<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:48, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n credu bod ‘ansensitif’ yn un gair na allwch ei briodoli i mi, ac yn sicr nid wyf yn ansensitif i hyn. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn gynnar ym mis Hydref, a chawsant gyfarfod adeiladol iawn. Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar sawl achlysur, ac roedd y cyfarfod diwethaf wythnos i ddydd Iau diwethaf, rwy’n credu. Yn amlwg, maent yn pryderu ac maent wedi dod â’r pryderon hynny i fy sylw. Heb ymgynghoriad—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad hwnnw, ac rwy’n mynd yn ôl at fy ateb i Paul Davies pan ddywedais y buasai’r gost gydymffurfio’n fach iawn i’r rhai sydd eisoes yn bodloni’r safonau storio presennol.