Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Nid wyf yn cytuno â’r cwestiwn rydych yn ei ofyn i mi. Nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Rwy’n hapus iawn i weithio gyda’r diwydiant. Soniais yn fy ateb blaenorol i chi pa mor hir y mae’r safonau hyn wedi bodoli, yr hyn y mae ein hasesiadau wedi’i ddangos a sut y buasai’r gofyniad yn fach iawn ar gyfer y rhai sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. Ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymddygiad da.