Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Yn aml iawn, mae pobl yn cysylltu cryd cymalau efo pobl hŷn, ond wrth gwrs mae o’n rhywbeth sy’n gallu taro pobl o bob oed. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb wasanaeth pediatrig ar gyfer rhiwmatoleg, er bod y cleifion o’r gogledd yn gallu cael triniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl. A ydy’r Prif Weinidog yn credu y dylai Cymru allu cynnig gwasanaeth rhiwmatoleg pediatrig?