5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru

– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:35, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at eitem 4 ar yr agenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar fanc datblygu Cymru. Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyhoeddi bod fy swyddogion wedi derbyn cynllun busnes ar gyfer banc datblygu Cymru, sy'n dal i fod mewn sefyllfa dda i gael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoliadol. Bydd pencadlys y banc yn y Gogledd, a’i brif flaenoriaeth yw helpu meicrofusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael cyllid yn haws, ac yn benodol i fynd i'r afael â bylchau ariannu lle ceir methiant yn y farchnad. Gan weithio ochr yn ochr â darparwyr ariannol eraill, bydd banc datblygu Cymru yn elwa i’r eithaf ar drosoledd y sector preifat. Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru, bydd y banc yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chyngor rheoli. Bydd cyllid gwell, cefnogaeth well yn golygu busnes gwell. Mae Cyllid Cymru wedi ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ei gynllun busnes yn ystyried y materion ariannol y mae busnesau yn eu hwynebu, ac i nodi atebion priodol.

Rwy'n arbennig o falch eu bod wedi datblygu perthynas waith agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, a bydd hefyd yn ymgysylltu â'r byd academaidd. Maen nhw’n creu uned wybodaeth i olrhain yr amrywiaeth o faterion ariannol y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu o bryd i'w gilydd, ac yn nodi’r modd gorau o fynd i’r afael â’r rhain er budd economi Cymru. Bydd yr uned wybodaeth hon yn datblygu i gyflawni swyddogaeth ymchwil strategol, gan greu ystod o atebion arloesol newydd yn amrywio o gronfeydd cyd-fuddsoddi i gronfeydd wedi'u teilwra sy'n benodol i ddiwydiant. Yn y modd hwn, bydd y banc yn helpu busnesau unigol i gynyddu trosiant a swyddi, ac i helpu i dyfu economi Cymru hefyd.

Bydd y banc datblygu yn cynyddu’r cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru, gyda tharged o ddarparu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi dros y pum mlynedd nesaf. Rwy’n dweud ‘mwy na’ gan fy mod i’n dymuno i'r banc datblygu fod yn uchelgeisiol ac i chwilio am ffyrdd arloesol o wella trosoledd sector preifat. Bydd y banc yn creu ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi y flwyddyn erbyn 2022. Rhoddwyd y dasg i’r banc o gynyddu lefelau buddsoddi uniongyrchol i £80 miliwn y flwyddyn. Rwyf hefyd yn herio'r banc i wella ei werth am arian yn barhaus, ac i weithio tuag at drosoledd sector preifat uchelgeisiol i leihau'r gost fesul swydd. Bydd yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cymorth angenrheidiol ag arweinyddiaeth, mentora a hyfforddiant yn dod law yn llaw â’r cymorth ariannol er mwyn helpu busnesau entrepreneuraidd a busnesau sy’n tyfu i fod yn llwyddiannus. Rwy’n herio'r banc i wella symlrwydd a hygyrchedd ei lwyfan digidol. Rwy’n awyddus i’w weld yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu un porth mynediad a chynyddu nifer y busnesau sy'n derbyn cyngor gan Lywodraeth Cymru o'r lefel bresennol, sef 30,000 y flwyddyn.

Bydd y banc yn gallu cefnogi rhaglenni ar draws nifer o bortffolios, gan gynnwys rhai fy nghydweithiwr hybarch, yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Bydd yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ym maes tai ar y cynllun Cymorth i brynu-Cymru llwyddiannus, a chyflawni ein buddsoddiad o £290 miliwn mewn ail gam i gefnogi adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae’r estyniad i’r cynllun Cymorth i Brynu-Cymru wedi ei groesawu'n eang gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd. Bydd yr estyniad hefyd yn helpu'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto i sicrhau bod 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ar gael ledled Cymru. Ceir hefyd y gronfa busnes Cymru newydd, gwerth £136 miliwn, a gyhoeddais yn ôl ym mis Medi. Mae'r gronfa hon, a gefnogir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, yn un o brif ffynonellau’r banc, gan y bydd yn cynnig atebion ariannu hyblyg i gannoedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf.

Bydd y banc datblygu yn ceisio cryfhau a thyfu’r ecosystem ariannol yng Nghymru. Ni fydd yn ceisio cymryd lle na chystadlu â darparwyr ariannol eraill, ond yn hytrach, bydd yn gweithio gyda nhw i gefnogi eu cyllid ar gyfer busnesau. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â busnesau a banciau, gan ddarparu cyllid ychwanegol lle bo angen. Cafwyd methiant eang yn y marchnadoedd ariannol ar draws y byd o ganlyniad i’r wasgfa gredyd ac achosodd y dirwasgiad byd-eang gwaethaf mewn cenhedlaeth.

Heddiw, yng Nghymru, mae’r marchnadoedd ariannol wedi bod yn ailagor yn araf deg a fesul dipyn i gefnogi ein hadferiad, ond mae methiant yn y farchnad yn dal i fodoli mewn meysydd fel meicrofusnesau a busnesau bach, mewn cwmnïau sy’n dechrau ac mewn busnesau entrepreneuraidd lle nad yw'r model busnes wedi ei brofi. Mae'r banc datblygu yn cydnabod pa mor anodd yw hi o hyd i fusnesau bach a chanolig eu maint gael gafael ar gyllid ecwiti. Bydd y banc yn cynnal rhwydwaith o angylion buddsoddi ledled Cymru ac yn annog buddsoddiad ecwiti mewn busnesau sy’n tyfu yng Nghymru trwy gronfa cyd-fuddsoddi angylion ar y cyd. Wrth i fusnesau canolig eu maint gynllunio i dyfu, bydd y banc yn hwyluso cysylltiadau â sefydliadau ecwiti mwy o faint yn Llundain. Bydd hefyd yn helpu busnesau yng Nghymru i gael mynediad at gyllido torfol a ffynonellau arloesol eraill o gyllid.

Wrth i’r economi barhau i adfer, rydym yn disgwyl i natur a graddfa methiant y farchnad newid ac rwy'n falch o weld y bydd y banc yn monitro amodau’r farchnad ac anghenion busnes sy'n newid, gan ymateb yn briodol drwy gynnig cynnyrch newydd a dulliau gweithio newydd. Rwy’n disgwyl i'r banc, fel sefydliad di-elw, feithrin cysylltiad â mentrau cydfuddiannol a chymdeithasol, gan gynnwys cymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol, gweithiwr sy’n prynu cwmni ac undebau credyd. Rwy’n gofyn i'r banc gysgodi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ac i edrych ar gyfleoedd ar gyfer partneriaeth.

Gan fod y banc datblygu yn sicrhau bod cyllid preifat ar gael yn fwy hwylus, bydd yr angen am gymorth grant gan y Llywodraeth yn lleihau. Drwy ddarparu cefnogaeth ariannol drwy'r banc datblygu a manteisio i’r eithaf ar drosoledd cyllid preifat, bydd y banc datblygu yn helpu i wella gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru yn sylweddol. Rwy'n credu y bydd y banc datblygu yn dod yn frand Cymreig cryf, gan ddarparu cymorth ariannol cadarnhaol lle mae ei angen fwyaf i wneud y mwyaf o’r effaith fuddiol ar gyfer economi Cymru. Rwy’n gofyn i fy swyddogion yn awr ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y cynllun busnes newydd ar gyfer banc datblygu Cymru yn bodloni anghenion busnesau ac yn helpu pob un i wireddu ei botensial.

Mae banc datblygu Cymru yn arwydd clir o'r dull strategol yr ydym yn ei arddel i sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus a diogel. Mae'n enghraifft o sut yr ydym ni’n galluogi'r amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu ac i greu a chadw swyddi o ansawdd uchel. Mae'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yn dangos sut yr ydym am ganolbwyntio ein hymyraethau ar gyflawni mwy o ddiogelwch ariannol i fusnesau fel y gallant ddatblygu twf a ffyniant i bawb.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:42, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'n fawr y diweddariad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r copi ymlaen llaw o’i ddatganiad. Mae 30 mlynedd ers i Gymru colli ei hunig sefydliad bancio annibynnol ar y pryd, Banc Masnachol Cymru, ac rwy’n credu ein bod wedi dioddef o ganlyniad i'r bwlch amlwg hwnnw yn ein pensaernïaeth sefydliadol fel economi. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn y mae’n rhaid ei holi nawr yw: a ydym ni’n mynd i achub ar y cyfle hwn yn llawn, oherwydd rydym wedi bod yma o'r blaen? Crëwyd Cyllid Cymru ei hun, wrth gwrs, yn 2000 i weithredu mewn modd tebyg i fanc, fel y gwelsom, doedd yn ddim byd tebyg i fanc. Ac rydym wedi gweld ymdrechion eraill, onid ydym: y Banc Buddsoddi Gwyrdd, Banc Busnes Prydain, Banc Buddsoddi’r Alban, sydd i bob pwrpas yn gronfa cyfalaf gyhoeddus a weithredir gan Scottish Enterprise, nid banc mewn gwirionedd yn yr ystyr llafar neu dechnegol yr ydym ni yn ei ddeall.

Felly rwy’n credu mai dyna'r safon y mae’n rhaid i ni gymharu’r sefydliad newydd â hi, ac yn hynny o beth, mewn gwirionedd, yr hoffwn i gael synnwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet o beth yw ei uchelgais, pa mor uchel yw ei uchelgeisiau ar gyfer y banc hwn, a pha led a chwmpas sydd ganddo mewn golwg ar gyfer datblygu'r math o arloesedd y mae wedi cyfeirio ato, yn y blynyddoedd sydd i ddod. A fydd yn darparu gwasanaethau fel y gwarantau benthyciadau sy'n cael eu cynnig trwy gronfa twf yr Alban, gwarantau allforio, sy’n hanfodol bwysig wrth i ni fynd i’r cyfnod anodd ar ôl Brexit? Mae wedi sôn am drosoledd. Wrth gwrs, un o'r mathau gorau o drosoledd sydd gan unrhyw fanc, wrth gwrs, yw bancio wrth gefn ffracsiynol, dod yn sefydliad sy’n cymryd adneuon, boed hynny yn adneuon fel a geir mewn rhai banciau cyhoeddus, sy’n dod mewn gwirionedd oddi wrth y sector cyhoeddus—byddwn ni’n cael ein derbyniadau treth ein hunain cyn bo hir, beth y gallem ni ei wneud â'r rheiny, o’u defnyddio’n bwyllog—neu’n dod yn sefydliad sy’n cymryd adneuon o'i gleientiaid busnes. Felly, a oes gan y banc hwn y gallu i ddatblygu yn y cyfeiriad hwnnw?

Ac mae ychydig o bethau, wrth gwrs, yr awgrymodd yr adolygiad mynediad at gyllid na ddylai'r banc eu gwneud o bosibl, ac mae'n ymddangos efallai y bydd yn dal i fwrw yn ei flaen a’u gwneud: y cyfeiriad at weithredu cronfeydd mewn gwirionedd, rheoli cronfeydd, yn Lloegr. A yw hynny mewn gwirionedd yn arwain at iddo golli ei bwyslais ar ei brif nod polisi cyhoeddus? A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gan Gyllid Cymru ac felly, yn ôl pob tebyg, y banc datblygu, gynlluniau i weithredu pump neu chwech o gronfeydd yn Lloegr? Roedd cronfeydd cyfalaf menter, hefyd, yn faes arall yr awgrymodd yr adolygiad mynediad at gyllid y byddai’n well ei roi i is-gontractiwr sy’n arbenigo mewn cronfeydd cyfalaf menter, mewn gwirionedd, ynghyd â’r gronfa gwyddorau bywyd, yn hytrach na bod Cyllid Cymru yn gwneud hynny’n fewnol. Ai dyna’r model y bydd y banc datblygu yn ei ddatblygu? Yn olaf, er mwyn i ni allu cael y trafodaethau angenrheidiol hyn mewn mwy o fanylder nag yr ydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd, a gawn ni weld copi o'r cynllun busnes, fel y gallwn ni sicrhau craffu priodol ar y materion hyn a llawer o faterion eraill?

Yn olaf, olaf, croesawaf y ffaith nad yw’r sefydliad cenedlaethol newydd pwysig hwn yn mynd i fod wedi’i leoli yma yng Nghaerdydd ond yn y gogledd, mewn gwirionedd. Mae Plaid Cymru wedi cyfeirio o'r blaen at Wrecsam fel prifddinas ariannol Cymru. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â hynny. Ond a allwn ni gael rhai niferoedd hefyd o ran nifer y bobl a fydd yn cael eu lleoli yn y pencadlys? Ac a yw hyn—. Gan ein bod yn sôn am sefydliadau newydd—yr awdurdod refeniw Cymru newydd, beth am roi hwnnw yn y gogledd, hefyd, a datblygu mewn gwirionedd ar yr ochr cyllid masnachol, a hefyd ar yr ochr ariannol, rywfaint o arbenigedd go iawn a datblygu prifddinas ranbarthol ar gyfer Cymru yn y gogledd?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:47, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod yn cytuno ag ef ar lawer o'r pwyntiau y mae wedi’u gwneud am yr angen i sicrhau ein bod yn datganoli lle y gallwn ni wneud hynny a rhannu cyfleoedd ledled Cymru. Byddwn yn fwy na hapus i drafod gyda fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y syniad o sicrhau hefyd bod awdurdod refeniw Cymru yn cael ei leoli y tu allan i'r brifddinas, o bosibl yng ngogledd Cymru, o bosibl yn Wrecsam.

O ran symud i Wrecsam, rydym yn edrych ar ddau ddewis achos busnes yn ymwneud â sefydlu pencadlys y banc yn y gogledd, er mai dim ond un sy’n cynnig awgrym o’r gost debygol. £5 miliwn yw’r gost honno fel y mae’n sefyll. Ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried yr holl gyfleoedd ar gyfer datganoli, fel y dywedais, nid yn unig sefydliadau cenedlaethol ond llawer o'r gweithgareddau sy'n creu cyfoeth o fewn ein gallu. Nid yw'r dewis a ffefrir i atgyfnerthu swyddogion a swyddogaethau penodol yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi ei gostio ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y bydd swyddogion yn ei werthuso pan fydd rhagor o ddata ar gael, ac mae angen i swyddogion weld dadansoddiad manwl a chostau’r dewis penodol hwnnw cyn y gellir dod ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion ataf i, wrth gwrs, yn y flwyddyn newydd.

O ran y pwyntiau eraill y mae'r Aelod yn eu gwneud, mae 30 mlynedd ers colli’r banc masnachol olaf yng Nghymru, ac mae amser wedi hedfan. Ond, ers datganoli, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud y byddwn ni cyn bo hir yn bancio ac yn adeiladu mewn ffordd nas gwelwyd ers 1999, ac rwy’n croesawu cyfraniad cadarnhaol yr Aelod at y ddadl heddiw yn fawr iawn. I roi rhywfaint o gefndir, mae gwreiddiau banc datblygu Cymru yn dod o’r grŵp gorchwyl a gorffen, a hefyd dau adroddiad pwyllgor gan y Cynulliad blaenorol. O ran uchelgais, fy uchelgais i ar gyfer y banc datblygu yw nodi a mynd i'r afael ag unrhyw rwystr a phob rhwystr y mae meicrofusnesau, busnesau bach neu fusnesau canolig eu maint yn eu hwynebu wrth gael gafael ar y cyllid angenrheidiol i dyfu ac i greu swyddi. Rwyf eisoes wedi gosod targedau penodol, gan gynnwys codi gwerth £1 biliwn o leiaf dros y pum mlynedd nesaf, ond fe fydd yna lythyrau cylch gwaith blynyddol, felly byddwn yn gosod targedau ac uchelgeisiau penodol yn y rheiny, a bydd sesiynau monitro a gwerthuso rheolaidd yn cael eu cynnwys ym mhob blwyddyn ariannol.

O ran gweithredu yn Lloegr a'r cynlluniau i reoli cronfeydd y tu allan i Gymru, rwy’n cydnabod bod hyn yn fater eithaf dadleuol, ond mae'r graddau y mae’r gweithgaredd hwn wedi digwydd ac y bydd yn digwydd yn gwbl gyfyngedig, ac nid yw'n amharu, rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud—nid yw ac ni ddylai amharu—ar fusnesau yng Nghymru na'r cymorth sydd ar gael. Yn wir, credaf fod yna uchafswm wedi’i bennu ar faint o incwm y gellir ei godi drwy weithgareddau y tu allan i Gymru, a bod y cap hwnnw wedi ei osod ar hyn o bryd, rwy’n credu, ar 10 y cant, a byddwn yn dymuno gweld y cap yn cael ei gynnal. Rwy’n credu bod gweithgaredd y tu allan i Gymru yn arwydd, ar hyn o bryd, o broffesiynoldeb Cyllid Cymru, ac, yn y dyfodol, banc datblygu Cymru, ac mae’n dangos hefyd eu bod yn gallu cystadlu'n effeithiol am gontractau y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn bwysig bod staff banc datblygu Cymru yn parhau i wella yn gyson o ran eu sgiliau a’u gwybodaeth, ac, unwaith eto, gall cael profiad o weithgareddau ar draws y ffin helpu yn hyn o beth.

O ran y cwestiwn am is-gontractio cronfeydd cyfalaf menter, pan ofynnodd Llywodraeth Cymru am geisiadau cystadleuol gan wasanaethau rheoli cronfeydd, roedd achosion lle nad oedd unrhyw gynigwyr eraill heblaw am Cyllid Cymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn ymwybodol o hyn. Ac mae achos busnes banc datblygu Cymru yn nodi y byddai gwasanaethau cymorth a rheoli buddsoddi ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu cytuno ar sail achos unigol, gan ddibynnu ar ofynion prosiect unigol. O ran y cynllun busnes hwnnw yr wyf yn cyfeirio ato, mae’r Aelod wedi codi’r cwestiwn hwn yn y gorffennol ac rwy'n falch o ddweud y byddaf yn ymrwymo i gyhoeddi'r cynllun busnes pan fydd yn barod. Ar hyn o bryd, mae'n dal i fod ar ffurf ddrafft, ac rydym yn parhau i ystyried adborth gan randdeiliaid sydd â diddordeb, ond gallaf ymrwymo heddiw i’w gyhoeddi.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:52, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd y banc datblygu yn cael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn newydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn ychydig yn siomedig bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ychydig iawn yn y datganiad heddiw o ran yr achos busnes ar gyfer model hybrid y banc datblygu i ganiatáu ar gyfer craffu heddiw gan Aelodau'r Cynulliad. Rwy’n falch ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn darparu achos busnes i'r Aelodau. Efallai pe gallech roi gwybod i ni pryd y byddwch yn disgwyl i hynny fod, byddai hynny o gymorth heddiw.

Mewn ffordd, i mi, y cyfan sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw, mae’n ymddangos—. Mae'n ymddangos i mi yn ymarfer ailfrandio cosmetig, ac mae cynnwys gweinyddiaeth y swyddogaeth cymorth i brynu, sydd eisoes yn cael ei arfer gan Cyllid Cymru, rwy’n meddwl, yn cadarnhau’r pwynt hwnnw. Mae gen i ychydig o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pam y dewisodd y model hybrid hwn yn benodol, gan fynd yn groes i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, nad oedd yn awyddus i weld Cyllid Cymru yn esblygu yn fanc datblygu. Awgrymodd Cyllid Cymru yn ddiweddar y byddai cymorth busnes yn rhan o gylch gwaith y banc datblygu, ond nid yw’n ymddangos mai dyna yw tôn eich datganiad chi heddiw. Beth fyddai’n digwydd pe byddai Busnes Cymru yn y pen draw yn dod yn rhan o'r banc datblygu? Byddwn yn ddiolchgar am eich barn a rhywfaint o eglurder ynghylch hynny.

A ydych chi wedi diystyru esiampl Llywodraeth yr Alban o ran darparu cyllid ar ffurf gwarantau benthyciadau hyblyg heb fod angen cyfalaf cyfochrog? Gallai hyn, wrth gwrs, gefnogi rhai o'r busnesau bach mwyaf arloesol yng Nghymru sydd â'r potensial mwyaf i dyfu’n sylweddol, ond nad oes ganddynt, wrth gwrs, yr asedau i fenthyca yn eu herbyn.

Rydych chi hefyd wedi dweud na fydd y banc yn cystadlu yn erbyn benthycwyr eraill yn y sector preifat, ond yn hytrach yn darparu cyllid atodol i fynd i’r afael â methiant yn y farchnad, a darparu cyllid i’r busnesau bach a chanolig hynny na fyddent yn ei gael fel arall. Sut y byddwch chi’n sicrhau na fydd y banc datblygu yn cael ei ystyried yn fenthyciwr pan fetho popeth arall, ac y bydd yn trosoli cyllid sector preifat? Ac a ydych chi’n disgwyl y bydd y banc yn y pen draw yn ariannu ei hun, ac, os felly, pa asesiad ydych chi wedi’i wneud o oblygiadau hyn ar y cyfraddau llog sy'n ofynnol er mwyn gwneud elw?

Rwyf innau hefyd yn croesawu, fel Adam Price, y penderfyniad i leoli'r banc datblygu y tu allan i'r brifddinas. Rwyf innau’n croesawu hynny’n fawr, hefyd. A fydd staff presennol Cyllid Cymru yn symud i leoliad newydd, ac, os byddant, a oes yna oblygiad cost i hynny a beth yw’r gost honno? Pa ystyriaeth a roddwyd gennych i fodel a fyddai'n gweld busnesau bach a chanolig eu maint yn cael y cyfle i gael mynediad at gyllid yn lleol, trwy system o fanciau buddsoddi rhanbarthol sy’n atebol yn ddaearyddol a fyddai'n dod â chyllid yn nes at fusnesau mewn gwahanol rannau o Gymru? Yn olaf, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yr ydych chi’n gweld perthynas y banc datblygu â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:56, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, unwaith eto, am ei gefnogaeth eang ar gyfer yr hyn yr ydym wedi’i gyflwyno heddiw i'r Cynulliad. Rwyf hefyd yn falch bod yr Aelod yn cydnabod y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi. Byddwn yn gobeithio bod mewn sefyllfa i’w gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Unwaith eto, mae'n amodol ar dderbyn yr adborth gan randdeiliaid â buddiant ac ystyried yr adborth hwnnw yn llawn, fel y gall y cynllun busnes symud y tu hwnt i'r ffurf ddrafft.

Nid wyf yn credu nad yw hyn ond yn achos o ailfrandio Cyllid Cymru yn gosmetig, oherwydd, yn ei hanfod, mae banc datblygu Cymru mewn gwirionedd yn adlewyrchu dau adroddiad pwyllgor, y cyntaf o 2014. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ar y pryd ei adroddiad ar Cyllid Cymru, gan ddatgan ei fod wedi canfod bod Cyllid Cymru, ar y cyfan, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi Cymru ac mae’r hyn yr oedd ei angen oedd eglurhad o'i swyddogaeth a chylch gwaith yn hytrach nag ailwampio’r holl beth. Ac yna, yn 2015, pwysleisiodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar y pryd a hefyd y Pwyllgor Cyllid bwysigrwydd datblygu arbenigedd a phrofiad Cyllid Cymru fel sail ar gyfer model y banc datblygu. Felly, rwy’n meddwl bod yr hyn yr ydym yn ei gyflwyno yn adlewyrchu'n llawn yr hyn yr oedd pwyllgorau yn y sefydliad cenedlaethol hwn yn galw amdano, ond, ar yr un pryd, yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu’r cyllid sydd ar gael a gwella’r mynediad ato ar gyfer meicrofusnesau, busnesau bach a busnesau o faint canolig.

O ran y cwestiwn am gronfeydd hyblyg, efallai y byddai o fudd pe bawn i’n amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran datblygiad cronfa fuddsoddi hyblyg Cymru, sy’n faes yr wyf yn gwybod bod gan yr Aelod ddiddordeb mawr ynddo. Mae fy swyddogion yn datblygu’r gronfa newydd honno gyda Cyllid Cymru, ac, ar yr amod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cytuno, gallai maint y gronfa fod yn £77.75 miliwn, gyda dyhead i gyrraedd cyfanswm o £100 miliwn yn y pen draw. Y bwriad fyddai lansio’r gronfa benodol honno erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Byddwn, wrth gwrs, yn herio banc datblygu Cymru i ddenu cyllid preifat ychwanegol, a bydd hyn yn cael ei nodi bob blwyddyn yn y llythyr cylch gwaith, ynghyd â thargedau i’w cyrraedd. Dros gyfnod pob blwyddyn ariannol, bydd, fel y dywedais yn gynharach, perfformiad banc datblygu Cymru yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn defnyddio pob modd o ddenu cyllid sydd ar gael iddo i gynyddu faint o gyllid preifat y mae’n ei ddenu ac i sicrhau bod hynny'n cael ei ddefnyddio yn y modd gorau gan gwsmeriaid busnes.

Rwy’n meddwl y cododd yr Aelod y cwestiwn am gyfraddau llog a chost cyllid. Mae'n werth amlinellu, rwy’n meddwl, bod cyfraddau llog blynyddol Cyllid Cymru yn amrywio o 4 y cant i 12 y cant. Rwy’n cydnabod mai beirniadaeth a ddyfynnir yn aml am Cyllid Cymru yw y bu’n rhy ddrud i fenthyg oddi wrtho, ond nid yw hynny'n gywir, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael i ni nawr. Yn wir, yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o gyfraddau llog a bennwyd gan Gyllid Cymru, a chanfuwyd y codwyd cyfraddau a oedd yn is na chyfraddau’r farchnad ar fwy na 70 y cant o fusnesau, a barnwyd bod 6 y cant ar gyfraddau’r farchnad: roedd y mwyafrif llethol, felly, yn benthyca ar gyfraddau’r farchnad neu islaw hynny. Byddwn yn disgwyl i hyn barhau wrth i’r banc newydd ddatblygu, a byddwn yn disgwyl i fusnesau o bob maint allu manteisio ar y ffurfiau hynny o gyllid am gost is.

O ran staff—ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei gefnogaeth i sefydlu banc datblygu Cymru yn y gogledd. O ran y staff a fydd yn symud yno, fel yr amlinellais wrth Adam Price, mae dau gynnig wedi eu cyflwyno. Mae un wedi’i gostio—amcangyfrifir mai tua £5 miliwn fydd y gost; ond nid yw'r llall yn cynnwys amcangyfrif o gost eto, ond byddwn yn craffu ar yr ail ddewis hwnnw cyn gynted ag y bydd rhagor o fanylion ar gael i ni. O ran banciau buddsoddi rhanbarthol, byddai hyn, yn fy marn i, yn cymryd mwy o amser i'w sefydlu, ond rwy’n meddwl y bydd swyddogaeth a dyletswydd ar fanc datblygu Cymru i fod yn berthnasol ac i fod yn hygyrch i bob cymuned ledled Cymru. Felly, bydd yn gwbl hanfodol ei fod yn cydweithio â Busnes Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd a'r gweithgareddau y mae’n cymryd rhan ynddynt.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:01, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r datganiad heddiw. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae'n bwriadu ehangu'r set sgiliau—y gronfa o bobl sydd ar gael i weithio yn y banc datblygu a’i ddatblygu? Oherwydd, yn amlwg, mae'n anodd denu pobl sydd â gwybodaeth a sgiliau’r sector ariannol, sef sector sydd wedi’i wreiddio gymaint yn Llundain. Rwy'n falch iawn bod Cyllid Cymru yn sail i'r banc datblygu, oherwydd ei hanes cadarnhaol o gyflawni. Ac a fyddai'n cytuno bod y ffaith ei fod wedi darparu gwasanaethau yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr yn deyrnged i sgiliau Cyllid Cymru ac, mewn gwirionedd, yn bluen yn ei gap? Roeddwn i ar y Pwyllgor Cyllid, y mae wedi cyfeirio ato yn ei ddatganiad heddiw, a wnaeth edrych ar Cyllid Cymru, ac yn wir fe wnaethom lunio’r argymhelliad y dylai cylch gwaith Cyllid Cymru fod yn fwy eglur a dylai gael yr hawl i ddatblygu. Felly, rwy’n credu mai hwn yw’r llwybr cywir i’w ddilyn yn bendant. Tybed a fyddai’n gallu rhoi ei farn i ni ynghylch sut y gallwn ehangu nifer y bobl yma yng Nghymru sy'n gallu cyfrannu at y datblygiad hwn.

Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith y bydd y banc datblygu yn edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido. Rwy'n credu iddo gyfeirio at gyllido torfol a ffyrdd arloesol eraill o gyllido. Ni wn a all ymhelaethu ar hynny o gwbl—sut y byddant yn helpu busnesau bach i wneud hynny. Rwyf hefyd yn cefnogi'n arbennig y cymorth sy'n mynd i gael ei gynnig ar gyfer cydweithfeydd ac undebau credyd. Tybed a all ymhelaethu ar hynny.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:02, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Byddaf mor gryno ag y gallaf wrth eu hateb. Yn gyntaf oll, o ran cyllido torfol, mae amcangyfrif y bydd cyllido torfol yn tyfu’n sylweddol iawn erbyn diwedd y ddegawd hon. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad yw pob busnes, ac yn wir, nid yw pob sefydliad trydydd sector, yn ymwybodol o'r potensial na sut i fynd ati i ddenu adnoddau cyllido torfol. Bydd swyddogaeth yma, nid yn unig i fanc datblygu Cymru, ond hefyd o bosibl i Busnes Cymru, a hefyd, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud, i Ganolfan Cydweithredol Cymru, sydd eisoes wedi rhoi cyngor cadarn i lawer o sefydliadau trydydd sector ar botensial cyllido torfol.

O ran gweithgareddau yn Lloegr, fe fyddwn i unwaith eto’n cytuno â'r Aelod, ac yn dweud fy mod i’n credu bod y ffaith iddo allu sicrhau contractau ar draws y ffin yn brawf o lwyddiant Cyllid Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol, wrth dyfu sylfaen sgiliau staff yn y banc datblygu, fod ganddynt fynediad at gyfleoedd ar draws y ffin a’r cyfle i ddysgu gan y goreuon. Mae'r Aelod yn llygad ei le: rydym ni’n bell i ffwrdd o Lundain, ond byddwn yn disgwyl i fanc datblygu Cymru allu gwneud cysylltiadau a gallu sefydlu perthynas â sefydliadau ariannol yn Llundain, a allai wedyn gael eu defnyddio i gefnogi meicrofusnesau, busnesau bach a busnesau canolig eu maint yng Nghymru. O ran ehangu'r sylfaen sgiliau, ar hyn o bryd, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan Cyllid Cymru gyfarwyddwyr anweithredol newydd, cadeirydd newydd a phrif weithredwr newydd. Gallaf hefyd hysbysu'r Aelod bod Cyllid Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd i nodi’r strwythur corfforaethol a chyfalaf gorau posibl.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:04, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gadarnhau bod fy mhlaid i yn cefnogi’r cysyniad o fanc datblygu Cymru yn llwyr? Wedi dweud hynny, rydym yn credu bod yn rhaid i’w gylch gwaith fod yn benodol ac wedi’i gynllunio i gyflawni ei amcan sylfaenol, sef cyflenwi cyllid i'r sector busnesau bach, lle na allant gael arian heb ymyrraeth uniongyrchol gan y WDB. Ar ôl darllen yr astudiaeth o ddichonoldeb, sydd wrth gwrs yn adroddiad cynhwysfawr, rwyf ychydig yn siomedig â’i argymhellion. Ymddengys ei fod yn cyfleu’r syniad y dylai banc datblygu Cymru fod yn fenthyciwr pan fetho popeth arall, yn hytrach nag yn fan cychwyn. Ac oni fyddai’n cytuno bod yr adroddiad yn pennu’r defnydd o drosoledd cyfalaf preifat, megis banciau stryd fawr, sefydliadau buddsoddi, cyllid angel, cynlluniau gwarantu benthyciadau a llu o ddewisiadau benthyca eraill, a'r banc yn ddarparwr dim ond lle ceir bwlch amlwg yn y strwythur benthyca? Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i fenthycwyr fynd drwy’r felin cyn hyd yn oed yn cael eu hystyried ar gyfer benthyciad uniongyrchol gan y banc datblygu neu, yn wir, unrhyw fath o ymyrraeth uniongyrchol gan y banc.

Onid yw’n cytuno bod yr adroddiad i’w weld yn awgrymu nad yw’r banc yn ddim byd ond sefydliad cyfeirio, gan wneud dim ond cyfeirio benthycwyr posibl at sefydliadau benthyca eraill? Mae'n ymddangos bod yr union fusnesau, busnesau newydd, meicrofusnesau, busnesau bach a chanolig a hyd yn oed busnesau o faint canolig y mae’r banc wedi’i sefydlu i’w helpu yn gorfod mynd at lu o fenthycwyr eraill cyn iddynt allu cael gafael ar gyllid gan y banc datblygu ei hun, yn hytrach na'r hyn sydd ei ddirfawr angen: proses ymgeisio syml sy'n rhoi mynediad uniongyrchol at gronfeydd. Onid dyma pam y sefydlwyd y banc, i fod yn fenthyciwr cyntaf ac uniongyrchol i’r busnesau bach hyn. Y rheswm dros sefydlu’r banc hwn, a’i raison d'être, yw'r ffaith na all busnesau bach yn amlwg gael gafael ar arian gan fanciau masnachol arferol.

Gallaf eich sicrhau na fyddem ni yn y blaid hon fyth yn condemnio’r Llywodraeth hon am gymryd risgiau wrth fenthyca i fusnesau eraill, ac os oes canlyniad i hynny, os na fydd rhai o’r busnesau hynny yn datblygu neu’n tyfu yn y ffordd a ragwelwyd gan y Llywodraeth rywbryd yn y dyfodol, ni fyddwn yn condemnio’r Llywodraeth hon, na’r banc ei hun, am wneud hynny. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:07, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud y bydd y cylch gorchwyl yn glir? Nid benthyciwr pan fetha popeth arall mohono, ond yn hytrach, sefydliad a fydd yn mynd i'r afael â methiant y farchnad a bylchau ble y mae’n hysbys bod yna fylchau, a chredaf fod hynny yn cael ei adlewyrchu eisoes. Mae'r ffaith bod y cyfraddau llog yn is mewn gwirionedd nag y mae llawer o bobl yn ei gredu eisoes yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn mynd i'r afael â methiant y farchnad, yn hytrach na chodi cyfraddau uchel fel benthyciwr pan fetha popeth arall. Ond bydd y gwaith hwn yn mynd ymlaen, a bydd, fel y dywedais, lythyr cylch gwaith blynyddol ar eu cyfer, yn nodi disgwyliadau helaeth o ran buddsoddi mewn busnesau bach, busnesau microfusnesau a busnesau canolig eu maint. Ond mae'n mynd i fod yn fwy na chorff cyfeirio yn unig, y mae’r Aelod yn ofni y gallai fod. A gadewch i mi amlinellu pam mae hynny’n wir, yn seiliedig yn bennaf ar ddau gyhuddiad. Yn gyntaf oll—ac mewn gwirionedd, mae’r Aelod wedi sôn am hyn—y cyhuddiad bod Cyllid Cymru yn rhy amharod i gymryd risgiau. Wel, y gwir amdani yw y bydd y banc datblygu yn gweithredu mewn rhan o’r farchnad lle bydd yn cymryd mwy o risg na Cyllid Cymru, ac mae hwn yn fater allweddol y bydd swyddogion yn edrych arno yn rhan o’r gwerthusiad o’r cynllun busnes. Mae'n gyhuddiad y mae Cyllid Cymru yn ei wynebu’n aml, ac rydym ni'n ymwybodol iawn ohono, ond bydd y banc datblygu yn gweithredu lle na fydd y sector preifat yn ymyrryd o gwbl, neu lle nad oes digon o gyllid yn cael ei gyflenwi yn y farchnad. Ei brif bwrpas fydd mynd i’r afael â’r methiant yn y farchnad. Fel y cyfryw, bydd angen i'r banc datblygu brisio ei fuddsoddiadau ar lefel sy'n gymesur â’r risgiau y mae'n eu cymryd, wrth gwrs, ac mewn meysydd lle nad yw’r sector preifat yn gweithredu i raddau helaeth. Wedi dweud hynny, bydd y cyfraddau llog, wrth gwrs, yn parhau yn gystadleuol.

O ran y cyhuddiad yn erbyn Cyllid Cymru, sef ei fod yn cystadlu yn erbyn y sector preifat, wel, ni fydd banc datblygu Cymru yn cystadlu â'r sector preifat; yn hytrach, bydd yn ceisio gweithio'n agos gyda darparwyr y farchnad ac ategu ac ychwanegu pan fydd peth methiant yn y farchnad ar hyn o bryd, fel yr wyf wedi’i ddweud. A’r rheswm dros hyn yw oherwydd mai ei brif swyddogaeth yw llenwi'r bwlch cyllido a grëwyd pan na all archwaeth risg arianwyr y sector preifat ddiwallu anghenion busnesau bach sy’n chwilio am gyllid. Fe fydd felly, rwyf yn credu ei fod yn deg i ddweud, yn mynd ati’n fwriadol i geisio osgoi gwthio’r sector preifat allan, a bydd yn gweithio gyda busnesau newydd yn eu cyfnod cynnar lle na all y farchnad gymryd y risg cyllido.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:10, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn arbennig ei sylwadau am lenwi'r bwlch yn y farchnad, os mynnwch chi, o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer rhannau penodol o'r sector. Yn ogystal â busnesau bach, wrth gwrs, mae gan fusnesau canolig eu maint anghenion penodol, ac un o'r materion a wynebir yw ceisio cymell rheolwyr-berchnogion i beidio â gadael eu cwmnïau yn gynnar yng nghylch oes y busnes. A wnaiff ef roi ystyriaeth arbennig, yng nghylch gwaith y banc datblygu, i annog y banc i gynnig datrysiadau cyfalaf tymor estynedig i rai o'r busnesau hynny, a fyddai'n annog cadw eu hecwiti dros oes y cwmni, yn hytrach na gwerthu’r cwmni yn gynnar?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:11, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn. Mewn gwirionedd, mae'r syniad o gyfalaf tymor estynedig yn un rhagorol, ac fe allai’n wir fod yn rhan o gylch gwaith banc datblygu Cymru, ochr yn ochr ag addewidion maniffesto eraill Llywodraeth Cymru, yn bennaf, un sy'n ymwneud â thyfu busnesau cynhenid Cymru canolig eu maint i fod yn fusnesau sydd â photensial gwirioneddol fyd-eang. Yn fy marn i, rhwng y gefnogaeth y gallai banc datblygu Cymru ei rhoi a'r gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi drwy Busnes Cymru o ran cymorth, cyngor a lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â thwf ac, yn benodol, lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â recriwtio staff ychwanegol, byddwn yn galluogi mwy o fusnesau canolig eu maint yng Nghymru i ddod yn fusnesau graddfa-fawr a byd-eang o ran eu gweithrediadau.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu porth sy’n un pwynt mynediad. A gaf i bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi bod y banc datblygu yn gweithio'n adeiladol, yn rhagweithiol ac yn effeithiol gyda Busnes Cymru, a hefyd bod y banc datblygu a'i swyddogaethau yn hawdd i ficrofusnesau gael gafael arnynt? Yn olaf, yn amlwg, byddwn ar fai pe na byddwn i’n croesawu’r ffaith bod pencadlys y banc datblygu wedi’i leoli yn y gogledd, a thra byddwn i'n disgwyl i'r banc wasanaethu busnes ym mhob cwr o’r wlad, rwy’n gobeithio y bydd lleoliad y banc yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal ei hun.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:12, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? O ran y rhyngwyneb â Busnes Cymru, mae'n mynd i fod yn gwbl hanfodol bod banc datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cymorth, cyngor ac arweiniad priodol yn cael ei roi gan y cyrff perthnasol.

Ddirprwy Lywydd, mae’n fwriad gennyf sefydlu gweithgor ymateb cyflym sy'n cynnwys uwch swyddogion Busnes Cymru, a Cyllid Cymru, i ddatblygu'r maes hwn ymhellach ac i ddiffinio ymagwedd fanwl tuag at y gefnogaeth a gynigir i ficrofusnesau. Mae'r Aelod yn llygad ei lle, ac rwy’n ymwybodol o lawer o ficrofusnesau yn etholaeth Delyn. Mae’r Athro Dylan Jones-Evans ei hun yn credu y dylai'r banc datblygu ddarparu lefelau uwch o fuddsoddiad ar gyfer busnesau bach a microfusnesau, a byddwn yn cytuno’n llwyr â hynny. I gefnogi hyn, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyraniad yn y gyllideb ddrafft o £46 miliwn ar gyfer banc datblygu Cymru, a fydd yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa benthyciadau microfusnesau Cymru. Rwy’n falch ein bod ni’n mynd i weld sefydliad o’r fath â’i bencadlys yn y gogledd, ac rwy'n hyderus, wrth i’r ganolfan gyllid ranbarthol— sef Wrecsam, fel y nododd Adam Price—dyfu, bydd mwy o gyfleoedd hefyd i bobl gael eu cyflogi yn y sector hollbwysig hwn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:14, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, Nick Ramsay.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gen i gwestiwn cyflym: beth ydych chi'n ei wneud i leoleiddio’r banc datblygu newydd? Rwy’n deall eich rhesymau dros ei leoli yn y gogledd. Rydym yn croesawu hynny, ac mae Aelodau eraill wedi gwneud hynny. Ond rhan o'r feirniadaeth o Cyllid Cymru bob amser fu ei ddiffyg presenoldeb lleol mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. Yr oedd hynny'n rhan o'r rheswm pam, ychydig flynyddoedd yn ôl, y gwnaethom ddwyn ymlaen ein cynllun ar gyfer 'Buddsoddi Cymru', a gynlluniwyd i fod â mwy o bresenoldeb ar y stryd fawr, os mynnwch—yn sicr presenoldeb lleol. Felly, sut ydym ni’n mynd i gael ymdeimlad o fanc sy’n perthyn i Gymru gyfan, nid dim ond i'r gogledd a'r de, ond hefyd ar gyfer strydoedd mawr ym mhob cwr o’r genedl?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymgodymu ar hyn o bryd â banciau stryd fawr sy'n ystyried cau canghennau ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi. Ond mae’n rhaid i ni hefyd ystyried y ffaith bod mwy o weithgarwch yn cael ei wneud ar-lein. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i Cyllid Cymru adrodd ar sut y bydd yn gwella'r porth digidol a gwasanaethau digidol wrth iddo esblygu yn fanc datblygu i Gymru. Yn fy marn i, mae’n gwbl hanfodol bod y banc datblygu i Gymru yn cael ei ystyried yn gyfleuster ac yn sefydliad a fydd yn gallu cefnogi pob cymuned yn y gogledd, y de, y dwyrain, y gorllewin, a’r canolbarth, a’i fod yn berthnasol i weithrediadau pob busnes.

Unwaith eto, bydd y llythyr cylch gwaith yn cynnwys y gofyniad i brofi ymhle y mae’n buddsoddi a byddwn yn disgwyl, drwy ddangos ymhle y mae’r buddsoddiadau hynny yn cael eu gwneud, y byddwn yn gallu gweld pa mor berthnasol ydyw i bob rhan o'r wlad. Os bydd bylchau yn ymddangos, yna byddem yn disgwyl i fanc datblygu Cymru fynd i'r afael â hwy.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:16, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.