Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Na, nid wyf yn laissez-faire o gwbl, ac oherwydd fy mhryderon y lansiais yr ymgynghoriad mor fuan ar ôl i mi gychwyn yn y swydd. Mae gennym fframweithiau deddfwriaethol Ewropeaidd a chenedlaethol ar waith yng Nghymru. Mae’n peri pryder mawr i mi. Mae gennym yn sicr ardaloedd â phroblem, os mai ardaloedd â phroblem yw’r term cywir, lle y ceir ansawdd aer gwael iawn, sy’n peri pryder i mi. Fe sonioch am yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Mae swyddogion eisoes wedi dechrau dadansoddi’r ymatebion, a byddaf yn gallu cyflwyno mwy o wybodaeth pan fydd hwnnw wedi’i gwblhau, yn amlwg.