Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwyf bob amser â meddwl agored pan fyddaf yn ymgynghori, ond rwy’n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais, nad yw 65 y cant o’n ffermydd yn bodloni’r safonau—safonau sydd wedi bod ar waith ers 25 mlynedd. Ond wrth gwrs, ochr arall y geiniog yw bod 35 y cant yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai y dylem wneud yn siŵr fod arfer gorau o’r 35 y cant o ffermydd yn cael ei rannu â’r 65 y cant arall, ond mae gennyf feddwl agored yn sicr.