Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Wel, diolch i chi, Weinidog. Rwy’n credu ei fod yn achos llys pwysig iawn ac er mai yn erbyn DEFRA y’i cynhaliwyd, cyfrifoldeb adrodd y DU o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer ydyw mewn gwirionedd. Felly, mae’n effeithio arnom ni, ac roedd yn goddiweddyd neu’n cydredeg â’ch ymgynghoriad chi ar ansawdd aer, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Yn yr ymgynghoriad ar ansawdd aer fe ddywedoch hyn:
‘Mae cryn ansicrwydd ynghylch i ba raddau y byddwn yn dal i orfod cadw at ein dyletswyddau presennol yn yr Undeb Ewropeaidd—’ er bod eich ymateb i Paul Davies yn swnio fel pe baech wedi eich rhwymo gan eich dyletswyddau UE presennol—
‘gyda golwg ar lygredd aer a sŵn ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn ddweud yn fanwl eto pa gamau pellach y bwriadwn fwrw ymlaen â nhw yn ystod ail, trydedd, pedwaredd a phumed flwyddyn y Cynulliad hwn.’
A gaf fi ddweud wrthych, Weinidog, ar ôl cael amcangyfrif gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint bod llygredd aer yng Nghymru yn gysylltiedig â dros 1,300 o farwolaethau cynnar—dyna ffigur Cymru; rydym wedi clywed ffigurau’r DU o’r blaen; dyna ffigur Cymru—a allwch chi wir fod mor laissez-faire yn eich ymateb ar fynd i’r afael â llygredd aer?