<p>Gwella Amddiffynfeydd rhag Llifogydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:34, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, gan wario dros £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar leihau peryglon a chynnal asedau cyfredol. Mae’r buddsoddiad parhaus hwn i’w groesawu ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod cartrefi teuluol a busnesau’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd. Dros ddegawd yn ôl, cafodd tref yr Wyddgrug yn fy etholaeth ei difrodi gan lifogydd ar ôl i afon Alyn orlifo, ac mae’r ardal yn parhau i wynebu perygl llifogydd heddiw. Mae cynllun lliniaru llifogydd ar gyfer yr Wyddgrug wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer, ond hyd yn hyn, ni chafwyd cytundeb. Weinidog, a allwch sicrhau fy etholwyr fod cynlluniau yn parhau i fod ar y trywydd cywir i weithredu’r cynllun, ac y bydd y gwaith hwnnw rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru yn parhau ar y mater hwn?