<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:40, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n mynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf: mae gweithredu’r gyfarwyddeb nitradau yn rhwymedigaeth Ewropeaidd, a thra byddwn yn dal i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac rydym yn mynd i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd am y ddwy flynedd a hanner nesaf o leiaf, rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod safonau gofynnol ar gyfer storio slyri wedi cael eu cyflwyno dros 25 mlynedd yn ôl—25 mlynedd yn ôl—ac mae’r asesiadau rydym wedi eu gwneud yn dangos nad yw tua 65 y cant o ffermydd yn bodloni’r safonau hyn. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi i ffermwyr, pan fyddant yn sôn wrthyf am hyn, yw y buasai cost cydymffurfio â gofynion Parthau Perygl Nitradau yn fach iawn i’r rhai hynny sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. I mi, mae hynny’n gwobrwyo arfer da, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Fel rwy’n ei ddweud, rydym yn ymgynghori a bydd asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei gyhoeddi maes o law.