<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:41, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n siomedig nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, ac onid yw’n wir nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi oherwydd nad oes digon o dystiolaeth wyddonol i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru? Nid yn unig nad oes digon o dystiolaeth wyddonol, ond bydd y cynigion hyn yn niweidio ffermwyr ledled Cymru mewn gwirionedd ac yn cael effaith sylweddol ar yr economi wledig ehangach. Ac mae’n ymddangos i mi mai gordd i dorri cneuen yw’r cynigion hyn yn y bôn a diau y bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn adleisio’r pryderon hyn mewn gwirionedd. Felly, o dan yr amgylchiadau, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gwirfoddol o weithredu ar y mater hwn, ac yn dilyn yr ymgynghoriad, a fyddwch yn awr yn ystyried barn ffermwyr ac yn wir, y diwydiant amaethyddol ac yn ystyried gweithio gyda hwy drwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?