er enghraifft nad yw gwaith yn cael ei wneud ar amser a bod diffyg ymateb gan rai o’r gwasanaethau tai yng nghyd-destun y ffaith ei fod yn amser gaeafol a bod pobl yn aros am amser hir i waith gael ei gwneud. A oes unrhyw fath o holiadur rydych chi wedi’i wneud, fel Llywodraeth, er mwyn sicrhau bod pob cymdeithas tai yn gweithio’n effeithlon er mwyn sicrhau bod pobl yn fwy hapus gyda’r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn yn y maes hwn?
Wrth gwrs. Fel Llywodraeth, rŷm ni’n erfyn ar gymdeithasau tai i sicrhau nid dim ond eu bod yn adeiladu, ond eu bod nhw’n cynnal tai hefyd a sicrhau bod tai mewn cyflwr da. Nawr ac yn y man, mae yna gwynion yn dod. Rwy’n cael yr un peth, wrth gwrs, ag y mae hi, ac mae’r cwynion hynny, yn fy mhrofiad i, yn cael eu delio gyda nhw mewn ffordd eithaf cyflym. Ond rŷm ni’n erfyn, wrth gwrs, fod y safon yn cael ei sicrhau pan fo tai yn cael eu hadeiladu, ac, wrth gwrs, pan fo tai yn cael eu cynnal drwy ystod bywyd y tai hynny.
Yn 2012, sef yr adeg pan roedd y safon i fod i gael ei bodloni gan bob landlord cymdeithasol, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y prif ddiffyg o ran bodloni’r safon i’w weld mewn ardaloedd lle pleidleisiodd tenantiaid yn erbyn cynigion i drosglwyddo. Dywedodd eich Gweinidog tai ar y pryd wedi hynny nad oedd gan dri awdurdod gynlluniau busnes realistig a bu’n rhaid iddyn nhw ailgyflwyno rhai newydd, a gymeradwywyd gan Weinidog dilynol. O gofio bod y terfyn a osodwyd ar gyfer benthyca yn gysylltiedig â thai yn rhan o'r cytundeb i adael y cyfrif refeniw tai wedi gadael amcangyfrif o le benthyca o ddim ond £471 miliwn ar draws pob awdurdod i fodloni safon ansawdd tai Cymru, sut y gellir cyflawni hynny i'r safon a fwriadwyd yn wreiddiol gyda'r darnau ychwanegol—adfywio cymunedol ehangach—pan fo hynny’n gadael amcangyfrif benthyca o ddim ond £118 ar gyfer Wrecsam—mae hynny'n dda—£74 miliwn ar gyfer Abertawe, ond dim ond £25 miliwn o dan y terfyn a sefydlwyd ar gyfer Sir y Fflint?
Rydym ni’n disgwyl i’r targed cartrefi fforddiadwy gael ei gyrraedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, pa un a yw hynny trwy awdurdodau lleol, trwy gymdeithasau tai, trwy bartneriaethau, wrth gwrs, rhwng y ddau, a ffyrdd eraill, i weld lle mae'n bosib ymyrryd yn y farchnad leol i wneud yn siŵr bod cyflenwad digonol o dai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu hystyried, wrth i ni edrych ar ffyrdd arloesol o ymdrin â'r mater hwn.
Ond yr hyn sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, yw, wrth i ni wneud yn siŵr bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael, nad ydym yn gweld y plwg yn cael ei adael allan o'r bath ar y pen arall a bod y cartrefi hynny’n cael eu gwerthu. Nid oes unrhyw obaith i chi gyrraedd targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy os ydych chi’n adeiladu ar y naill law ac yn gwerthu â'r arall, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu.