Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu y bydd ffermwyr ac, yn wir, busnesau bach yn gyffredinol yn siomedig iawn gyda’r ymateb cyndyn a roddodd ysgrifennydd yr amgylchedd i gwestiwn Paul Davies yn gynharach. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cynnal arolwg o ffermwyr a’r effaith y buasai cyflwyno parthau perygl nitradau yn ei gael arnynt a’u diwydiant, ac maent wedi canfod nad oes gan 73 y cant o’r ffermwyr sy’n cynhyrchu slyri yng Nghymru ddigon o gyfleusterau storio i fodloni gofynion y cynigion Parthau Perygl Nitradau, ac y byddai’r gost gyfartalog o gydymffurfio â hwy bron yn £80,000. Mewn byd lle y mae incwm ffermydd yn isel ac yn plymio—mae incwm ffermydd wedi gostwng 25 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf—bydd dull ansensitif o fynd i’r afael â’r broblem hon yn syml yn golygu y bydd busnesau nifer fawr o ffermwyr, yn enwedig yn y diwydiant llaeth, yn mynd i’r wal. Yn sicr, nid wyf yn credu fod hwnnw’n bris gwerth ei dalu am yr enillion tymor byr y mae ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori yn eu cylch.