Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ydy, mae clywed am brofiad eich etholwyr gyda hynny yn peri pryder mawr. Ac mae’n dda iawn eich bod wedi codi’r mater yma yn y Siambr. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at froceriaid yswiriant Prydain ar unwaith i sôn am y mater, ac yn amlwg, byddaf yn rhannu’r wybodaeth honno gyda chi pan ddaw i law.