Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Mae cynllun Taf Bargoed yn enghraifft wych o bobl leol yn dod at ei gilydd, gan wneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n bodoli yn eu cymuned, a’n gweledigaeth yw gweld llawer mwy o gymunedau a busnesau yn defnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, ac ennill incwm yn y broses—rwy’n credu bod hwnnw’n beth arall i feddwl amdano. Soniais yn fy ateb cychwynnol ein bod yn cefnogi cymunedau drwy broses gwasanaeth ynni lleol. Mae hynny’n darparu cefnogaeth swyddog datblygu, mae’n darparu cyllid, ac mae hefyd yn darparu mynediad at grwpiau cyngor arbenigol. Felly, un o brif fanteision grwpiau cymunedol yn gweithio gyda’r gwasanaeth ynni lleol yw’r mynediad at gyllid cyfalaf y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig. A gwyddom o brofiad y gall grwpiau ei chael yn anodd yn aml i godi arian ar gyfer cynlluniau o’r fath, felly rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud yn siŵr fod y cyllid hwnnw ar gael yma yng Nghymru.