Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Gwn fod fy swyddogion yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint, ac rwy’n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun yn ailasesu ac yn adolygu’r gost. Oherwydd rwy’n credu, dros 10 mlynedd, yn amlwg, mae’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers y rhagfynegiad gwreiddiol. Felly, rwy’n deall fod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd lleol i adolygu’r gwaith modelu a’r wybodaeth am yr asedau.