<p>Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:30, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ardderchog. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet am eich ymateb. Ac rwy’n ymwybodol eich bod wedi ymweld, mewn gwirionedd, â Thaf Bargoed ar ddiwedd yr Hydref—y cynllun ynni dŵr yno. Ac mai Taf Bargoed yw’r cam diweddaraf o brosiect sydd wedi trawsnewid y safle hwnnw o dri phwll glo segur yng nghanol cymuned y Cymoedd ac sydd wedi gweld lansiad y cynllun dŵr sy’n cynhyrchu incwm. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y parc yn enghraifft wych o drawsnewid safle diwydiannol yn ganolfan hamdden ac adloniant, sydd wedi dod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol, ac mae’r fenter ddiweddaraf yn ddilyniant naturiol a chadarnhaol. Ond fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar ddarparu ynni glân, er gwaethaf yr hyn rydych newydd ei ddweud am y pedwar cynllun sydd yn yr arfaeth, a gaf fi ofyn i chi sut y gallwn annog hyd yn oed mwy o gymunedau i gynhyrchu eu hynni eu hunain a dysgu o esiampl ragorol prosiectau fel Taf Bargoed?